Hen shit emosiynol sy'n cael ei grybwyll gan bobl oedran ein rhieni i gyfiawnhau rhyfel yw 'wwww, 1939...'. Roedd y sefyllfa honno'n gwbl wahanol, lle aeth un o brif wledydd diwydiannol y byd i mewn i wlad arall, gan achosi rhyfel rhwng prif wledydd diwydiannol y byd. Dwyt ti ddim, o ddifrif, yn disgwyl i fi gredu mai Irac yw un o brif wledydd diwydiannol y byd? Mae ymladd mewnol wedi gwneud digon i sicrhau nad yw hynny'n digwydd.
Tony Blair yn poeni beth sy'n digwydd i'r Cwrdiaid a'r Iraciaid? Mae Tony Blair yn poeni am ei rym ei hun a sut bydd e'n cael ei weld yn hanesyddol nag unrhyw beth arall. Os yw America a Phrydain yn poeni gymaint am y Cwrdiaid, pam nag y'n nhw'n cael sancsiynau yn erbyn Twrci am bethau fel Argae Ilisu ac ymosodiadau awyr yn erbyn y Cwrdiaid. Ond, na, maen nhw'n ddigon bodlon cadw Twrci ac Israel, gwir rymoedd milwrol yr ardal, yno fel eu 'attack dogs' personol, ac yn troi eu cefnau ar unrhyw lofruddiaethau ac ymosodiadau terfysgol ganddynt.