Cweir i America yn Irac: Gorau po gynta

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Maw 20 Ebr 2004 1:01 pm

Hen shit emosiynol sy'n cael ei grybwyll gan bobl oedran ein rhieni i gyfiawnhau rhyfel yw 'wwww, 1939...'. Roedd y sefyllfa honno'n gwbl wahanol, lle aeth un o brif wledydd diwydiannol y byd i mewn i wlad arall, gan achosi rhyfel rhwng prif wledydd diwydiannol y byd. Dwyt ti ddim, o ddifrif, yn disgwyl i fi gredu mai Irac yw un o brif wledydd diwydiannol y byd? Mae ymladd mewnol wedi gwneud digon i sicrhau nad yw hynny'n digwydd.

Tony Blair yn poeni beth sy'n digwydd i'r Cwrdiaid a'r Iraciaid? Mae Tony Blair yn poeni am ei rym ei hun a sut bydd e'n cael ei weld yn hanesyddol nag unrhyw beth arall. Os yw America a Phrydain yn poeni gymaint am y Cwrdiaid, pam nag y'n nhw'n cael sancsiynau yn erbyn Twrci am bethau fel Argae Ilisu ac ymosodiadau awyr yn erbyn y Cwrdiaid. Ond, na, maen nhw'n ddigon bodlon cadw Twrci ac Israel, gwir rymoedd milwrol yr ardal, yno fel eu 'attack dogs' personol, ac yn troi eu cefnau ar unrhyw lofruddiaethau ac ymosodiadau terfysgol ganddynt.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Dielw » Maw 20 Ebr 2004 1:07 pm

GDG a ddywedodd:America ddywedodd wrth Saddam am ymosod ar Kuwait!

Sori ddim yn dallt. Oes na ffynhonnell ne be? :winc:
One day this chalk outline will circle this city

Survival... Recovery... Prevention la la la
Rhithffurf defnyddiwr
Dielw
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 960
Ymunwyd: Iau 30 Hyd 2003 4:08 pm
Lleoliad: heheheee... urgh

Postiogan Hernan Rodriguez » Maw 20 Ebr 2004 1:18 pm

Dielw a ddywedodd:
GDG a ddywedodd:America ddywedodd wrth Saddam am ymosod ar Kuwait!

Sori ddim yn dallt. Oes na ffynhonnell ne be? :winc:

Y stori yw fod Sadam wedi cael cyfarfod gyda llys genad yr UDA ar y pryd ynglyn a'r posibilrwydd o symud i mewn ar Kuwait a'i fod wedi dod o'r cyfarfod yn tybio nad oedd yr Americanwyr yn wrthwynebus i'r symudiad. Rwy'n credu fod yr honiadau Iracaidd bod Kuwait yn dwyn eu holew rywbeth i'w wneud a'r peth.
Hernan Rodriguez
 

Postiogan Garnet Bowen » Maw 20 Ebr 2004 1:20 pm

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Hen shit emosiynol sy'n cael ei grybwyll gan bobl oedran ein rhieni i gyfiawnhau rhyfel yw 'wwww, 1939...'. Roedd y sefyllfa honno'n gwbl wahanol, lle aeth un o brif wledydd diwydiannol y byd i mewn i wlad arall, gan achosi rhyfel rhwng prif wledydd diwydiannol y byd. Dwyt ti ddim, o ddifrif, yn disgwyl i fi gredu mai Irac yw un o brif wledydd diwydiannol y byd? Mae ymladd mewnol wedi gwneud digon i sicrhau nad yw hynny'n digwydd.


Be ddiawl sydd gan faint Irac i'w wneud efo dim byd? Y pwynt oedd Dielw yn ei wneud oedd ein bod ni wedi bod yn gyfrifol am dwf Natsiaeth yn Almaen y 30au, ond fysa na neb call yn defnyddio'r ffaith yma fel dadl yn erbyn mynd i ryfel yn erbyn Hitler.

GDG a ddywedodd:Tony Blair yn poeni beth sy'n digwydd i'r Cwrdiaid a'r Iraciaid? Mae Tony Blair yn poeni am ei rym ei hun a sut bydd e'n cael ei weld yn hanesyddol nag unrhyw beth arall. Os yw America a Phrydain yn poeni gymaint am y Cwrdiaid, pam nag y'n nhw'n cael sancsiynau yn erbyn Twrci am bethau fel Argae Ilisu ac ymosodiadau awyr yn erbyn y Cwrdiaid. Ond, na, maen nhw'n ddigon bodlon cadw Twrci ac Israel, gwir rymoedd milwrol yr ardal, yno fel eu 'attack dogs' personol, ac yn troi eu cefnau ar unrhyw lofruddiaethau ac ymosodiadau terfysgol ganddynt.


Mae cymharu codi argae Illusu gyda llofruddiaethau Saddam yn beth hollol dwp i'w wneud, ond dwi'n cymeryd dy bwynt di fod Twrci yn ymddwyn mewn modd annerbyniol ar adegau. Ond mae Ewrop yn defnyddio pwysau diplomataidd i geisio rhoi terfyn ar hyn, drwy fynnu eu bod nhw'n cyd-ymffurfio a safonau dyngarol cyn cael ymuno a'r Undeb Ewropeaidd. Toedd y math yma o bwysau diplomataidd ddim yn mynd i weithio gyda Iraq.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Sioni Size » Maw 20 Ebr 2004 1:22 pm

Mae hyn yn wir. Cafodd Irac alwad gan Bush yn nodi na fyddai America'n sefyll yn eu ffordd petaent yn meddianu Kuwait. Roedd hyn, a la Thatcher yn y Falklands, yn ffordd o sicrhau fod y rhyfel yn digwydd.

Y rheswm ymosododd Irac ar Kuwait oedd eu bod yn tynnu allan o ddel olew hefo Irac gan greu del eu hunain gydag America ar ol cytundeb.

Mae'r holl beth yn ddiawledig o drist, ac yn profi unwaith eto mai elw yw craidd pob rhyfel.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Maw 20 Ebr 2004 1:27 pm

Ond, Garnet, mae digonedd o dystiolaeth bod Twrci wedi llofruddio ac arteithio er mwyn ceisio gorfoi'r Cwrdiaid i ufuddhau a'u cynlluniau i godi'r argae. Pam bod hynny'n fwy derbyniol ar dy sbectrwm moesegol?

Hefyd, Dielw, gweler y ddolen, sy'n cynnwys y paragraff canlynol:

The 1991 Gulf War marked the first time since 1958 that the U.S. launched a full-scale invasion of the Middle East in order to protect its interests. Up to the day that Iraq invaded Kuwait, Saddam Hussein was under the impression that his actions would be acceptable to Washington. Bled dry by the war with Iran, Iraq was angry over Kuwait's insistence on dumping oil on the world market when Iraq needed better oil revenues to pay for the war. When Iraq began threatening Kuwait, U.S. ambassador April Glaspie told Saddam, "We have no opinion on Arab-Arab conflicts like your border disagreement with Kuwait."22 But when Iraq invaded Kuwait soon after, the U.S. completely reversed its position. The U.S. could not allow Saddam Hussein to upset the balance of power by taking control of a quarter of the Gulf's oil. Saddam Hussein was a brutal military dictator long before he tried to get control of Kuwaiti oil. The only difference is that pre-invasion, he was a friend of the United States, whereas post-invasion, he had suddenly become the "new Hitler."
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Garnet Bowen » Maw 20 Ebr 2004 1:36 pm

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Ond, Garnet, mae digonedd o dystiolaeth bod Twrci wedi llofruddio ac arteithio er mwyn ceisio gorfoi'r Cwrdiaid i ufuddhau a'u cynlluniau i godi'r argae. Pam bod hynny'n fwy derbyniol ar dy sbectrwm moesegol?


Nid amddiffyn Twrci ydw i, ond tydi eu gweithgareddau nhw ddim yn cymharu ac erchylldodau Saddam

GDG a ddywedodd:Hefyd, Dielw, gweler y ddolen, sy'n cynnwys y paragraff canlynol:

The 1991 Gulf War marked the first time since 1958 that the U.S. launched a full-scale invasion of the Middle East in order to protect its interests. Up to the day that Iraq invaded Kuwait, Saddam Hussein was under the impression that his actions would be acceptable to Washington. Bled dry by the war with Iran, Iraq was angry over Kuwait's insistence on dumping oil on the world market when Iraq needed better oil revenues to pay for the war. When Iraq began threatening Kuwait, U.S. ambassador April Glaspie told Saddam, "We have no opinion on Arab-Arab conflicts like your border disagreement with Kuwait."22 But when Iraq invaded Kuwait soon after, the U.S. completely reversed its position. The U.S. could not allow Saddam Hussein to upset the balance of power by taking control of a quarter of the Gulf's oil. Saddam Hussein was a brutal military dictator long before he tried to get control of Kuwaiti oil. The only difference is that pre-invasion, he was a friend of the United States, whereas post-invasion, he had suddenly become the "new Hitler."


Mi fyswn i'n fwy tebygol o gymeryd dy ddyfyniadau di o ddifri tasa nhw'n dwad o ffynhonell dipyn bach yn fwy di-duedd na'r International Socialist Review - The journal of Revolutionary Marxism.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Sioni Size » Maw 20 Ebr 2004 1:46 pm

Blydi Marcsists. Am y gwir a dim ond y gwir gwrandewch ar Tony a George, y cyfalafwyr fedrwch eu trystio.
Garnet Bowen
Mae cymharu codi argae Illusu gyda llofruddiaethau Saddam yn beth hollol dwp i'w wneud, ond dwi'n cymeryd dy bwynt di fod Twrci yn ymddwyn mewn modd annerbyniol ar adegau. Ond mae Ewrop yn defnyddio pwysau diplomataidd i geisio rhoi terfyn ar hyn, drwy fynnu eu bod nhw'n cyd-ymffurfio a safonau dyngarol cyn cael ymuno a'r Undeb Ewropeaidd. Toedd y math yma o bwysau diplomataidd ddim yn mynd i weithio gyda Iraq.

Petaet yn troedio oddi ar y llwybr sefydliadol am unwaith mi fyset yn darganfod fod triniaeth y Twrciaid o'r Cwrdiaid yn cymharu'n hynod anffafriol a safonau honedig Tony a George (aha) hyd yn oed.

Mae Twrci yn gormesu'r Cwrdiaid heddiw. Wrth gwrs, yn ol dy logic di mae angen 'pwysau diplomataidd' ar wlad sy'n gormesu'r Cwrdiaid heddiw ond mynd i ryfel yn erbyn gwlad na wnaeth ddim i'r Cwrdiaid ers dros 13 mlynedd.
Arbennig.
http://www.dozame.org/article.php?story ... 1113622246
http://www.lsp-mas.be/lsp/2002/1811koerdistan.html
http://chronicle.com/free/v48/i45/45a03401.htm
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Maw 20 Ebr 2004 1:48 pm

Ffycin hell, shwt o'n i'n gwbod na fyset ti'n derbyn hynna oherwydd ei fod e'n dod o gyhoeddiad asgell chwith, eh?

Dyma ti. Garnet, trawsgrifiad o gyfarfod Glaspie a Hussein, iawn? Sydd yn cynnwys y brawddegau:

April Glaspie a ddywedodd:But we have no opinion on the Arab-Arab conflicts, like your border disagreement with Kuwait.

I was in the American Embassy in Kuwait during the late 60's. The instruction we had during this period was that we should express no opinion on this issue and that the issue is not associated with America. James Baker has directed our official spokesmen to emphasize this instruction. We hope you can solve this problem using any suitable methods via Klibi or via President Mubarak. All that we hope is that these issues are solved quickly.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Dielw » Maw 20 Ebr 2004 1:49 pm

Falle bod "The Journal of Revolutionary Marxism" yn dangos tuedd? Os mae hyn yn wir mae o'n drist iawn.

Diolch Garnet am neud fy mwynt yn glir re:1939.
One day this chalk outline will circle this city

Survival... Recovery... Prevention la la la
Rhithffurf defnyddiwr
Dielw
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 960
Ymunwyd: Iau 30 Hyd 2003 4:08 pm
Lleoliad: heheheee... urgh

NôlNesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron