Cweir i America yn Irac: Gorau po gynta

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Owain Llwyd » Maw 20 Ebr 2004 1:51 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:Mae cymharu codi argae Illusu gyda llofruddiaethau Saddam yn beth hollol dwp i'w wneud, ond dwi'n cymeryd dy bwynt di fod Twrci yn ymddwyn mewn modd annerbyniol ar adegau. Ond mae Ewrop yn defnyddio pwysau diplomataidd i geisio rhoi terfyn ar hyn, drwy fynnu eu bod nhw'n cyd-ymffurfio a safonau dyngarol cyn cael ymuno a'r Undeb Ewropeaidd. Toedd y math yma o bwysau diplomataidd ddim yn mynd i weithio gyda Iraq.


Dw i ddim yn gwybod am weddill gwledydd Ewrop, ond mi oedd llywodraeth Prydain yn mynd i roi gwerth £200 miliwn o warantiad export credit i helpu Balfour Beatty i gymryd rhan yn y prosiect Ilisu. Mi wnaeth Balfour Beatty dynnu allan yn y pen draw, ond dw i ddim yn gallu gweld sut mae parodrwydd i'w cefnogi nhw mor hael yn cyd-fynd efo pwysau ar lywodraeth Twrci i barchu hawliau'r Cwrdiaid.
Where is the horse and the rider? Where is the Horn that was blowing? They have passed like rain on the mountain, like a wind in the meadow. The days have gone down in the West, behind the hills, into Shadow.
Rhithffurf defnyddiwr
Owain Llwyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 335
Ymunwyd: Gwe 09 Mai 2003 9:50 am
Lleoliad: Llanrug

Postiogan Garnet Bowen » Maw 20 Ebr 2004 1:56 pm

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Ffycin hell, shwt o'n i'n gwbod na fyset ti'n derbyn hynna oherwydd ei fod e'n dod o gyhoeddiad asgell chwith, eh?


Asgell chwith ydi'r Guardian neu'r Independent. Mae cylchgrawn "revolutionary marxist" yn perthyn i fyd gwahanol. Rhyfedd sut ei bod hi'n dderbyniol darllen cylchgrawn o'r fath, tra bysa'r "Journal of International Nazism" yn cael ei gondemnio gan bawb ar y bwrdd.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Maw 20 Ebr 2004 1:58 pm

Wel, rwyt ti wedi cael dy gopi ffeithiol a di-duedd bellach, felly gad dy gonan.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Garnet Bowen » Maw 20 Ebr 2004 1:58 pm

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:
Dyma ti. Garnet, trawsgrifiad o gyfarfod Glaspie a Hussein, iawn? Sydd yn cynnwys y brawddegau:



Mae hyn yn anhygoel - ti wedi mynd o ddyfynu cylchgrawn "revolutionary marxist" i ddyfynnu dogfen swyddogol gan lywodraeth Saddam Hussein ei hun. :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Dielw » Maw 20 Ebr 2004 2:07 pm

Ali Gemegol fydd nesa. :lol:
One day this chalk outline will circle this city

Survival... Recovery... Prevention la la la
Rhithffurf defnyddiwr
Dielw
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 960
Ymunwyd: Iau 30 Hyd 2003 4:08 pm
Lleoliad: heheheee... urgh

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Maw 20 Ebr 2004 2:10 pm

Sori, Garnet. Anghofies i dy fod ti'n gwrthod credu unrhyw beth sydd wedi'i sgwennu gan bobl sydd ddim yn meddu ar yr un daliadau gwleidyddol a ti...

Hei! Beth am drafod barn America am ymosodiadau cemegol yng ngogledd Irac yn lle 'ny. Mae'n siwr y cawn ni lot fawr o hwyl... :lol:
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Hernan Rodriguez » Maw 20 Ebr 2004 2:12 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Ffycin hell, shwt o'n i'n gwbod na fyset ti'n derbyn hynna oherwydd ei fod e'n dod o gyhoeddiad asgell chwith, eh?


Asgell chwith ydi'r Guardian neu'r Independent. Mae cylchgrawn "revolutionary marxist" yn perthyn i fyd gwahanol. Rhyfedd sut ei bod hi'n dderbyniol darllen cylchgrawn o'r fath, tra bysa'r "Journal of International Nazism" yn cael ei gondemnio gan bawb ar y bwrdd.

Glywes i rioed y fath beth. Mae cymharieth o'r fath yn hollol hurt a gwarthus. Mae casineb hiliol yn greiddiol i syniadau natsiaeth, cael eu cam-ddefnyddio gan bobl fel Stalin wnaeth Marxiaeth.
Hernan Rodriguez
 

Postiogan Garnet Bowen » Maw 20 Ebr 2004 2:18 pm

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Sori, Garnet. Anghofies i dy fod ti'n gwrthod credu unrhyw beth sydd wedi'i sgwennu gan bobl sydd ddim yn meddu ar yr un daliadau gwleidyddol a ti...

Hei! Beth am drafod barn America am ymosodiadau cemegol yng ngogledd Irac yn lle 'ny. Mae'n siwr y cawn ni lot fawr o hwyl... :lol:


Dwi jysd yn meddwl ei bod hi'n bwysig gwahaniaethu rhwng tystiolaeth, propoganda a barn. Mi ydw i'n berffaith fodlon gwrando ar be sydd gan bobl eraill i'w ddeud, ond os wyt ti'n mynd i honi fod rhywbeth yn ffeithiol gywir (e.e. Mi roddodd America ganiatad i Irac ymosod ar Kuwait) yna mae'n rhaid i chdi fedru profi fod hyn yn wir. Mae'n ymddangos i fi fel bod y "ffaith" yma wedi cael ei chyhoeddi gan lywodraeth Saddam, ac mae newyddiadurwyr un-llygeidiog, megis yr International Socialist Review wedi ail-adrodd y stori, am ei bod hi'n siwtio eu rhagfarnau nhw. A ti'n ei chredu hi fel stori wir, ac yn eil hail-adrodd hi yn fama, a dwi'n siwr y gwnaiff GT, a Sioni a sawl un arall ei llyncu hi. Cofia mai un o ddoethinebau Hitler oedd bod anwiredd sy'n cael ei adrodd yn ddigon aml yn dod i fod yn wirioenedd yn y diwedd.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Owain Llwyd » Maw 20 Ebr 2004 2:18 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:
Dyma ti. Garnet, trawsgrifiad o gyfarfod Glaspie a Hussein, iawn? Sydd yn cynnwys y brawddegau:



Mae hyn yn anhygoel - ti wedi mynd o ddyfynu cylchgrawn "revolutionary marxist" i ddyfynnu dogfen swyddogol gan lywodraeth Saddam Hussein ei hun. :lol:


Mae'n ymddangos bod trawsgrifiad o eiriau Glaspie ("But we have no opinion on Arab-Arab conflicts like your border disagreement with Kuwait.", etc.) wedi'u cyhoeddi gan lywodraeth yr Unol Daleithiau hefyd.

firethistime.org a ddywedodd:US State Department transcripts [h.y. o eiriau Glaspie] have been published in James Ridgeway's ‘The March to War’, Four Walls and Eight Windows, New York 1991 (page 28 ). Also in Pierre Salinger and Eric Laurent's ‘Secret Dossier - The Hidden Agenda Behind the Gulf War’, Penguin, Harmondworth 1991, and ‘The Gulf War Reader’, Times Books, Random House, New York 1991, editors Michael Sifry and Christopher Cert.
Where is the horse and the rider? Where is the Horn that was blowing? They have passed like rain on the mountain, like a wind in the meadow. The days have gone down in the West, behind the hills, into Shadow.
Rhithffurf defnyddiwr
Owain Llwyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 335
Ymunwyd: Gwe 09 Mai 2003 9:50 am
Lleoliad: Llanrug

Postiogan Garnet Bowen » Maw 20 Ebr 2004 2:23 pm

Hernan Rodriguez a ddywedodd:Glywes i rioed y fath beth. Mae cymharieth o'r fath yn hollol hurt a gwarthus. Mae casineb hiliol yn greiddiol i syniadau natsiaeth, cael eu cam-ddefnyddio gan bobl fel Stalin wnaeth Marxiaeth.


Wel, ryw hanar tynnu coes on i. Ond o ddifri, oedd y miliynau a laddwyd gan Hitler yn waeth na'r miliynau a laddwyd gan Stalin a Lenin? Ac onid oes 'na rhyw gynhorydd bach BNP yn rwla neith ddeud mai "cam-ddefnyddio" natsiaeth wnaeth Hitler? Ella bod hi'n well i ni beidio a chychwyn ar y drafodaeth hono?
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

NôlNesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron