gan Llewelyn Richards » Mer 21 Ebr 2004 9:38 am
Beth sydd yn fy mhoeni fi ydi bod llawer o bobl Islamaidd wedi cael eu harestio ym Mhrydain ar amheuaeth o fod yn derfysgwyr, ond dydwi ddim wedi gweld bod tystiolaeth gadarn yn erbyn llawer o'r bobl hyn.
e.e. pan oedd Heathrow ar 'red terror alert' mi wnaethon nhw arestio llwythi o bobl, ond does dim wedi dod hyn, neb di mynd o flaen eu gwell, a neb yn gwybod beth yw'r cyhuddiad - dim ond son am 'rocket bomb' ac ati, ond oes rhywun wedi gweld yr arfau honedig hyn (oes patrwm yn fama?)
Dwi'n cael yr argraff bod yr heddluoedd cudd jysd yn arestio llwythio o bobl Islamaidd i wneud i bobl eraill deimlo'n saff, a gwneud i bobl feddwl bod nhw'n gwneud rhywbeth amdan y peth.
Dydw'i ddim digon twp i feddwl nad oes na bobl ym Mhrydain a'i bryd ar chwythu eu hunain, pobl eraill ac adeiladau i fyny, ond dydan ni ddim yn cael gwybod ei hanner hi.
"What contemptible scoundrel has stolen the cork to my lunch?" W.C. Fields