o'r ddau, al-luxur... mae cairo'n uffernol o le budr, 'wsti, er bod gen i dipyn o 'soft spot' iddi (shishas gyda nos, sudd hibiscus a ballu). ond taswn i'n cael mynd i'r aifft eto, fuaswn i'n gwneud 'ngorau i fod yn y gogledd - alesskandaria ydy'r lle i fod...
ond byddi di'n mwynhau, lle bynnag yr ei di. dysga bach o arabeg, hefyd, yn enwedig a'r byd fel y mae hi dyddiau hyn. nid nepell yn ôl i ddwsinau o dwristiaid cael eu lladd yn al-luxur - wel, pum mlynedd erbyn hyn, mae'n siwr, ond...
'laa, anaa mish ingleisî, anaa min balad cymru, anaa atkallam cymraeg, wa-anaa mish uHib lughat al-ingleisî'.
(sef tydw i ddim yn sais, dw i'n dod o gymru, dw i'n siarad cymraeg a dw i ddim yn licio siarad saesneg...
) bydd hynna'n gwneud ffrindiau i chdi...