RET79 a ddywedodd:Wel mae'n ymddangos fod y chwith yn chwerthin ar ben popeth sy'n mynd o'i le yn Irac er mwyn cael dod allan hefo "I told you so". Wel dwi'n ffeindio'r agwedd yna'n siomedig.
Dim o gwbwl. Wn i ddim lle wyt ti wedi cael y syniad yma. Wrth gwrs bod ambell sicko ar y Maes sydd i weld yn cael pleser mawr o ryfel a marwolaeth, ond mae'r mwyafrif am weld y trafferth yn Irac yn dod i ben mor gyflym a phosib. Cofia, ni oedd y rhai a oedd ddim am weld unrhyw drafferth yn Irac yn y lle cyntaf.
Beth bynnag:
RET79 a ddywedodd:Dyw America ddim am gael yr anghyfleustra o'r polau opiniwn yn mynd yn erbyn yr ymgyrch gan fod pobl yn gweld eirch yn dod nol bob dydd. Rhaid iddyn nhw aros yno i orffen y job.
Rwyt ti'n dweud yr un peth fan yma ag ydw i:
Fi a ddywedodd:Eironig bod beth oedd y milwyr yna yn meddwl ei bod nhw'n cwffio amdano, rhyddid, ddim yn cael ei roi i'r wasg yn yr achos yma. Mae rhesymau gweinyddiaeth y wlad i guddio'r llyniau yn hollol hunanol- iw wneud a peidio colli pledleisiau'r bobl, mwy na dim.
Dyw'r llyniau ddim yn cael ei dangos er mwyn gweinyddiaeth America.