Yr is-ddosbarth

Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall.
Rheolau’r seiat
Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan garynysmon » Llun 26 Ebr 2004 1:28 pm

Mae'r wefan yma yn brilliant. Dwi di gweld un tebyg, chav scum, hefyd. Mae na le i gymeryd y piss allan o'r bobol yma. Mae nhw yn niwsants i'r gymdeithas, gyda ddim parch tuag at ddim byd, a gwneud dim ymdrech i geisio gwella eu hunain.
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

"chav" "scum"

Postiogan Clarice » Llun 26 Ebr 2004 1:56 pm

Yn bersonol wy'n credu bod na rywbeth sinistr mewn cymdeithas lle ma hi'n gwbl dderbyniol i ragfarnu yn erbyn un dosbarth o bobol, a lle bod datganiadau ysgubol fel "dy'n nhw ddim yn gweithio" neu "dy'n nhw ddim yn trio gwella'u hunain" yn cael eu derbyn yn ddigwestiwn. A hyn dim ond trwy edrych ar gasgliad sy'n dangos criw o ddynion ifanc yn gwisgo fel ma dynion ifanc yn dueddol o neud. Shwt ddiawl chi'n gwbod unrhywbeth am yr unigolion yma?

Fyddech chi yr un mor barod i chwerthin tase'r llunie'n dangos pobol o leiafrifoedd ethnig? Neu tase rhyw Sais rhagfarnllyd yn mynd rownd Cymru yn tynnu llunie o hambons i borthi'u rhagfarne nhw? Wy'n byw mewn rhan o Gaerdydd lle ma lot o bobol yn gwisgo fel y bobol yn y llunie yma. Ma'r syniad bod rhyw dwat snobyddlyd yn mynd rownd yn tynnu'u llunie nhw fel circus freaks yn troi fy stumog i.


Sa i'n ame nad oes na ddynion ifanc (a menwod) sy'n ymosod ar bobol heb ishe, neu sy'n ddiog, neu hyd yn oed (shock horror) gyda diffyg chwaeth mewn dillad. Ond wy dal yn meddwl bod na rywbeth sinistr mewn tynnu llunie o bobol gyffredin ar y stryd a'u gosod nhw fel diddanwch i'r dosbarth canol smug.
Rhithffurf defnyddiwr
Clarice
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 279
Ymunwyd: Iau 02 Hyd 2003 10:09 am
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan RET79 » Llun 26 Ebr 2004 6:09 pm

Clarice dwi'n tybio dy fod ti'n enghraifft o do-gooder o gefndir dosbarth canol sydd yn gwadu fod problem chavs ganddom mewn cymdeithas, o bosib gan nad wyt ti wedi cael dy exposio i lawer o'r 'hwyl' mae nhw'n ei gael.

Ti'n dweud fod barnu pobl yn anghywir, wel ti yw'r ail ferch ar y maes i ddweud hyn. Sori, ond o fy mhrofiad i, mae merched yn llawer mwy rhagfarnllyd o bobl ar sail eu edrychiad. Dwi'n meddwl mai peth naturiol yw o, yn enwedig i ferched, i sylwi a pasio barn ar edrychiad pobl. Pam gwadu'r peth?

Dydd Sadwrn bu bron i mi gael clec yn y car wrth i chav stormio drwy olau coch yn ddi-drugaredd pan fy lon i oedd hi. Roedd y pratt yn hoff iawn o ddangos dim parch at ddiogelwch eraill ar y lon tra roedd o'n hamro hi hefo'i gar bach shitty (modified, wrth gwrs) yn gwisgo ei gap pel-fas. Fuaswn i'n synnu dim nag oedd gen y boi unrhyw inswrans ar ei gar.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan garynysmon » Llun 26 Ebr 2004 6:15 pm

Ia, mae na ffasiwn beth a bod yn rhy 'P.C'. Yn amlwg dydi BOB un person ifanc sy'n gwisgo fel hyn ddim yn wehilon gymdeithas, ond mae na lot yn. Mae o gymaint, os nad mwy i wneud efo eu agwedd ag ydi o ar eu edrychiad. Mae'n amlwg dwyt ti ddim yn byw mewn tref/dinas lle mae na broblemau efo pobol ifanc sydd methu bihafio!
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Postiogan RET79 » Llun 26 Ebr 2004 6:23 pm

garynysmon a ddywedodd:Ia, mae na ffasiwn beth a bod yn rhy 'P.C'.


Oes, a dwi ddim yn gyffyrddus a'r syniad fod pobl yn trio stopio chdi basio barn ar rai grwpiau mewn cymdeithas. Wedi'r cyfan mae'n ddigon derbyniadwy i ymosod ar bobl cyfoethog a llwyddianus, felly pam ddim pawb arall?
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Baps » Llun 26 Ebr 2004 7:21 pm

garynysmon a ddywedodd:Ia, mae na ffasiwn beth a bod yn rhy 'P.C'. Yn amlwg dydi BOB un person ifanc sy'n gwisgo fel hyn ddim yn wehilon gymdeithas, ond mae na lot yn. Mae o gymaint, os nad mwy i wneud efo eu agwedd ag ydi o ar eu edrychiad. Mae'n amlwg dwyt ti ddim yn byw mewn tref/dinas lle mae na broblemau efo pobol ifanc sydd methu bihafio!


Efallai un o'r unig adegau pan dwi'n cytuno efo'r lembo yma! mae'n debyg mai'r unig bobl fuasai ddim yn gweld hyn fel dipyn o hwyl diniwed fysa rywun sydd heb ddod i mewn i gysylltiad efo'r math yma o bobl. Dwi wedi gweithio efo pobl fel 'ma, ac wedi gwneud ffrindia efo rhai. Tydi 'scallies' (gair Llangefni) ddim yn meindio chdi'n cymryd y piss allan o'u modrwyau aur, eu cwn, tracksuits etc etc achos ma nhw wirioneddol yn meddwl na nhw sy'n 'cool innit' a chdi sydd ddim. Dwi'n nabod pobl go iawn oedd yn hongian o gwmpas ar ochr stryd yn codi trwbwl, er mwyn iddy nhw gael 'chase' gin hogia erill neu blismyn. Dwi'n meddwl bod hyn yn ffyni iawn, a os ydi rhywun yn meddwl bod hyn yn gyfatab a bod yn hiliol dwi'n meddwl bod nhw'n cymryd petha o ddifri lot gormod!
Rhithffurf defnyddiwr
Baps
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 244
Ymunwyd: Gwe 12 Rhag 2003 1:13 am
Lleoliad: Bangor

Postiogan Clarice » Maw 27 Ebr 2004 9:00 am

garynysmon a ddywedodd: Mae'n amlwg dwyt ti ddim yn byw mewn tref/dinas lle mae na broblemau efo pobol ifanc sydd methu bihafio!


Na sdim probleme o gwbwl fel'na yng Nghaerdydd. :rolio: :rolio: :rolio:

Ydw wy'n cytuno bod hi'n bosib bod yn rhy PC. A wy ddim yn poeni bod pobol yn defnyddio'r gair "chav" neu'n tynnu'r piss mas o'r fasiwn yna o wisgo os y'n nhw am. Ond wy yn credu bod na'r fath beth â mynd yn rhy bell. Ac ma na agwedd gan lawer o bobol (ar Maes E, ar safleoedd eraill, ac wrth sgwrsio 'da pobol bob dydd) o edrych lawr eu trwyne ar bobol a phaentio pawb 'da'r un brwsh. Hwnna wy ddim yn lico, y ffaith bod hi'n gwbl dderbyniol nawr i weud fod "chavs" i gyd yn scum pan dy'n nhw ddim. A wy ddim yn dweud hynny ar sail bod yn "do-gooder o gefndir dosbarth canol" RET, wy'n dweud hynny ar sail y bobol wy wedi nabod fydde llawer o bobol yn eu dissmisso fel "scum".

Falle na i fynd rownd Pontcanna heno yn tynnu llunie o bobol dwatlyd meddw yn rowlio mas o'r Cameo ac yn piwco mewn tacsis a chreu safle gwe o'r enw "Crachscum" a llenwi fe gyda straeon am bobol ariannog sy'n niwsans cymdeithasol a sy' bron â crasho mewn i fi yn eu BMW's. :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Clarice
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 279
Ymunwyd: Iau 02 Hyd 2003 10:09 am
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan mam y mwnci » Maw 27 Ebr 2004 9:13 am

Clarice a ddywedodd:
Falle na i fynd rownd Pontcanna heno yn tynnu llunie o bobol dwatlyd meddw yn rowlio mas o'r Cameo ac yn piwco mewn tacsis a chreu safle gwe o'r enw "Crachscum" a llenwi fe gyda straeon am bobol ariannog sy'n niwsans cymdeithasol a sy' bron â crasho mewn i fi yn eu BMW's. :winc:


mi fyswn i'n darllen hwn , yn chwerthin a beryg yn cyfranu (neu ymddangos de!) - Dwi ddim yn gwybod be di'r broblem , mi ydan ni'n dueddol o farnu pawb , ffermwyr, cyfryngis, chavs, snobs, y sun glasses on the head brigade, cyfieithwyr, pobl sy'n gyrru ceir mawr ayyb, a dweud y gwir beirniadaeth a thrafodaeth ydi sail 90% o maes - e , mae'n rhaid i bobl beidio a bod mor croen dennau , a sylwi bod ambell i dafod yn sownd yn y foch!

Mi ydan ni'n naturiol yn beirniadui pawb a phopeth o'm cwmpas, ond mae o'n mynd dan yng nghroen i pan mae hi'n iawn i feirniadu pethau/pobl ond bod chi'n cael ymosodiad y munud yr ydych yn beirniadu rhywun o'r is-ddosbarth ' ti ddim yn ei nabod nhw' 'ti'n gor symleiddio' - tyfwch fyny dyna be 'da ni'n neud i bawb.
"Mae'n fler a does 'run seren
heno i mi uwch fy mhen,
dwi'n geiban,ond yn gwybod
mai yma wyf inna i fod.
Rhithffurf defnyddiwr
mam y mwnci
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 975
Ymunwyd: Mer 30 Gor 2003 8:48 pm
Lleoliad: Dre

Postiogan Baps » Maw 27 Ebr 2004 9:13 am

Clarice a ddywedodd:Falle na i fynd rownd Pontcanna heno yn tynnu llunie o bobol dwatlyd meddw yn rowlio mas o'r Cameo ac yn piwco mewn tacsis a chreu safle gwe o'r enw "Crachscum" a llenwi fe gyda straeon am bobol ariannog sy'n niwsans cymdeithasol a sy' bron â crasho mewn i fi yn eu BMW's. :winc:


Fasa hyna actually'n ffyni iawn! Ma pawb yn licio gweld pobl yn gwneud ffyliad o'u hunain tydi, boed hynny'n gwisgo dillad ffyni neu'n chwdu mewn tacsis, dipyn o hwyl na ddyliai gael ei gymryd o ddifrif.
Rhithffurf defnyddiwr
Baps
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 244
Ymunwyd: Gwe 12 Rhag 2003 1:13 am
Lleoliad: Bangor

Postiogan DAN JERUS » Maw 27 Ebr 2004 9:30 am

...neu alli di jyst dangos highlights gwobrau BAFTA Cymru neithiwr, run math o beth sw ni'n ddweud... :?
Ai beg ior pardyn, ai nefyr shagd iw in a rose garden!
DAN JERUS
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1086
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 3:11 pm
Lleoliad: Caerdydd

NôlNesaf

Dychwelyd i Cell Gymysg Wleidyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai