Sut bo cymaint o "Psychos" wedi rheoli gwledydd???

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Garnet Bowen » Maw 27 Ebr 2004 2:20 pm

Owain Llwyd a ddywedodd:
Dylan a ddywedodd:Mae'r PNAC yn argymell lladd hil gyfan o bobl gyda siamberi nwy?


Dw i ddim yn siwr bod Hitler wedi sôn dim am hynny yn Mein Kampf chwaith, ond dw i'n barod i gael fy nghywiro.


Mi ddadleuodd Hitler yn Mein Kampf fod yr Aryans (yr Almaenwyr yn ei dyb ef) yn hil uwch na gweddill y byd, ac yn gyfrifol am holl rinweddau dynoliaeth. O'r herwydd, y nhw oedd arweinwyr naturiol y byd. Y bygythiad mwyaf i hyn oedd Iddewon, a oedd yn bobl darostyngedig, nad oedd erioed wedi cyfrannu dim byd at ddiwylliant y byd, a oedd yn gomiwnyddion, ac yn rhan o gynllwyn i reoli'r byd. Dadleuodd Hitler yn y llyfr fod angen creu gwlad bur, Almaenaidd, ar dir wedi ei gipio'n ol gan Rwsia, er mwyn galluogi'r Aryans i ffynnu eto.

Ar y llaw arall, mae'r PNAC yn cynnig y canlynol fel amlinelliad o'u safbwyntiau

Project for a New American Century a ddywedodd:• we need to increase defense spending significantly if we are to carry out our global
responsibilities today and modernize our armed forces for the future;
• we need to strengthen our ties to democratic allies and to challenge regimes hostile to our interests and values;
• we need to promote the cause of political and economic freedom abroad;
• we need to accept responsibility for America's unique role in preserving and extending an international order friendly to our security, our prosperity, and our principles.


Sydd yn cynnwys sawl syniad amheus, a sawl syniad da iawn. Wyt ti'n meddwl ei bod hi'n deg cymharu'r ddau beth?
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Dylan » Maw 27 Ebr 2004 2:23 pm

Ti'n iawn, wedi meddwl. Ond mi wnaeth yn ddigon clir ei fod yn casáu Iweddon ac eu bod yn perthyn i ryw fath o lefel is.

'Dw i'n gallu gweld y gymhariaeth rhwng hynny a'r PNAC, ond dilorni diwylliannau eraill y mae hwnnw. Nid yw'n beirniadu grwpiau cyfan o bobl ar sail eu hil yn unig.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Cwlcymro » Maw 27 Ebr 2004 2:31 pm

• we need to strengthen our ties to democratic allies and to challenge regimes hostile to our interests and values;


Swnio'n debyg iawn i 'get rid of everyone who doesn't agree with us' i fi.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Dylan » Maw 27 Ebr 2004 2:40 pm

Yndi. 'Dw i'n meddwl bod y PNAC yn syniad gwbl wallgof, peryglus ac afiach. Ond eto, 'dydi o ddim yn hiliol, fel y cyfryw (er, 'dw i'n bendant bod nifer fawr o'r bobl sydd yn gefnogol iddo yn hiliol). Dyna'r cwbl.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Garnet Bowen » Maw 27 Ebr 2004 2:47 pm

Y broblem efo'r PNAC yn fy nhyb i ydi'r busnes o "interests and values". Toes gen i ddim cwyn yn erbyn y gwerthoedd, ond be sy'n digwydd pan mae rheini'n gwrthdaro a buddianau Americanaidd? Pa un sy'n cael blaenoriaeth? Ydi'r wlad ddemocrataidd, ond gwrth-Americanaidd, yn cael rhyddid i wneud fel y myno hi?
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Owain Llwyd » Maw 27 Ebr 2004 2:48 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:Wyt ti'n meddwl ei bod hi'n deg cymharu'r ddau beth?


Ar sail dy gymhariaeth, nac ydi, wrth gwrs. Fel dwedais i, dw i ddim yn gwybod digon eto i ffurfio fy nghasgliadau innau am y mater. Ar lefel arall, does'na ddim modd gwneud cymhariaeth ystyrlon rhwng rant estynedig gan unigolyn ar y naill law a phapurau polisi think tank ar y llall.
Where is the horse and the rider? Where is the Horn that was blowing? They have passed like rain on the mountain, like a wind in the meadow. The days have gone down in the West, behind the hills, into Shadow.
Rhithffurf defnyddiwr
Owain Llwyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 335
Ymunwyd: Gwe 09 Mai 2003 9:50 am
Lleoliad: Llanrug

Postiogan Sioni Size » Maw 27 Ebr 2004 3:28 pm

Dylan a ddywedodd:Mae'r PNAC yn argymell lladd hil gyfan o bobl gyda siamberi nwy?


doedd y ffasiwn beth ddim yn Mein Kampf ychwaith.
Mae bywydau'n amherthnasol i nod y PNAC. 'Full Spectrum Dominance' er mwyn rheoli prif adnoddau'r byd yw ei bwynt.
Medrwch gymryd y sbil ar ddemocratiaeth hefo chydig o halen. Mae eu gweithredoedd ar draws y byd yn dangos nad oes pripsyn o diddordeb ganddynt mewn democratiaeth. Sbiwch ar hanes asia drwy'r 20fed ganrif a De America hyd heddiw am esiamplau o hynny - bolivia, equador, honduras, nicaragua, panama, ariannin, Chile.....
Mae 'sefydlu democratiaeth' yn handi iawn pan maent eisiau esgus i oresgyn rhywle. Y broblem yw eu bod yn goresgyn gwledydd democrataidd yn ogystal, ac yn cynorthwyo rhai anemocrataidd i barhau gormes pan mae buddianau busnes America'n cael eu boddhau. A mae na lot, lot o fusnes.
A nod y PNAC yw i luosi'r sefyllfa yma yn ddirfawr o amgylch y byd, fel sydd ond yn naturiol ac ystyried eu goruchafiaeth milwrol.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Dylan » Maw 27 Ebr 2004 4:28 pm

'dw i'n gwybod hynny, a 'dw i'n cytuno

dim ond dweud bod y gymhariaeth â Mein Kampf yn anghywir ydw i. Pwynt bach, pwynt semantig, ond dyna ni.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Sioni Size » Maw 27 Ebr 2004 4:32 pm

Dylan a ddywedodd:'dw i'n gwybod hynny, a 'dw i'n cytuno

dim ond dweud bod y gymhariaeth â Mein Kampf yn anghywir ydw i. Pwynt bach, pwynt semantig, ond dyna ni.


Wel mi gymrodd hi flynyddoedd i rywun farw oherwydd Mein Kampf. Mae niferoedd anferth o bobl wedi marw yn dilyn theoris y PNAC yn barod.
Wrth gwrs nad ydi'r cyhoeddiad swyddogol o'r PNAC yn mynd i fod mor foel a'r dogfennau cychwynnol oherwydd fod y gem bropaganda yn llawer mwy datblygedig heddiw.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Owain Llwyd » Mer 28 Ebr 2004 8:49 am

Garnet Bowen a ddywedodd:Ydi'r wlad ddemocrataidd, ond gwrth-Americanaidd, yn cael rhyddid i wneud fel y myno hi?


Wel, pan wnaeth llywodraeth Twrci (sydd ddim yn nodedig o wrth-Americanaidd, hyd yn oed) wrthod gadael i'r Unol Daleithiau ddefnyddio'r wlad yn fan cychwyn i ymosodiadau ar Irac y llynedd, a hynny yn unol ag ewyllys 95% o'r boblogaeth, mi wnaeth Wolfowitz (os dw i'n cofio'n iawn) eu cyhuddo nhw o fod yn elynion i ddemocratiaeth (neu rywbeth fel'na) a mynegi siom bod byddin Twrci ddim wedi dangos mwy o arweiniad ar y mater.

O ran diddordeb, Garnet, yn dy farn dithau, be' di'r syniadau 'da iawn' sydd gen PNAC a be' di'r gwerthoedd wyt ti'n meddwl bod chdi'n eu rhannu efo nhw. Oes'na reswm dros feddwl bod 'democratiaeth' iddyn nhw yn fwy na rhyw fath o window dressing?
Where is the horse and the rider? Where is the Horn that was blowing? They have passed like rain on the mountain, like a wind in the meadow. The days have gone down in the West, behind the hills, into Shadow.
Rhithffurf defnyddiwr
Owain Llwyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 335
Ymunwyd: Gwe 09 Mai 2003 9:50 am
Lleoliad: Llanrug

NôlNesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai

cron