Cymedrolwr: Cwlcymro
Cwlcymro a ddywedodd:Meddyliwch os fysa'r llunia yma yn dangos Iracwyr yn gwneud hyn i Americanwyr a Phrydeinwyr. Dychmygwch sut fysa Bush a Blair yn arteithio!
GT a ddywedodd:Gwrandewch y diawlad dwl - fedar hyn ddim bod yn wir. Mae Garnet Bowen wedi egluro i ni i gyd ddegau os nad canoedd o filoedd o weithiau, bod Prydain a'r UDA yn Irac i amddiffyn Iraciaid rhag cael eu lladd a'u harteithio. Fyddan nhw byth yn lladd neb na'i arteithio siwr.
Garnet Bowen a ddywedodd:GT a ddywedodd:Gwrandewch y diawlad dwl - fedar hyn ddim bod yn wir. Mae Garnet Bowen wedi egluro i ni i gyd ddegau os nad canoedd o filoedd o weithiau, bod Prydain a'r UDA yn Irac i amddiffyn Iraciaid rhag cael eu lladd a'u harteithio. Fyddan nhw byth yn lladd neb na'i arteithio siwr.
Mae be' mae'r milwyr yma wedi ei wneud yn hollol warthus, a tydw i ddim yn mynd i esgusodi eu hymddygiad nhw am eiliad. Y peth da ydi y bydd y milwyr yma yn debygol o gael ei cosbi, yn wahanol i filwyr Saddam, a oedd yn cael ei gwobrwyo am wneud petha lot gwaeth.
(Gyda llaw, mae 'na awgrymiadau fod y lluniau o filwyr Prydain yn cam-ymddwyn yn ffals.)
Garnet Bowen a ddywedodd:Y peth da ydi y bydd y milwyr yma yn debygol o gael ei cosbi, yn wahanol i filwyr Saddam, a oedd yn cael ei gwobrwyo am wneud petha lot gwaeth.
Garnet Bowen a ddywedodd:(Gyda llaw, mae 'na awgrymiadau fod y lluniau o filwyr Prydain yn cam-ymddwyn yn ffals.)
Cwlcymro a ddywedodd:Ma na awgrymiada fod y llunia yn ffals, a mae angen gwybod y gwir yn gyflym. Ond fel ddudodd Owain ma na lu o gwynion wedi bod am y gatrawd yma dros y misoedd. Ac mae'r prif lyniau, y rhai o filwyr Americanaidd, yn hollol wir, ma America ei hun wedi ei gwirio.
Owain Llwyd
Os bydd rhywun yn cael cosb, dw i'n rhyw amau mai'r prif reswm dros hynny fydd y niwed maen nhw wedi'i beri i ddelwedd y fyddin.
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai