Garnet Bowen a ddywedodd:Cwlcymro a ddywedodd:Ma na awgrymiada fod y llunia yn ffals, a mae angen gwybod y gwir yn gyflym. Ond fel ddudodd Owain ma na lu o gwynion wedi bod am y gatrawd yma dros y misoedd. Ac mae'r prif lyniau, y rhai o filwyr Americanaidd, yn hollol wir, ma America ei hun wedi ei gwirio.
Ti'n hollol iawn, toes 'na ddim amheuaeth fod y lluniau Americanaidd yn rhai iawn. Gobeithio y dysga nhw wers i'r sgymbags.
Ond pwy ydi'r 'nhw' yma sy'n mynd i ddysgu gwers i'r sgymbags isaf yn y gadwyn fwyd? Y sgymbags sy'n uwch yn yr hierarchaeth? Go brin bod hynny yn ateb boddhaol i'r sgymbagrwydd sefydliadol sy'n arwain at y math yma o sefyllfa.
Mae Counterpunch wedi cyhoeddi nifer o erthyglau diweddar sy'n trafod artaith a'r sefydliad milwrol Americanaidd ymhellach - er enghraifft, y rhai sydd i'w cael yma, yma ac yma.