Jocs defaid am y Cymry - hiliol?

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Jocs defaid am y Cymry - hiliol?

Postiogan RET79 » Iau 06 Mai 2004 11:15 pm

Yw jocs defaid yn erbyn y Cymry mewn gweithle Prydeinig, yn hiliol?

Falle eich bod wedi darllen yr edefyn 'Cwestiwn' gen i yn y seiat Chwaraeon.

Wel, wnes i e-bostio y 9 arall fyddai'n chwarae pel droed 5 bob ochr a rhoi fy marn sef mod i'n meddwl y dylsen ni chwarae ar y pitch arall oedd ar gael, oedd yn rhatach, saffach a hefo cyfleusterau gwell.

Fe wnaeth un person o'r gwaith ymateb yn ol i bawb, ond dileodd o e-bost y managers o'r rhestr, a fe wnaeth o comment fel "he must want to play there because I heard there's more sheep around that pitch".

Yw hwnna yn comment hiliol ar bapur y dylswn i fod yn cwyno amdano? Dwi'n tempted iawn i yrru copi o'r e-bost yna i'r adran HR/personnel, yn gofyn os yw ymddgiad felna yn gweddu a pholisi byhafio y gweithle.

Dwi'n gadael y lle o fewn mis ta beth, felly dwi ddim yn poeni llawer am upsetio rhai pobl.

Eich barn os gwelwch yn dda.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Macsen » Gwe 07 Mai 2004 12:03 am

Ydi mae'n hiliol. Mi fysa'r person a wnaeth ddweud hynny yn cael y sack os y bysai wedi dweud peth o'r fath am berson o dras ethnig. Mi fyswn i'n ti yn cwyno. :x
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan RET79 » Gwe 07 Mai 2004 12:06 am

Macsen a ddywedodd:Ydi mae'n hiliol. Mi fysa'r person a wnaeth ddweud hynny yn cael y sack os y bysai wedi dweud peth o'r fath am berson o dras ethnig. Mi fyswn i'n ti yn cwyno. :x


Macsen, dwi'n meddwl y bydd e-bost hefo'r dystiolaeth yn cael ei anfon gennyf i'r adran HR yfory.

Mae'r person a wnaeth sgwennu hyn wedi fy ngwylltio i yn ddiweddar am nifer o resymau. Fe wnaeth o addo rhoi lifft i mi o'r peldroed un nos Lun ond fe wnaeth o fy ngadael i'n stranded. Yn ogystal mae o wedi bod yn ddigywilydd hefo fi yn gyffredinol (am pa reswm dwn i ddim?!) felly sgen i fawr ddim o sympathi.

Sgen i fawr ddim i'w golli, dwi'n gadael y lle mis yma beth bynnag.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Lowri Fflur » Gwe 07 Mai 2004 12:14 am

Ia RET ydw mi ydw i yn meddwl bod hyn yn hollol hiliol. Ond dwi ddim yn meddwl bod chdi wir yn gweld hyn yn hiliol. Dwi' n meddwl bod genyt grudge yn erbyn y person yma yn bersonol a nei di ddefnyddio rhywbeth i ei gal yn ol. Petau y sylw yma wedi cael ei luchio at riwyn arall ar y maes sa chdi wedi dweud wrththynt am beidio bod mor sensatif.
"It's better to light a candle than to curse the darkness"
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri Fflur
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1296
Ymunwyd: Sul 30 Tach 2003 10:07 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Macsen » Gwe 07 Mai 2004 12:18 am

RET79 a ddywedodd:Macsen, dwi'n meddwl y bydd e-bost hefo'r dystiolaeth yn cael ei anfon gennyf i'r adran HR yfory.


Yn hollol sicr. Bwylio yn y gweithle yw hyn, gyda topping o hiliaeth.

Lowri Larsen a ddywedodd:Ond dwi ddim yn meddwl bod chdi wir yn gweld hyn yn hiliol. Dwi' n meddwl bod genyt grudge yn erbyn y person yma yn bersonol a nei di ddefnyddio rhywbeth i ei gal yn ol. Petau y sylw yma wedi cael ei luchio at riwyn arall ar y maes sa chdi wedi dweud wrththynt am beidio bod mor sensatif.


Dyw teimladau personol RET at y person ddim yn bwysig; ymosodiad hiliol yw hwn a mi ddylsai ymateb yn y ffordd priodol.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan RET79 » Gwe 07 Mai 2004 12:20 am

lowri larsen a ddywedodd:Ia RET ydw mi ydw i yn meddwl bod hyn yn hollol hiliol. Ond dwi ddim yn meddwl bod chdi wir yn gweld hyn yn hiliol. Dwi' n meddwl bod genyt grudge yn erbyn y person yma yn bersonol a nei di ddefnyddio rhywbeth i ei gal yn ol. Petau y sylw yma wedi cael ei luchio at riwyn arall ar y maes sa chdi wedi dweud wrththynt am beidio bod mor sensatif.


Digon gwir lowri ond fedra i ddim help ffordd dwi'n teimlo am y mater yma. Mae ymddygiad y boi yma tuag ataf i'n ddiweddar wedi fy ngwylltio.

Dwi'n meddwl mai beth wnaf i yw gyrru'r sylwad, heb enw'r boi, i'r adran HR a gofyn iddyn nhw os yw sylwad o'r fath yn dderbyniol o gysidro eu polisiau am barch yn y gweithle. Os yw nhw'n cytuno yna fe wnaf ystyried mynd a'r peth ymlaen.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Panom Yeerum » Gwe 07 Mai 2004 9:45 am

dwi ddim yn gweld hwn yn ymosodiad hiliol o gwbl, mae hyn yn beth sydd yn rhan o fod yn gymro erbyn heddiw. Mewn gemau pel-droed fe glywch y dorf yn canu "1-0 to the sheep shaggers..." a.y.b. Mae'r peth defaid yma wedi bodoli ers y dyddiau y roeddem ni yn dwyn defaid o dros y ffin! Duw, dwi'n galw pobl yn "English scum" digon - a dylwn i gael y sac? na ddylswn - ddim o gwbl - mae hon yn hen ddadl yr ydym wedi hen arfer efo erbyn heddiw.

RET, wyt ti'n gweld cysylltiad rhwng agwedd pobl atat ar y maes a thu allan i'r maes? h.y. gadael chdi'n stranded! ti'n teimlo ar ben dy hun? Ma gen i ddarlun yn fy mhen o chdi ar ol y pel-droed yn gweiddi "I didn't want a lift anyway!"
Panom Yeerum
 

Postiogan nicdafis » Gwe 07 Mai 2004 10:35 am

Fyddai unrhyw Gymro a oedd yn ddigon twp i ddefnddio'r geiriau "English scum" mewn ebost, yn ystod ei oriau gwaith, yn llawer mwy tebyg i golli ei swydd na'r boi sy'n gweithio gyda RET. Collodd Gwilym ab Ioan ei swydd gyda Plaid Cymru am ddweud pethau llawer llai enllibus na hynny, cofiwch.

Tybiwn i na fydd cyd-weithiwr RET yn colli ei swydd dros hyn, achos yn ôl bob tebyg nad yw cyflogwr RET â pholisi sy'n cyfro sylwadau o'r fath, ac annhebyg iawn bydd unrhywun yn y rheolaeth yn eu cysidro yn "hiliol" beth bynnag ydyn ni'n meddwl. Y peth gorau i'w ddisgwyl byddai gosod rhagesiampl a stopo pethau fel hyn yn digwydd eto yn y cwmni hwnna. Tra bod "jôcs" fel hyn yn dderbynniol yn y Telegraph ac ar y BBC, dyw e ddim yn debyg bydd unrhyw cwmni masnachol eisiau gwynebu tribiwnlys Diswyddiad Annheg drostynt.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Cwlcymro » Gwe 07 Mai 2004 10:41 am

Yn ol cynseiliau diweddar yn y llysoedd dydi galw rhywun yn 'English bastard' ddim yn hiliol, ond ma galw Cymro yn 'sheep-shagger' yn.

Ond ma dyrnu riwun am ei fod o yn Sais YN hiliol (damn!) Mi nathna foi bledio yn euog i racial assault ar ol dyrnu boi oddo'n feddwl oedd yn Sais (Cymro oedd o hefyd yn diwadd! :ofn:) Pan ofynodd y barnwr iddo fo gyfiawnhau ei hun mi ddudodd (rbwath tebyg i) 'If hating an English person is racist then yes. I am as racist as they come" - chwara teg!
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan ceribethlem » Gwe 07 Mai 2004 10:52 am

cwcymro a ddywedodd:'If hating an English person is racist then yes. I am as racist as they come" - chwara teg!

Hmmmmmmmmm, ddim chwarae teg o gwbl yn fy marn i.
Er yn Gymro i'r carn, dwi ddim yn hapus i ddiffinio fy hyn fel rhywun sydd yn casau Saeson. Mae gen i dipyn o deulu o dras Seisnig, ac maent mor annwyl i mi a'r rhai hynny o dras Cymreig.
Fydden i'n hapus i ddatgan casineb at Brydain a Phrydeindod a'r cyfan sy'n gysylltiedig a'r syniadaeth. Mae casau Saeson, fodd bynnag, yn beth gwahanol.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Nesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron