Newt Gingrich a ddywedodd:Cwlcymro a ddywedodd:Y geiria pwysig yn fanna Newt ydi 'milwyr' a 'terfysgwyr'. Da ni'n disgwyl i derfysgwyr, o ba bynnag ras, fod yn farbaraidd. Da ni'n disgwyl i filwyr, o pa bynnag ras, fod yn deg.
A ma'r ddadl ein bod ni mor uchal ein cloch yn erbyn gweithredodd y milwyr a ddim y terfysgwyr yn wirion. Yr un mor wirion a rheini oedd yn deud 'Why weren't all these anti-war protestors protesting against what Saddam was doing to his people'
Ma'r milwyr yn actio yn ein henw ni, pan ma nhw'n troi'n farbaraidd ein lle ni ydi hi i gwyno.
Rhyfedd o fyd, o be dwi wedi weld o fewn maes e mae Sioni ac 90% o gyfranwyr re yr IRA wedi rhoi y cyfeillion barbaraidd hyn ar bedestal go uchel. Newid y rheolau i siwtio dy ddadl wyt ti mr Cymro?
Pam uffar wti, RET a Pogon yn trio taflu pawb sy'n anghytuno efo chdi mewn i un fasgaid?! Dwi'm yn boddro siarad yn yr edefnyddau IRA achos dwi'm yn gwbod am y pwnc. Dos i'r un am Israel a mi gei di weld mod i'n deud fy marn am derfysgwyr Palestine yn erbyn Gwern.