Lluniau o Iraciaid yn Bagdhad

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Garnet Bowen » Maw 18 Mai 2004 2:14 pm

GT a ddywedodd:Roedd Bush, Rumsfelt (a thithau efallai) ac ati o dan yr argraff y byddai pethau yn dechrau mynd eu ffordd erbyn hyn. Mae'r pyst yn newid rwan - rwyt yn son am hyd at 50 mlynedd. Os nad ydi'n bosibl rhagweld beth ddigwyddith mewn blwyddyn, onid yw'n ffol cymryd arnat dy fod yn medru edrych cyn belled ymlaen?


Tydw i ddim yn haner gymaint o dwpsun a Bush a Rumsfeld (gobeithio). Dwi'n cefnogi rhyfel dros ddemocratiaeth oherwydd fy mod i'n credu fod tystiolaeth ein hanes diweddar ni yn dangos fod sefydlu democratiaeth rhyddfryfol - hyd yn oed wedi rhyfel dinistriol - yn rhywbeth buddiol i'r wlad hono, ac i'r byd yn gyffredinol. Os y gall yr Almaen godi o lwch natsiaeth i fod yn un o wledydd mwyaf blaengar a ffynianus y byd, dwi ddim yn gweld pam ei bod hi mor anodd gwneud yr un fath efo Irac.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan GT » Maw 18 Mai 2004 2:43 pm

'Rydym mewn perygl o fynd i droedio hen dir yma, ond nid Yr Almaen ydi Irac. Roedd pawb (bron) yn yr Almaen yn Almaenwyr, roedd y traddodiad economaidd yn un modern, ac nid oedd y boblogaeth yn edrych ar y byd trwy brism crefyddol.
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Garnet Bowen » Maw 18 Mai 2004 2:52 pm

GT a ddywedodd:'Rydym mewn perygl o fynd i droedio hen dir yma, ond nid Yr Almaen ydi Irac. Roedd pawb (bron) yn yr Almaen yn Almaenwyr, roedd y traddodiad economaidd yn un modern, ac nid oedd y boblogaeth yn edrych ar y byd trwy brism crefyddol.


Dwi'n derbyn dy rybudd di ynglyn a throedio hen dir. A nid codi'r un gymhariaeth Hitler/Saddam ydw i. Mae pob un o dy bwyntiau di uchod yn rhai dilys, ac o ystyried y materion yma, mae hi'n deg deud bod petha'n edrych yn lot duach ar Irac. Ond mewn sawl agwedd arall, mi oedd hi'n lot gwaeth ar yr Amlaen ar ddiwedd y rhyfel - roedd yr elyniaeth rhyngthyn nhw a Ffrainc - gwlad ddaearyddol agos - yn ymestyn yn ol i ryfel 1870, a chynt. Roedd mwyafrif llethol trigolion yr Almaen yn cefnogi'r hen gyfundrefn natsiaidd a oedd wedi disgyn. Ac fe oedd y wlad yng nghanol y frwydr rhwng cyfalafiaeth a chomiwnyddiaeth. Ond eto, hanner can mlynedd yn ddiweddarach, mae'r Almaen a Ffrainc yn fets pennaf, ac yn arwain y byd yn economaidd.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Gruff Goch » Maw 18 Mai 2004 3:30 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:Mae 'na wastad ffordd arall. Unig ganlyniad lladd pobl ddiniwed ydi ei bod hi'n ei gwneud hi'n haws i'ch gelynion gyfiawnhau taro'n ol yn fwy ffyrnig fyth.


Efallai fod Zappa yn cytuno efo chdi Garnet?

Anghofiwch am yr Ail Ryfel Byd, mae llwyddiannau mawr y chwarter canrif diwethaf wedi deillio o weithredu di-drais i gael gwared o lywodraethau gorthrymus a disodli unbennau (De Affrica, USSR, Romania, y Weriniaeth Tsiec a.y.y.b.), ac, heb anghofio am y bobl ar y llawr wnaeth fynnu eu rhyddid ar sgwariau Wenceslas eu gwledydd, roedd polisïau tramor llywodraethau'r Gorllewin yn rhannol gyfrifol am hyn.

Pam fod yr UDA a Phrydain wedi anghofio'r llwyddiannau hyn mor sydyn, a gadael i'r hyn ddigwyddodd i'r Undeb Sofietaidd yn Afghanistan lithro o'u meddwl?
Rhithffurf defnyddiwr
Gruff Goch
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1148
Ymunwyd: Iau 12 Rhag 2002 1:22 pm
Lleoliad: neuadd fawr rhwng cyfyng furiau

Postiogan Garnet Bowen » Maw 18 Mai 2004 4:05 pm

Gruff Goch a ddywedodd:
Garnet Bowen a ddywedodd:Mae 'na wastad ffordd arall. Unig ganlyniad lladd pobl ddiniwed ydi ei bod hi'n ei gwneud hi'n haws i'ch gelynion gyfiawnhau taro'n ol yn fwy ffyrnig fyth.


Efallai fod Zappa yn cytuno efo chdi Garnet?


Dwi ddim yn meddwl ei bod hi'n deg codi dyfyniad allan o'i gyd-destun, yn enwedig pan fo'r dyfyniad hwnw i'w ganfod mewn edefyn hollol wahanol. Son am brotest o'n i, sef gweithredoedd unigolion. Er mwyn i wladwriaeth fedru llywodraethu'n effeithiol, mae hi'n anorfod bod rhaid iddi fedru defnyddio grym ar ryw bwynt.

Gruff Goch a ddywedodd:Anghofiwch am yr Ail Ryfel Byd, mae llwyddiannau mawr y chwarter canrif diwethaf wedi deillio o weithredu di-drais i gael gwared o lywodraethau gorthrymus a disodli unbennau (De Affrica, USSR, Romania, y Weriniaeth Tsiec a.y.y.b.), ac, heb anghofio am y bobl ar y llawr wnaeth fynnu eu rhyddid ar sgwariau Wenceslas eu gwledydd, roedd polisïau tramor llywodraethau'r Gorllewin yn rhannol gyfrifol am hyn.

Pam fod yr UDA a Phrydain wedi anghofio'r llwyddiannau hyn mor sydyn, a gadael i'r hyn ddigwyddodd i'r Undeb Sofietaidd yn Afghanistan lithro o'u meddwl?


Wedi deud hynny, mi ydw i'n meddwl fod angen defnyddio dulliau heddychlon i wrthsefyll gormes, lle bo posib gwneud hynny. Ond mae'n rhaid i chdi edrych ar bob sefyllfa yn unigol. Cym Iran, er engrhaifft. Er fod 'na lywodraeth gormesol yn rheoli yn y fan hono, mae gan drigolion y wlad rhyw fesur o ryddid, a bob tro mae nhw'n cael y cyfle i fynegi eu barn, mae nhw'n gofyn am fwy byth o ryddid. Byddai mynd i ryfel yn erbyn Iran yn beth hollol wallgo i'w wneud, oherwydd fod 'na bosibilrwydd cryf y caiff y system ei dymchwel o'r tu mewn.

Ar y llaw arall, mae gen ti wlad fel Gogledd Corea. Gan fod y wladwriaeth yn llywodraethu gyda grym cwbwl haearnaidd, tydi'r trigolion cyffredin ddim yn medru defnyddio protest di-drais i ymladd y system. Ond, yn fwy na thebyg, mi wnaiff y llywodraeth gwympo yn y diwedd oherwydd eu bod nhw'n methu a rheoli'r wlad yn economaidd.

Yn achos Irac, mi oedd 'na wladwriaeth gref a oedd yn sathru ar unrhyw un oedd yn mynegi gwrthwynebiad i'w polisiau - fel yng Ngogledd Corea - ond mi oedd ganddyn nhw gyflenwad olew a oedd yn eu galluogi nhw i ddal i gadw'r wlad i redeg yn lled effeithiol. Dyma pam y penderfynnwyd ceisio defnyddio sancsiynnau i arwain at sefyllfa lle byddai tlodi a newyn yn sbarduno gwrthryfel. Yn fwy na thebyg, byddai'r dacteg yma wedi gweithio yn y pen draw, ond fel y gwelom ni dros y 10 mlynedd dwytha, roedd y trigolion cyffredin yn cael eu cosbi yn fwy na Saddam.

Mewn achos fel hyn, doedd protest boblogaidd, na ffactorau economaidd, ddim yn debygol o ddod a diwedd ar y gormes. Dyna, i mi, sy'n cyfiawnhau mynd i ryfel i geisio datrys y sefyllfa.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Gruff Goch » Maw 18 Mai 2004 8:21 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:Dwi ddim yn meddwl ei bod hi'n deg codi dyfyniad allan o'i gyd-destun, yn enwedig pan fo'r dyfyniad hwnw i'w ganfod mewn edefyn hollol wahanol.
Son am brotest o'n i, sef gweithredoedd unigolion. Er mwyn i wladwriaeth fedru llywodraethu'n effeithiol, mae hi'n anorfod bod rhaid iddi fedru defnyddio grym ar ryw bwynt.


Maddeua i mi... Bach o ddiredi diwedd dydd ;)

Er hynny, dwi'n meddwl ei fod o'n ddefnyddiol dy fod ti wedi egluro'r gwahaniaeth hwnnw yn dy safbwynt.

Dwi'n cytuno efo ti fod hawl gan wladwriaeth i ddefnyddio grym 'er mwyn llywodraethu'n effeithiol'. Mae angen sicrhau fod modd delio gyda troseddwyr treisgar mewn modd sy'n diogelu gweddill cymdeithas.

Fodd bynnag, anaml iawn y mae lladd pobl ddiniwed yn 'lywodraethu effeithiol'.

Yn achos Irac, lle nad ydi'r llywodraeth (Americanaidd) yn atebol i'r Iraciaid, a lle nad oes gan yr Iraciaid unrhyw ddweud yn mholisi'r Americaniaid, mae lladd pobl ddiniwed yn sicr o achosi tensiynnau cryf (yn enwedig pan ei bod hi'n ymddangos i'r Iraciaid fod mwy o bwyslais ar warchod milwyr Americanaidd rhag cael niwed nac ar gadw'rIiraciaid cyffredin yn saff).

Llywodraethu aneffeithiol ydi hynny os mai'r nod ydi ennill ymddiriedaeth yr Iraciaid.


Mae'r modd y mae'r Americaniaid yn gweithredu yn ei gwneud hi'n haws i elynion yr Americaniaid gyfiawnhau taro'n ol yn fwy ffyrnig fyth, rhywbeth sy'n groes i'r rheswm dros fynd i ryfel â Sadam yn y lle cyntaf. Allwn ni fel pobl 'wareiddiedig' ddim ymateb yn ffyrnicach na'r hyn yr oeddl llofruddwyr Berg yn barod i'w wneud, neu mae'r frwydr eisioes wedi ei cholli.

Drwy ddefnyddio gymaint o drais, mae'r Americaniaid yn chwarae ar yr un maes-chwarae a'r teroristiaid. Rhaid chwarae gêm wahanol os am eu trechu nhw. Rhaid pwysleisio cyfiawnder, nid rhyfel. Cydraddoldeb a brawdoliaeth yn ogystal â rhyddid.

Mae'n rhy hwyr i dynnu'r milwyr o Irac, ond rhaid gyrru'r UN i mewn cyn gynted â phosib i gadw'r heddwch ac i ddarparu llu sefydlogi sy'n meddu ar hygrededd yng ngolwg yr Iraciaid cyffredin. Mae'n rhaid i'r lluoedd arfog hefyd fod yn fwy agored am eu dulliau gweithredu, hyd yn oed os ydi hynny yn golygu colli ambell i filwr yn fwy. Mae Abu Graibh yn brawf o'r hyn a all ddigwydd tu nôl i ddrysau sydd wedi eu cau.

Ar hyn o bryd, mae Irac yn llanast llwyr, a bydd hi'n cymryd blynyddoedd i ddod a heddwch, sefydlogrwydd a Democratiaith lawn i'r wlad. Blynyddoedd a ellid fod wedi eu defnyddio i ddod a newid llywodraeth cymharol ddi-drais i'r wlad, petai'r awydd gwleidyddol yno.

Wedi'r cyfan, os ydi o'n gallu digwydd i'r USSR gyda'u holl olew, mwynau ayyb, yn a pam ddim i wlad lle roeddd y llywodraeth eisioes wedi colli rhan helaeth o'r wlad i ddwylo'r Cwrdiaid?
Rhithffurf defnyddiwr
Gruff Goch
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1148
Ymunwyd: Iau 12 Rhag 2002 1:22 pm
Lleoliad: neuadd fawr rhwng cyfyng furiau

Postiogan Garnet Bowen » Mer 19 Mai 2004 7:51 am

Dwi'n meddwl fod y drafodaeth ynglyn a hawl gwladwriaeth i ddenfyddio trais, ac effeithlonrwydd penderfyniad America yn un ddifyr, ond un sydd ella yn haeddu edefyn ei hun? Dwi ddim am fynd i mewn i'r peth yn famam beth bynnag.

Gruff Goch a ddywedodd:Mae'n rhy hwyr i dynnu'r milwyr o Irac, ond rhaid gyrru'r UN i mewn cyn gynted â phosib i gadw'r heddwch ac i ddarparu llu sefydlogi sy'n meddu ar hygrededd yng ngolwg yr Iraciaid cyffredin. Mae'n rhaid i'r lluoedd arfog hefyd fod yn fwy agored am eu dulliau gweithredu, hyd yn oed os ydi hynny yn golygu colli ambell i filwr yn fwy. Mae Abu Graibh yn brawf o'r hyn a all ddigwydd tu nôl i ddrysau sydd wedi eu cau.


Cytuno i'r carn. Fel dwi wedi ei nodi eisioes, mae'r CU yn gorff sydd wedi bod yn arbennig o lwyddianus wrth gadw heddwch, ond sy'n llai llwyddianus pan mae angen herio grym gwladwriaeth ormesol. Mi fyswn i'n cefnogi dod a milwyr y cyngrheiriaid adref ar y 30ain o Fehefin, gyda milwyr y CU yn cymeryd eu lle.

Ac wrth gwrs fod angen diwygio'r modd y mae milwyr cyffredin yn ymddwyn. Tydi cefnogi'r rhyfel yma mewn egwyddor ddim yn golygu fy mod i'n cefnogi pob gweithred ar lawr gwlad Irac.


Gruff Goch a ddywedodd:Ar hyn o bryd, mae Irac yn llanast llwyr, a bydd hi'n cymryd blynyddoedd i ddod a heddwch, sefydlogrwydd a Democratiaith lawn i'r wlad. Blynyddoedd a ellid fod wedi eu defnyddio i ddod a newid llywodraeth cymharol ddi-drais i'r wlad, petai'r awydd gwleidyddol yno.

Wedi'r cyfan, os ydi o'n gallu digwydd i'r USSR gyda'u holl olew, mwynau ayyb, yn a pam ddim i wlad lle roeddd y llywodraeth eisioes wedi colli rhan helaeth o'r wlad i ddwylo'r Cwrdiaid?


Fel 'da ni wedi son eisioes mewn edefyn arall, mi oedd 'na broses o ddiwygio mewnol wedi bod yn digwydd yn yr Undeb Sofietaidd am flynyddoedd. Mi wnaeth 'na ambell i arweinydd Rwsiaidd feiddio cil-agor y drws, a cyn bo hir roedd hi'n amhosib ei gau eto. Doedd y broses yma o ddiwygio graddol ddim yn digwydd yn Irac, a doedd 'na ddim arwydd ei fod yn debygol o ddigwydd chwaith.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan GT » Mer 19 Mai 2004 9:36 am

Cymysg - a bod yn garedig - fu record y CU o ran cadw'r heddwch.

Mae rhywbeth ychydig yn chwerthinllyd am y syniad o'r CU yn trafod sut i ddelio efo gwledydd anemocrataidd, pan nad yw'r rhan fwyaf o wledydd y CU yn ddemocrataidd. Mae hyn ychydig fel gwledydd y Gymadwlad yn twt twtian ac yn bygwth taflu Zimbabwe allan, pan nad ydi llawer o'r gwledydd hynny fawr gwell. Mae dy syniad braidd fel creu fforwm i sosban alw padell yn ddu.
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Cwlcymro » Mer 19 Mai 2004 4:19 pm

Newt oni'n siarad efo
Pam uffar wti, RET a Pogon yn trio taflu pawb sy'n anghytuno efo chdi mewn i un fasgaid?!
(sylwer y collnod)

Mi odd Newt yn defnyddio gwendid yn nadl Sioni i drio taflu mwd ar fy nadl i drwy ddeud ein bod 'ni ar y chwith' yn clodfori terfysgwyr Iwerddon tra yn condemio rhei Mwslemaidd.

Ma'r terma de a chwith yn handi i'w defnyddio weithia. Ond yn yr achos yna doddna ddim pwrpas i'r terma o gwbwl. Ma'n marn i ar wleidyddiaeth bron mor wahanol i un Sioni ag ydio o Newt a Ret!
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Garnet Bowen » Mer 19 Mai 2004 4:50 pm

GT a ddywedodd:Cymysg - a bod yn garedig - fu record y CU o ran cadw'r heddwch.

Mae rhywbeth ychydig yn chwerthinllyd am y syniad o'r CU yn trafod sut i ddelio efo gwledydd anemocrataidd, pan nad yw'r rhan fwyaf o wledydd y CU yn ddemocrataidd. Mae hyn ychydig fel gwledydd y Gymadwlad yn twt twtian ac yn bygwth taflu Zimbabwe allan, pan nad ydi llawer o'r gwledydd hynny fawr gwell. Mae dy syniad braidd fel creu fforwm i sosban alw padell yn ddu.


Felly, mi wyt ti yn erbyn gadael i'r cyngrheiriad amddiffyn Irac, ac yn erbyn gadael i'r CU wneud hynny? Pwy ddylia fod yn gyfrifol am gyfraith a threfn yn Irac 'ta, GT?
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

NôlNesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron