Cymedrolwr: Cwlcymro
Sioni Size a ddywedodd:Yn union CwlCymroGarnet Bowen
'Da ni wedi bod drwy hyn droeon yn yr edefyn arall, a twyt ti'n gneud dim byd ond rhoi cur pen i Nic drwy fod mor uffernol o ail-adroddus.
Ah, heb arlliw o eironi. Ysblennydd.A fy nghwestiwn i - cwestiwn sy'n cael ei anwybyddu gan Dan a Sioni - ydi be yda chi'n ei gynnig fel ateb i broblemau Irac? Os ydych chi'n fodlon derbyn fod llywodraeth fel un Saddam Hussein yn annerbyniol, sut mae mynd ati i ddatrys y broblem, heb fynd i ryfel?
Garnet Bowen a ddywedodd:Os nad oedden nhw'n dod o hyd i unrhywbeth a oedd yn mynd i fygwth ein bodolaeth bach breintiedig ni yn y gorllewin, oedda ni am adael i Saddam ddal ati efo'i ormes?
Dan Dean a ddywedodd:Garnet Bowen a ddywedodd:Os nad oedden nhw'n dod o hyd i unrhywbeth a oedd yn mynd i fygwth ein bodolaeth bach breintiedig ni yn y gorllewin, oedda ni am adael i Saddam ddal ati efo'i ormes?
Oedd na ormes gan Saddam ar y pryd?
Garnet Bowen a ddywedodd:Dan Dean a ddywedodd:Garnet Bowen a ddywedodd:Os nad oedden nhw'n dod o hyd i unrhywbeth a oedd yn mynd i fygwth ein bodolaeth bach breintiedig ni yn y gorllewin, oedda ni am adael i Saddam ddal ati efo'i ormes?
Oedd na ormes gan Saddam ar y pryd?
Unwaith eto ti'n osgoi ateb y cwestiwn. Prin fod 'na neb sy'n gwadu fod llywodraeth Saddam Hussein - hyd yn oed drwy'r 90au - yn un gormesol. Tydi hyd yn oed y mudiadau gwrth-Americanaidd mwyaf eithafol ddim yn gwneud honiad mor dwp. Yr unig bobl dwi wedi eu clywed yn cwestiynnu'r ffaith fod gormes yn bodoli yn Irac Saddam Hussein ydi Sioni Size a chdi.
Ateb y cwestiwn - sut bysa chdi wedi mynd ati, ar ddiwedd 2002, i ddatrys problemau Irac?
Garnet Bowen a ddywedodd:Yn y pen draw, dewis hunanol, un-llygeidiog ydi gwrthwynebu'r rhyfel yma.
Wel Dan, be sa CHDIII di neud i ddatrys problemau Irac, y blydi leffdi "hunanol"
Garnet Bowen a ddywedodd:Dan Dean a ddywedodd:Garnet Bowen a ddywedodd:Os nad oedden nhw'n dod o hyd i unrhywbeth a oedd yn mynd i fygwth ein bodolaeth bach breintiedig ni yn y gorllewin, oedda ni am adael i Saddam ddal ati efo'i ormes?
Oedd na ormes gan Saddam ar y pryd?
Unwaith eto ti'n osgoi ateb y cwestiwn. Prin fod 'na neb sy'n gwadu fod llywodraeth Saddam Hussein - hyd yn oed drwy'r 90au - yn un gormesol. Tydi hyd yn oed y mudiadau gwrth-Americanaidd mwyaf eithafol ddim yn gwneud honiad mor dwp. Yr unig bobl dwi wedi eu clywed yn cwestiynnu'r ffaith fod gormes yn bodoli yn Irac Saddam Hussein ydi Sioni Size a chdi.
Ateb y cwestiwn - sut bysa chdi wedi mynd ati, ar ddiwedd 2002, i ddatrys problemau Irac?
Garnet Bowen a ddywedodd:Mae 'na reswm da pam fy mod i'n ail-adroddus. Dwyt ti ddim yn fodlon ateb y cwestiwn. Tasa gen ti'r grym, ar ddiwedd 2002, i benderfynnu sut oedd y byd yn mynd i ddelio a gormes Saddam Hussein, be fysa chdi'n ei wneud?
Ar y pryd, fe gynnigwyd tri dewis. Un oedd gwneud dim byd, a gadael i bobl Irac ddioddef. Un arall oedd gadael i'r archwilwyr arfau wneud eu gwaith - ond beth wedyn? Os nad oedden nhw'n dod o hyd i unrhywbeth a oedd yn mynd i fygwth ein bodolaeth bach breintiedig ni yn y gorllewin, oedda ni am adael i Saddam ddal ati efo'i ormes? A'r dewis olaf oedd mynd i ryfel, i'w ddisodli fo, a cheisio creu rhywbeth gwell.
?
GT a ddywedodd:Wedyn ti'n gofyn i Dan Dean, Sioni Size et al - 'Wel beth fyddech chi yn ei yn ei wneud?'
Ateb 1 - Peidio cefnogi ac annog Saddam i ryfela yn y lle cyntaf.
Ateb 2 - Wedi peidio defnyddio ateb 1, dangos ychydig o wyleidd dra a pheidio a chymryd camau oedd am ladd mwy o Iraciaid. Mae yna waeth pethau na gwneud dim byd llawer - yn arbennig lle mae hynny yn golygu lladd y di niwed.
natha ni. Mynd yna achos fod Saddam yn berrygl i NI natha ni.yn rhywbeth a oedd yn cael ei brofi bob dydd gan Iraciaid cyffredin
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai