Esboniadau annisgwyl/diddorol ar enwau lleoedd

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Iau 20 Mai 2004 10:23 pm

I unrhyw un sydd am wybod (ffycin neb), ystyr 'Pontllanfraith' yw 'pont dros y llyn brith', sy'n cyfeirio at y gored afiach yr olwg ar yr afon... ac ystyr y Coed-duon yw'r ffaith i'r coed gael eu defnyddio ar gyfer golosg wrth gynhyrchu haearn yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a'r enw gwreiddiol oedd 'Trenewydd yn y Coed Duon'... ond chi gyd yn dod o fannau erill, fel y gorllewin,. a'r gogledd, nid y de ddwyrain... dim diddordeb... ffycyrs... :rolio:
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Rhys » Gwe 21 Mai 2004 9:27 am

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:I unrhyw un sydd am wybod (ffycin neb), ystyr 'Pontllanfraith' yw 'pont dros y llyn brith', sy'n cyfeirio at y gored afiach yr olwg ar yr afon... ac ystyr y Coed-duon yw'r ffaith i'r coed gael eu defnyddio ar gyfer golosg wrth gynhyrchu haearn yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a'r enw gwreiddiol oedd 'Trenewydd yn y Coed Duon'... ond chi gyd yn dod o fannau erill, fel y gorllewin,. a'r gogledd, nid y de ddwyrain... dim diddordeb... ffycyrs... :rolio:


Prynnais Place-Names of Western Gwent wythnos diwethaf yn siop bapur cynnhwysfawr Rowlands ynY Coed Duon (mae'r Cymro a Golwg ar werth yno) yn ogystal a dewis eang o lyfrau ar hanes lleol. Ddim yn 100% os dwin coelio popeth ynddo, am Coed Duon mae'n dweud

Blackwod (Coed-duon)

Black Wood (1831), Coed dduon (1836)

Town in the Sirhowy valley which has grown up around the site of a 'model' settlement established in the in the early 1920's by j H Moggridge, an English landed Gentleman and social reformer who was concerned to improve housing conditions for workers. For a very short time the new settlement appears to be known as Tremorridge 'Moggridge's Town' but soon took the name Blackwood, this being the English translation of the name of a nearby wood Coed Duon from coed 'wood' and duon 'black or dark' i.e. 'dark wood'.

Mond eisiau cadarnhau stori Gwahanglwyf ac ymestyn arno :winc:

Dyma restr o enwau eraill ygalwyd Pontllanfraith:
Tre pen-y-bont llynvraith (1492), Tre penbont (1502), Pontllynfraith (1713), Pontlanfraith (1783), Pontllanfraith (1814)
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 21 Mai 2004 9:42 am

Aye, mae gennyf sglodyn ar fy ysgwydd... ac wedi i fi gael bach o win... SHEESH! :rolio:

Aaahhh, siop Rowlands... cofio cerdded yno bob dydd Sadwrn i brynu'r Beano pan oeddwn yn laslanc... dyddie da! Bydd rhaid i fi gael gafel ar y llyfyr 'na.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan bartiddu » Gwe 21 Mai 2004 12:25 pm

Bach yn ddrud dwi'n gwbod!
Ond hwn yw'r Arch-Lyfr o enwau lleoedd ac ati "The Oxford Names Companion"
Ond os ma diddordeb 'da chi yn pethe fel hyn, wnewch dreulio oriau yn mynd trwyddo!

http://www.amazon.co.uk/exec/obidos/ASIN/0198605617/qid%3D1085142099/026-9186564-9454824
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 21 Mai 2004 4:04 pm

Dw i'n amau mai Gronw sy'n iawn am Nant Ffrancon, er dw i'm cant-y-cant yn siwr.

Rhywun yn gwybod am Ysbyty Ifan? 'Swn i'n licio gwybod sut ddaeth yr enw yna i fodolaeth, er fyswn i'n gytud braidd os mai ysbyty o berchenogaeth Ifan fysa'r rheswm!
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Geraint » Gwe 21 Mai 2004 4:21 pm

Odd y gair ysbyty yn rhywbeth i wneud gyda mynachlogydd, fel ysbyty cynfyn ger Ponterywd.

Beth am Ponterwyd? Pont y Derwydd. Diddorol fod Pontarfynach/devils bridge jyst lawr yt ffordd. A fod yna hen gylch cerrig o gwmpas eglwys ysbyty cynfyn.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Cwlcymro » Gwe 21 Mai 2004 5:02 pm

Mold - Pam uffar nath Y Wyddgrug gael ei gyfieuthu i Mold o bob dim?
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan mred » Gwe 21 Mai 2004 9:01 pm

gronw a ddywedodd:
mred a ddywedodd:(2) Ffrancon (Nant Ffrancon, ger Bethesda). Fy nhyb ydi mai yr un ydi hwn â Gwrangon

Dwi'n cofio clywed/darllen yn rhywle fod gwersyll milwrol Normanaidd yn Nant Ffrancon, ac mai dyna'r rheswm dros yr enw - bod Ffrancon yn ffurf arall ar Ffrancod. Ond falle mod i'n dychmygu...

Dwi'm yn rhy siŵr am hyn. Ella mai 'esboniad gwerin' ar enw tywyll ei ystyr yw hyn, gan hefyd greu stori ddramatig am Normaniaid a brwydro (elfen gyffredin iawn wrth geisio esbonio enwau lleoedd ar lafar - cysylltir bob 'coch' mewn enwau lleoedd bron â gwaed a brwydrau!)

Ond sylwer bod rhaid cyfnewid 'n' a 'd' i hyn weithio (Ffrancod/Ffrancon), neu fabwysiadu lluosog amheus. Awgrym arall (gwerin) a glywais oedd bod cysylltiad â'r gair 'Afanc' (beaver), ond eto byddai galw i newid seinegol anhebygol fod wedi digwydd. Dwi'n dal at fy namcaniaeth i o ffurf led-Wyddeleg ar 'Gwrangon'!

Un esboniad ar enw Afon Ogwen (sy'n llifo drwy Nant Ffrancon, chwi anwybodusion) ydi ei fod yn gyfuniad o 'Og' (Gwyddeleg = ifanc) a 'Banw' (porchell). Ond mae 'Enwau Afonydd a Nentydd Cymru' yn ffafrio esboniad arall, sef mai 'Og' = 'buan/cyflym', a bod yr afon yn symud yn debyg i borchell cyflym. Felly mae'n ymddangos nad oes dylanwad Gwyddeleg yn yr enw yma. Ond mae'r llyfr yn casglu bod 'hogyn' a 'hogan' yn deillio o'r gair Gwyddeleg am ifanc!
A'm ysgwyd ar fy ysgwydd a'm cledd ar fy nghlun,
Ac yng Nghoed Celyddon y cysgais fy hun.
Rhithffurf defnyddiwr
mred
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 163
Ymunwyd: Sad 22 Tach 2003 2:15 am
Lleoliad: Bangor

Postiogan gronw » Sad 22 Mai 2004 9:16 pm

Mae nodyn ar Nant Ffrancon gan Bedwyr Lewis Jones yn ei lyfr YN EI ELFEN, os oes gan rhywun (mred) ddiddordeb. Maddeuwch i fi am deipio'r cyfan, mae'n haws na thrio crynhoi...

Nant Ffrancon a ddywedodd:Nant Ffrancon ydy enw'r dyffryn yn Eryri sy'n ymestyn i fyny o Fethesda at y bwlch rhwng Tryfan a Phen yr Ole Wen ym mhen Llyn Ogwen. Yn ôl Syr Ifor Williams, yn ei glasur bychan o lyfr ar Enwau Lleoedd, hen, hen air Ffranc yn golygu milwr cyflogedig ─ hynny ydy, 'mercenary' ─ sydd yma.

Ffranc, wrth gwrs, oedd yr enw ar y bobl Germanaidd hynny a goncrodd dir Gâl tua'r flwyddyn 500, a rhoi ei henw i wlad Ffrainc ─ ac i Ffrancod.

Roedd rhai o'r Ffrancod Germanaidd hyn, meddai Syr Ifor, yn arfer dod drosodd i ymladd am dâl yng Nghymru yn ystod y canrifoedd cyn y Normaniaid, fwy na mil o flynyddoedd yn ôl. Ffranc oedd yr enw am un o'r milwyr estron hyn. Ffrancon oedd mwy nag un ohonyn nhw - hefo'r un terfyniad lluosog ─ on, ag sydd yn Saeson, lladron a.y.b. Mae Syr Ifor wedyn yn dyfalu fod criw o'r milwyr cyflogedig hyn, criw o Ffrancon, wedi cael eu cyflogi gan ryw bennaeth yng Ngwynedd a'u plannu yn Nant Ffrancon.

Mae'n esboniad clyfar a thebygol. Ond yn ddiweddar, mewn cylchgrawn o'r enw Notes and Queries, mae ysgolhaig o Brifysgol Navarre yn Sbaen o'r enw Andrew Breeze wedi cynnig esboniad arall. Roedd gair franca mewn Hen Saesneg yn golygu gwaywffon. Yn ôl Andrew Breeze benthycwyd y gair hwn i'r Gymraeg yn air am waywffon ─ yn union fel y benthycwyd y gair tarian o Hen Saesneg. Ystyr Nant Ffrancon, yn ôl yr esboniad yma, ydy dyffryn y gwaywffyn, ac nid dyffryn lle gosodwyd milwyr o Ffrancod.

O blaid yr esboniad hwn mae Breeze yn cyfeirio at linell mewn hen gerdd Gymraeg o tua'r flwyddyn 900. Yn honno mae arglwydd o Gymro yn eistedd o flaen callor neu grochan ac yn bwrw'i ofid. Mae wedi colli ei fyddin ac yn eistedd yno yn unig a digalon. 'Mi a'm ffranc o amgylch ein callor' meddai'r gerdd. I Syr Ifor darlun sy'n y gerdd o bennaeth o Gymro heb neb ar ôl yn gwmni ond milwr estron o Ffranc. Na, meddai Breeze. Arglwydd o Gymro sydd yma heb neb o gwbwl, dim ond ei waywffon ─ ei ffranc ─ yn gwmni iddo. Mae'n ddarlun sobor o debyg i hwnnw o Lywarch Hen, yn henwr isel ei ysbryd yn eistedd â'i bwys ar ei ffon, neu ei 'faglen bren', mewn cerdd Gymraeg arall gynnar.
Rhithffurf defnyddiwr
gronw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1397
Ymunwyd: Mer 03 Rhag 2003 7:12 pm

Postiogan mred » Sul 23 Mai 2004 2:03 pm

Diddorol iawn! Mae gynna'i syniad, fodd bynnag, nad ydi Bedwyr ddim yn argyhoeddedig ynglŷn â'r naill na'r llall, gan mai ond gosod y posibiliadau gerbron mae o. Ac o edrych yn gyffredinol ar batrwm enwau lleoedd yng Ngwynedd, mi dybiwn i fod elfen Wyddeleg yn llawer mwy tebygol nag un Saesneg/Normanaidd.

Ffynhonnell arall lai academaidd, ond difyr, ydi Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid, Hugh Derfel Hughes, 1866. Postio'r dyfyniad canlynol o ran diddordeb:
NANT FRANCON; a alwyd felly oddiwrth Afancon (beaver), ac y mae yn agos i Gapel Curig "Lyn yr Afanc." ... Fodd bynnag, y mae yma yn awr nifer o ddyfrgŵn, ac ni wyr yr ysgrifenydd am y rheswm i ameu i afancwn fod yma hefyd. Sonia Taliesin yr hwn a flodeuodd yn y 6fed ganrif am Nant Ffrancon; ac nid tebygol ei bod wedi derbyn ei henw oddiwrth estron, yr hwn y mae ei enw wedi ei gysylltu a llofruddiaeth y Tywysog Llewelyn, yn Muallt, yn y drydydd ganrif-ar-ddeg. Yr oedd hefyd yn ei chwr isaf, mewn lle a elwir Ceunant, fan i groesi yr afon a elwid "Sarn yr Afanc."

Felly dwy ddamcaniaeth yma, Ffrancon yn deillio o ffurf luosog ar afanc, neu o gyfenw Adam de Frankton, esboniadau amheus a deud y lleiaf! Yn ôl Enwau Lleoedd, Ifor Williams, t.33, mae'r cyfeiriad at Nant Ffrancon yn Llyfr Taliesin, 1275, 'mewn cân ganrifoedd hŷn [na'r llyfr].' Bydd rhaid mynd ar ôl hwn i weld beth oedd ffurf gynharaf yr enw. Ond mae hynafiaeth yr enw eto'n gwneud i mi dybio bod ffynhonnell Wyddeleg yn fwy tebygol (y Gwyddelod wrth gwrs yn gwladychu rhannau helaeth o orllewin Cymru yn yr Oesoedd Tywyll).

Holodd rywun am darddiad yr enw Ysbyty Ifan. Perthynai yn y Canol Oesoedd i'r Knights Hospitallers/Marchogion yr Ysbyty/Marchogion Sant Ioan, a dyma esbonio dwy elfen yr enw. Roedd y lle'n seintwar, ac yn dipyn o ganolfan ar gyfer gwylliaid/troseddwyr, yn ôl Syr John Wynn o Wydir (gallaf ganfod y dyfyniad/cyfeiriad perthnasol os oes diddordeb).
A'm ysgwyd ar fy ysgwydd a'm cledd ar fy nghlun,
Ac yng Nghoed Celyddon y cysgais fy hun.
Rhithffurf defnyddiwr
mred
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 163
Ymunwyd: Sad 22 Tach 2003 2:15 am
Lleoliad: Bangor

NôlNesaf

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 15 gwestai