Eamon a ddywedodd:Fel ti yn gwbod dim am sgwenu llyfr nath Eamon Collins marw - mater arall oedd tu ol i marwolaeth fo.
Pogon a ddywedodd:Beth yw'r hanes felly
Eamon a ddywedodd:Teipia Slab Murphy a Eamon Collins i mewn i search engine a gweld be ti yn cael.
Diolch am fy atgoffa.
Na'th dy ffrindiau tynnu ma's tafod Eamon (Collins) ac yna ei dyrnu i farwolaeth am roed tystiolaeth yn erbyn Murphy mewn achos llys.
Mae tynged Eamon (Collins) yn dangos pam mae rhaid cael llysoedd Diplock.
Taswn i'n Babydd yng Ngogledd Iwerddon ar reithgor, basen i'n meddwl dwywaith cyn ffeindio rhywun fel Mr Murphy yn euog o unrhyw trosedd, rhag ofn i fi fynd yn un o'r 'Cross Border Bodies' mae'r IRA mor hoff ohonyn nhw.
Faswn ni ddim ishe 'diflannu' fel Mr O'Connor chwaith.
Gyda llaw beth yw rheolau llys IRA
Sut mae'r rheithgor yn cael ei ddethol?
Oes hawl cael
defence lawyer?
Os yw'r IRA yn penderfynnu tynnu ma's tafod rhywun ar gam, ydyn nhw'n talu iawndal wedyn?
A yw gweinidog yn bresennol cyn i rywun diflannu?
Am fod Sinn Fein/IRA mor feirniadol o system cyfreithiol Prydeinig, rhaid bod eu dulliau o ddarparu cyfiawnder yn arbennig o dda.