Yn hollol, dyna sy'n gwneud petha gymaint gwaeth, yr agwedd 'Dim bai ni ydi dim byd' ma.
'Bad things happen in war....this is just another of them' oedd esboniad y General oedd yn gyfrifol am y lladd. Mi ddudodd o mae grwp o 'foreign fighters' oedd y parti priodas. Ei dystiolaeth o am hyn oedd
1. Mi oeddna gwpwl efo passborts Sudan
2. Mi oddna ynnau yna
3. Mi oddna ffon lloeren yna.
1.Gan fod y pentra 10 milltir o Sudan, dio'm yn sioc fodna rei pobl Sudaneese yna
2. Ma gan bron pob ty yn Irac ynnau, yn enwedig rhai mewn pentrefi anhysgbell (fel hwn)
3. Mi oedd y dre nesa 80 milltir i ffwrdd, a does na ddim system ffon weiren yna, mae ffonau lloeren yn rad iawn yn Irac ac, eto, yn gyffredin mewn pentrefi anghysbell.
Gan fod 20 allan o'r 40 farwodd yn genod a plant, a dau o'r meirw, yr unig rai oedd ddim yn lleol, yn 'Wedding Singers' enwog, dwi'n meddwl ELLA fod gan America ychydig mwy o esbonio i wneud!