Sioni Size a ddywedodd:Y ffactor mae Garnet yn ei anwybyddu yma ydi mai America ac Israel sy'n achosi i fywydau Mwslemiaid fod o ansawdd gwael.
Ystyrier y logic - 'petai bywyd y Palestiniaid yn well, ni fysa na derfysgu yn erbyn Israel'. Yndi, rhyw fath o wirionedd yn hynny mae'n debyg, ond y stori yma ydi mai'r Israeliaid sy'n dinistrio bywydau'r Palestiniaid. Mae anwybyddu hynna'n dangos diffygion.
Cytuno'n llwyr, am unwaith. Er fod Israel yn "ddemocrataidd" mewn ystyr llac iawn, tydw i ddim yn credu ei bod hi'n cyd-ymffurfio a'r math o safonau yr hoffwn i ei gweld yn y dwyrain canol. Mae datrys y problemau yn Israel yn holl bwysig i sefydlogrwydd y dwyrain canol.
Sioni Size a ddywedodd:Yn yr un modd nid democratiaeth yw mantra America yn y dwyrain canol nac unlle arall yn y byd - eu mantra yw y system orau sy'n arwain at fwy o $. Dyna pam eu bod mor hoff o'r term 'sefydlog' - unben compliant yn debyg o'u gwasanaethu am flynyddoedd lawer fel sy'n Saudi Arabia. Democratiaeth yn arwain at newid arweinwyr ac 'ansefydlogrwydd', megis yr hyn sydd newydd ddigwydd yn India.
Ti'n anwybyddu newidiadau syniadaethol sy'n digwydd yn America. Mae 'na garfan o wleidwyr, gan gynnwys gwleidwyr ceidwadol, sy'n dadlau fod yr hen system o gefnogi llywodraethau gormesol wedi methu. Mae'r rhain - ac mae llawer o'r Project for a New American Century - yn dadlau mai drwy hybu systemau llywodraethol hunan-gynhaliol, democrataidd, y mae edrych ar ol buddianau economaidd America. Efallai mai nid dyma'r bobl sy'n gwbwl gyfrifol am lywio polisi tramor America, ond mae eu dylanwad nhw yn tyfy.
Sioni Size a ddywedodd:System 'sefydlog' maent yn anelu ato yn Irac - Chalabi, eu ffefryn, heb unrhyw gefnogaeth o gwbl yn Irac ond wedi eu helpu gyda'u propaganda cyn y goresgyn. Dydi safon bywyd pobl Irac ddim o unrhyw bwys i America.
Pypedau sydd am ddod i fewn drwy'r trosglwyddiad - a bydd dim democratiaeth.
Ond onid ydi'r degawdau dwytha yma wedi profi fod 'pypedau' yn llai sefydlog na democratiaeth? Mi gefnogwyd pypedau yn Affganistan, a arweiniodd ar 9/11. Cymhara hyn efo Iran, sydd wedi cael rhyw fesur o ddemocratiaeth, a sydd yn llawer mwy "gorllewinol" - ar lawr gwlad beth bynnag - na Affganistan. Dwi ddim yn credu bod y ffaith yma wedi cael ei anwybyddu gan rhai o feddylwyr Washington.
Sioni Size a ddywedodd:Mae'n anhygoel fod rhywun yn trio dweud fod hi'n well yn Irac heddiw nac oedd hi cyn y goresgyn. Anhygoel.
Yn amlwg, mae'r llinynau mesur y mae'r ddau ohona ni yn eu defnyddio yn hollol wahanol. Fel rhywun sy'n treulio cymaint o amser yn dadlau am faterion gwleidyddol, mae'r syniad o gael fy nghosbi am fynegi fy marn yn rhywbeth cwbwl aflan i mi. Tasa'r ddau ohona ni yn byw o dan y drefn flaenorol yn Irac, fydda ni ddim yn cael y drafodaeth yma, Sioni. Tydw i ddim yn gwadu fod 'na broblemau sylweddol yn bodoli, ond mae'n rhaid cofio fod 'na newidiadau holl-bwysig wedi digwydd er gwell, hefyd.
Sioni Size a ddywedodd:Reit Garnet, os wyt ti eisiau dod a'r rhai oedd yn gyfrifol am farwolaethau'r Shia ar ddiwedd rhyfel y gwlff gerbron cyfiawnder beth am George Bush 1. Gan mai ei lywdoraeth ef anogodd y Shia i wrthryfela gan eu bradychu a gadael i fyddin Saddam eu herlyn. Cafodd byddin America orchmynion i BEIDIO rhoi arfau i'r Shia, ar ol gaddo, pan ddechreuodd y gwrthryfela. Yn fwy na hynny fe safodd byddin america o'r ffordd gan arwain byddin Irac at y Shia. Dyna pam fod 93 yn linell, Garnet.
Tydi dy ddadl di'n gneud dim synnwyr. Ti'n trio deud fod y ffaith fod Bush wedi gwneud rhywbeth drwg ym 1993 yn golygu fod Saddam felly yn haeddu peidio cael ei gosbi am ei droseddau niferus?