Zapatro-dewrder

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Garnet Bowen » Llun 24 Mai 2004 1:25 pm

Cwlcymro a ddywedodd:Wel ma well geni edrych ar betha fel mae'n nhw'n digwydd.
Sgen neb glem be ddigwyddith yn y tymor hir. Ella dy fod di'n iawn a y gwneith Irac droi yn wlad ddemocrataidd berffaith, a pawb yn cael ei hawliau.
Ond mai jusd mor debygol y cawn ni ffug-ddemocratiaeth arall lle ma petha ddim lot gwell na dan Saddam.
A dim ots sut lywodraeth fydd gan Irac, dwi'm yn gweld hynny yn lleihau y nifer o bobl droith at derfysgaeth. Dim ei amodau byw yrrodd y dynion i Madrid, ond ei atgasedd at America a gweddill y byd gorllewinol. Dwi'm yn gweld sut ma y rhyfal yn Irac yn gwneud dim ond adio at yr atgasedd yna.


Wrth gwrs, fedrith neb weld i'r dyfodol. Ond, mae ein profiad ni fel dynol ryw yn awgrymu fod gwledydd democrataidd yn dueddol o fod yn fwy ffynnianus, diogel a heddychlon na gwledydd unbeniaethol, llwgr, neu methedig.

A mi ydw i'n meddwl fod y pethau yma - ansawdd bywyd, os lici di - yn cyfrannu yn helaeth at derfysgaeth. Ella fod 'na gasineb at America (neu Israel) ond tasa bywyda'r bobl yma yn fwy cyfforddus, mi fysa'r casineb yna yn aros yn rhywbeth damcaniaethol. Gofyn i dy hun pam nad ydi Sioni Size wedi gwisgo bom o dan ei got, a rhedeg i mewn i lys-genhadaeth America yn Llundain? Mae ganddo ddigon o gasineb tuag at America, ond mae o hefyd yn byw bywyd breintiedig, cyfforddus, sy'n golygu ei fod o'n hapus i ladd ar America, ond ddim i ladd er mwyn ei niweidio nhw.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Sioni Size » Llun 24 Mai 2004 3:11 pm

Y ffactor mae Garnet yn ei anwybyddu yma ydi mai America ac Israel sy'n achosi i fywydau Mwslemiaid fod o ansawdd gwael.

Ystyrier y logic - 'petai bywyd y Palestiniaid yn well, ni fysa na derfysgu yn erbyn Israel'. Yndi, rhyw fath o wirionedd yn hynny mae'n debyg, ond y stori yma ydi mai'r Israeliaid sy'n dinistrio bywydau'r Palestiniaid. Mae anwybyddu hynna'n dangos diffygion.

Yn yr un modd nid democratiaeth yw mantra America yn y dwyrain canol nac unlle arall yn y byd - eu mantra yw y system orau sy'n arwain at fwy o $. Dyna pam eu bod mor hoff o'r term 'sefydlog' - unben compliant yn debyg o'u gwasanaethu am flynyddoedd lawer fel sy'n Saudi Arabia. Democratiaeth yn arwain at newid arweinwyr ac 'ansefydlogrwydd', megis yr hyn sydd newydd ddigwydd yn India.
System 'sefydlog' maent yn anelu ato yn Irac - Chalabi, eu ffefryn, heb unrhyw gefnogaeth o gwbl yn Irac ond wedi eu helpu gyda'u propaganda cyn y goresgyn. Dydi safon bywyd pobl Irac ddim o unrhyw bwys i America.
Pypedau sydd am ddod i fewn drwy'r trosglwyddiad - a bydd dim democratiaeth.
Mae'n anhygoel fod rhywun yn trio dweud fod hi'n well yn Irac heddiw nac oedd hi cyn y goresgyn. Anhygoel.
Reit Garnet, os wyt ti eisiau dod a'r rhai oedd yn gyfrifol am farwolaethau'r Shia ar ddiwedd rhyfel y gwlff gerbron cyfiawnder beth am George Bush 1. Gan mai ei lywdoraeth ef anogodd y Shia i wrthryfela gan eu bradychu a gadael i fyddin Saddam eu herlyn. Cafodd byddin America orchmynion i BEIDIO rhoi arfau i'r Shia, ar ol gaddo, pan ddechreuodd y gwrthryfela. Yn fwy na hynny fe safodd byddin america o'r ffordd gan arwain byddin Irac at y Shia. Dyna pam fod 93 yn linell, Garnet.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Cwlcymro » Llun 24 Mai 2004 3:24 pm

Ystyrier y logic - 'petai bywyd y Palestiniaid yn well, ni fysa na derfysgu yn erbyn Israel'. Yndi, rhyw fath o wirionedd yn hynny mae'n debyg, ond y stori yma ydi mai'r Israeliaid sy'n dinistrio bywydau'r Palestiniaid. Mae anwybyddu hynna'n dangos diffygion.


Os ti'n sbio ar jusd Irac, heb edrych yn bellach, ac yn cytuno efo Garnet fod ansawdd bywyd am wella yn Irac yna mi fysa fo yn gywir i ddeud ma A merica fysa wedi ei wella.

Dy hyn dwi dal ddim yn credu fod y linc rhwng safonnau byw a terfysgaeth mor gry a da chi'n feddwl. Dydi Sioni heb fynd a bomb i is-genhadaeth America achos ma person o'r tu allan yn cwyno ydi o. Mae yno ddigon o bobl sy'n teimlo anghyfiawnder o'r tu allan, oind mae angen ei deimlo fo o'r tu mewn i dy droi at derfysgaeth.
A'r gwir ydi Garnet mi fysa America yn gallu trin bob Iracwr fel Duw, a rhoi miliwn o ddoleri yr un iddy nhw, a fysa na ddim lot llai o derfysgwyr. I'r rhan fwya (swn i'n feddwl) ma'r ffaith ei bod nhw wedi mynd a milwyr i mewn i'w gwlad yn ddigon i atgyfnerthu y casineb oedd yno yn barod.
Dydy nhw ddim yn marw er mwyn gwella ei amodau byw, ma nhw'n marw achos fod gas ganddy nhw'r ffaith fod America yn mynnu 'interferio' a phopeth, does na'm un ffordd ellith y rhyfel yn Irac wella hynny.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Sioni Size » Llun 24 Mai 2004 3:42 pm

Tric arferol yr imperialwyr ydi mynnu fod ansawdd bywyd yn y wlad mae nhw'n oresgyn yn well. Mae nhw wastad yn defnyddio hyn er mwyn cyfiawnhau'r goresgyn. Mae'n amlwg i unrhyw idiot fod Irac yn shambls llwyr.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Garnet Bowen » Llun 24 Mai 2004 4:04 pm

Sioni Size a ddywedodd:Y ffactor mae Garnet yn ei anwybyddu yma ydi mai America ac Israel sy'n achosi i fywydau Mwslemiaid fod o ansawdd gwael.

Ystyrier y logic - 'petai bywyd y Palestiniaid yn well, ni fysa na derfysgu yn erbyn Israel'. Yndi, rhyw fath o wirionedd yn hynny mae'n debyg, ond y stori yma ydi mai'r Israeliaid sy'n dinistrio bywydau'r Palestiniaid. Mae anwybyddu hynna'n dangos diffygion.


Cytuno'n llwyr, am unwaith. Er fod Israel yn "ddemocrataidd" mewn ystyr llac iawn, tydw i ddim yn credu ei bod hi'n cyd-ymffurfio a'r math o safonau yr hoffwn i ei gweld yn y dwyrain canol. Mae datrys y problemau yn Israel yn holl bwysig i sefydlogrwydd y dwyrain canol.

Sioni Size a ddywedodd:Yn yr un modd nid democratiaeth yw mantra America yn y dwyrain canol nac unlle arall yn y byd - eu mantra yw y system orau sy'n arwain at fwy o $. Dyna pam eu bod mor hoff o'r term 'sefydlog' - unben compliant yn debyg o'u gwasanaethu am flynyddoedd lawer fel sy'n Saudi Arabia. Democratiaeth yn arwain at newid arweinwyr ac 'ansefydlogrwydd', megis yr hyn sydd newydd ddigwydd yn India.


Ti'n anwybyddu newidiadau syniadaethol sy'n digwydd yn America. Mae 'na garfan o wleidwyr, gan gynnwys gwleidwyr ceidwadol, sy'n dadlau fod yr hen system o gefnogi llywodraethau gormesol wedi methu. Mae'r rhain - ac mae llawer o'r Project for a New American Century - yn dadlau mai drwy hybu systemau llywodraethol hunan-gynhaliol, democrataidd, y mae edrych ar ol buddianau economaidd America. Efallai mai nid dyma'r bobl sy'n gwbwl gyfrifol am lywio polisi tramor America, ond mae eu dylanwad nhw yn tyfy.

Sioni Size a ddywedodd:System 'sefydlog' maent yn anelu ato yn Irac - Chalabi, eu ffefryn, heb unrhyw gefnogaeth o gwbl yn Irac ond wedi eu helpu gyda'u propaganda cyn y goresgyn. Dydi safon bywyd pobl Irac ddim o unrhyw bwys i America.
Pypedau sydd am ddod i fewn drwy'r trosglwyddiad - a bydd dim democratiaeth.


Ond onid ydi'r degawdau dwytha yma wedi profi fod 'pypedau' yn llai sefydlog na democratiaeth? Mi gefnogwyd pypedau yn Affganistan, a arweiniodd ar 9/11. Cymhara hyn efo Iran, sydd wedi cael rhyw fesur o ddemocratiaeth, a sydd yn llawer mwy "gorllewinol" - ar lawr gwlad beth bynnag - na Affganistan. Dwi ddim yn credu bod y ffaith yma wedi cael ei anwybyddu gan rhai o feddylwyr Washington.

Sioni Size a ddywedodd:Mae'n anhygoel fod rhywun yn trio dweud fod hi'n well yn Irac heddiw nac oedd hi cyn y goresgyn. Anhygoel.


Yn amlwg, mae'r llinynau mesur y mae'r ddau ohona ni yn eu defnyddio yn hollol wahanol. Fel rhywun sy'n treulio cymaint o amser yn dadlau am faterion gwleidyddol, mae'r syniad o gael fy nghosbi am fynegi fy marn yn rhywbeth cwbwl aflan i mi. Tasa'r ddau ohona ni yn byw o dan y drefn flaenorol yn Irac, fydda ni ddim yn cael y drafodaeth yma, Sioni. Tydw i ddim yn gwadu fod 'na broblemau sylweddol yn bodoli, ond mae'n rhaid cofio fod 'na newidiadau holl-bwysig wedi digwydd er gwell, hefyd.

Sioni Size a ddywedodd:Reit Garnet, os wyt ti eisiau dod a'r rhai oedd yn gyfrifol am farwolaethau'r Shia ar ddiwedd rhyfel y gwlff gerbron cyfiawnder beth am George Bush 1. Gan mai ei lywdoraeth ef anogodd y Shia i wrthryfela gan eu bradychu a gadael i fyddin Saddam eu herlyn. Cafodd byddin America orchmynion i BEIDIO rhoi arfau i'r Shia, ar ol gaddo, pan ddechreuodd y gwrthryfela. Yn fwy na hynny fe safodd byddin america o'r ffordd gan arwain byddin Irac at y Shia. Dyna pam fod 93 yn linell, Garnet.


Tydi dy ddadl di'n gneud dim synnwyr. Ti'n trio deud fod y ffaith fod Bush wedi gwneud rhywbeth drwg ym 1993 yn golygu fod Saddam felly yn haeddu peidio cael ei gosbi am ei droseddau niferus?
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Sioni Size » Llun 24 Mai 2004 4:20 pm

Ond rwyt ti'n cyfiawnhau goresgyn Irac a lladd cyn gymaint er mwyn dod a Saddam i gyfiawnder am ladd "250,000". Mae'r rhan helaeth, helaeth o'r rhain o'r gwrthryfel yna, felly mae'n ragrith llwyr i longyfarch Bush am oresgyn Irac pan mae ei dad ei hun oedd fwyaf cyfrifol am farwolaeth y gwrthryfelwyr Shia. Mae dy ddefnydd o'r ffigwr hwnnw felly'n gamarweiniol, a hwnnw wyt ti'n ei ddefnyddio er mwyn cyfiawnhau marwolaethau 70,000 + o'r rhyfel yma.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Garnet Bowen » Maw 25 Mai 2004 8:09 am

Sioni Size a ddywedodd:Ond rwyt ti'n cyfiawnhau goresgyn Irac a lladd cyn gymaint er mwyn dod a Saddam i gyfiawnder am ladd "250,000". Mae'r rhan helaeth, helaeth o'r rhain o'r gwrthryfel yna, felly mae'n ragrith llwyr i longyfarch Bush am oresgyn Irac pan mae ei dad ei hun oedd fwyaf cyfrifol am farwolaeth y gwrthryfelwyr Shia. Mae dy ddefnydd o'r ffigwr hwnnw felly'n gamarweiniol, a hwnnw wyt ti'n ei ddefnyddio er mwyn cyfiawnhau marwolaethau 70,000 + o'r rhyfel yma.


Yn "fwyaf cyfrifol"? Wyt ti o dy gof? Dwi ddim yn amddiffyn gweithred George Bush am eiliad, ond ydi ei annogaeth, ac yna ei ddiffyg cefnogaeth, yn ei wneud yn "fwy cyfrifol" na'r dyn a roddodd y gorchymyn i lofruddio'r gwrthryfelwyr?
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Sioni Size » Maw 25 Mai 2004 12:34 pm

Be ti'n feddwl ydi ystyr gwrthryfel? Roedd y Shia ar fryd stormio Baghdad a Duw a wyr be arall. Datganiad o ryfel oedd o, gyda'r dealltwriaeth fod arfau a chefnogaeth gan America. Felly mae 'llofruddio' yn air cryf braidd.
Helpodd America i fyddin Saddam wedyn droi ar y Shia. Credaf fod cyn gymaint o fai ar Bush, os nad mwy, am farwolaethau'r Shia. Heb yr annogaeth gan America ni fyddai'r gwrthryfel wedi digwydd. Roedd o ryw 'chydig mwy na 'iddi bois' - roedd depos o arfau wedi eu paratoi iddynt, a milwyr america yn gwrthod mynediad danorchymyn eu llywodraeth pan ddaeth y foment a'r brwydro tyngedfennol. Pam? Amlwg fod Garnet yn gwybod ond ddaw o fyth o'i enau - oherwydd 'ansicrwydd' ynglyn a be fyddai'r Shia yn ei wneud ag olew y wlad.
Felly cad dy ffug - ffieidd-dra am Saddam Hussein, os nad wyt ti am ddod a Bush 1 o flaen ei well hefyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Garnet Bowen » Maw 25 Mai 2004 1:09 pm

Sioni Size a ddywedodd:Cad dy ffug - ffieidd-dra am Saddam Hussein, os nad wyt ti am ddod a Bush 1 o flaen ei well hefyd.


Gai ofyn i chdi pa drosedd wyt ti'n cyhuddo Bush o'i chyflawni yn union? Hynny yw, os wyt ti o ddifrif ynglyn a dod a fo o flaen ei well, be fyddai'r cyhuddiadau? (Dwi'n cymeryd yn ganiataol dy fod ti'n gwybod nad ydi "Newid dy feddwl ynglyn a gwrthryfel" ddim yn drosedd gyfreithiol.)
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Sioni Size » Maw 25 Mai 2004 1:39 pm

Dwn i'm - cynllwynio i ladd 200,000 efallai, i ddechrau, i adio at ei weithredoedd pan yn arweinydd y CIA, a mi lobiwn ni Panama i fewn hefyd.
Felly dan pa drosedd fyddet ti'n rhoi Saddam o flaen ei well yn yr achos yma? "Ymateb i derfysgaeth" dwi'n meddwl ydi'r term gorau ym mharlans ein hamseroedd i'w wethrediadau.

Cyfraith :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

NôlNesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron