Falle ddylse ti fod heb gyfaddef hynna gan mae creibility y cwrs yna wedi mynd lawr y draen yn llwyr yn y 5 munud olaf ma.
LOL
Paid a phoeni, dwi'n meddwl ma' fi di'r unig un sy'n dilyn y cynllun gradd yna eleni beth bynnag!!
Fy mhwynt i oedd nad ydi o bwys ar ba ochr o'r sbectrwm mae'r gwrthwynebwyr i'r rhyfel. Tydi nhw ddim yn ei wrthwynebu oherwydd eu bod yn 'lefties' fel ti'n eu galw, mae nhw'n ei wrthwynebu gan eu bod yn credu ei fod yn anghyfiawn, ac maent wedi dod i'r casgliad yna ar ol iddynt edrych ar yr holl ffactorau oedd yn perthyn i'r ddadl 'mynd i ryfel neu beidio?' Mae'r ddadl 'chwith-dde' ti'n mynnu dod mewn i bob dim yn ddibwys yn fama.