Awgrymiadau ar gyfer Irac

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Awgrymiadau ar gyfer Irac

Postiogan Garnet Bowen » Llun 24 Mai 2004 4:09 pm

Mae Sioni wedi awgrymu cychwyn edefyn arall i drafod ei gynlluniau i wella Irac, felly dyma ni.

Sioni Size a ddywedodd:Tynnu milwyr America a Phrydain allan o Irac.
Rhoi Kurdistan i'r Cwrdiaid, gwlad i'r Shia a gwlad i'r Sunni. Gwlad ffals yw Irac a gafodd ei ffiniau wedi ei greu gan yr imperialwyr Prydain a Ffrainc yn rhan o rannu ysbail y Dwyrain canol, felly dylid rhoi hunanlywodraeth i holl bobl Irac. Dyma mae y bobol eisiau ond nid ydi America'n caniatau hynny oherwydd byddai'n llawer anoddach iddyn nhw fedru manteisio yn economaidd i'r fath raddau wedyn.
Trosglwyddo drwy etholiadau i'r gwledydd newydd - cael y gwledydd Arabaidd eraill i arolygu hyn a darparu lluoedd i sicrhau'r heddwch AR OL trafodaethau dwys gyda'r darpar ymgeiswyr. Nid oes rol i'r Cenhedloedd Unedig oherwydd mae casineb tuag at y CU ar ol y sancsiynau a'r celwydd yn aruthrol.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Ffinc Ffloyd » Llun 24 Mai 2004 4:12 pm

Ia - mae'r boi yn siarad sens. Does na'm sens mewn trio cadw'r ffacsiynau at eu gilydd - dim ond sefyllfa Israel/Palestina fydd y canlyniad.
Rhithffurf defnyddiwr
Ffinc Ffloyd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 558
Ymunwyd: Llun 12 Mai 2003 10:48 am
Lleoliad: Dolgellau

Re: Awgrymiadau ar gyfer Irac

Postiogan eusebio » Llun 24 Mai 2004 7:45 pm

Sioni Size a ddywedodd:Rhoi Kurdistan i'r Cwrdiaid, gwlad i'r Shia a gwlad i'r Sunni. Gwlad ffals yw Irac a gafodd ei ffiniau wedi ei greu gan yr imperialwyr Prydain a Ffrainc yn rhan o rannu ysbail y Dwyrain canol, felly dylid rhoi hunanlywodraeth i holl bobl Irac.


Onid dyna'r math o broblem sydd yn creu trafferthion lu yn Kosovo?
Efallai nad wyf yn gwybod digon am hyn, ond mae'r Kosovans o dras Albanaidd eisiau gwlad arwahan i'r Serbiaid ond nid yw'r Serbiaid am weld y wlad yn cael ei rannu.
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan Dylan » Llun 24 Mai 2004 7:50 pm

Gan mai ffiniau mympwyol ddigon wedi'u llunio ar hap yn y tywod, heb ystyriaeth o gwbl i'r demograffeg y tu mewn iddynt, ydi Irác, mae'n swnio fel cam ymlaen i mi.

Y broblem wedyn wrth gwrs fydda'r perygl y bydd rhai lleiafrifon yn cael eu trapio o fewn gwlad newydd. Mi fydda angen goruwchwyliaeth allanol ar y fath fenter.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Sioni Size » Maw 25 Mai 2004 1:02 am

Mae'r peryg yn ddilys. Er hynny, byddai llai o siawns iddo ddisgyn mewn i'r siambls llwyr o greu Pakistan i'r Mwslemiaid pan oedd Lloegr yn gadael India gan nad yw'r boblogaeth wedi ei rhannu mor gyfartal rhwng yr ardaloedd. Petai trafferth ethnic yn debygol mae'n debyg y byddai wedi digwydd yn barod yn y flwyddyn ddiweddar. Rhaid rhoi honna i'r americans - mae pawb yn eu casau nhw cyn gymaint fel nad oes unrhyw gasineb ar ol i neb arall.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Garnet Bowen » Maw 25 Mai 2004 8:06 am

Dwi'n gweld pam fod y syniad o greu tair gwladwriaeth yn apelio, ond mi ydw i'n amheus yn gyffredinol ynglyn a chreu byd sy'n llawn o wledydd "ethnig". Fel mae Dylan yn ddeud, be ydi ffawd rhywun o dras Sunni sydd wedi byw mewn ardal Shia drwy'i oes? Mae hi'n ddifyr dy fod ti'n crybwyll Pacistan ac India, Sioni. Hanner can mlynedd yn ol, mi oedd Mwslemiaid yn mynnu gwlad arwahan i'r Hindwiaid. Heddiw mi yda ni'n ystyried creu gwledydd arwahan i wahanol garfanau o Fwslemiaid. Pam mor bell all y broses yma fynd? Yda ni'n mynd i greu gwledydd unigol i bob teulu gwahanol o fewn y carfannau yma? Onid oes gan wladwriaeth aml-ddiwyllianol - beth bynnag fo hanes creu y wlad hono - werth cynhenid wrth geisio meithrin perthynas rhwng y gwahanol garfanau?
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Mr Gasyth » Maw 25 Mai 2004 8:49 am

Dwnim am y syniad o greu tair gwlad ar wahan, ond yn sicir dylai Irac fod yn ryw fath o ffederasiwn yn cynnwys talaith Gwrdaidd, talaith Shia a thalaith Sunni - os mai dyna mae'r Iraciaid isho. Mae'r Cwrdiaid wedi bod fwy neu lai'n annibynnol am ddeng mlynedd a tydyn nhw ddim isho colli'r hunan-reolaeth sydd ganddyn nhw a wna nhw ddim gadael y fyddin Iracaidd yn ol mewn i Cwrdistan.
Yn y tymor byr dylid bod llywodraeth ganolog a thair llywodraeth ranbarthol. Pan ddaw etholiadau dylent gael eu cynnal yn daleithiol ac yn genedlaethol a wedyn gadael i'r rhai sydd wedi'w hethol benderfynnu ar y ffordd ymlaen. Dyna ydi democratiaeth wedi'r cyfan, er dwi'm yn siwr os ydi Bush yn dallt hynny.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan owainrhys » Maw 25 Mai 2004 10:18 am

Garnet Bowen a ddywedodd: Heddiw mi yda ni'n ystyried creu gwledydd arwahan i wahanol garfanau o Fwslemiaid. Pam mor bell all y broses yma fynd? Yda ni'n mynd i greu gwledydd unigol i bob teulu gwahanol o fewn y carfannau yma?


dim siarad am gadael cenedl gael gwladwriaeth yr ydym? Mae cwrdistan yn genedl penodol - 30m o bobl, y genedl fwyaf yn y byd sydd heb ei wladwriaeth. Mae'r cwestiwn Cwrdiaid yn un rhanbarthol hefyd gan eu bod yn bresenol yn Irac, Syria a Thwrci. Twrci ydi'r drwg mwyaf - 20m o Gwrdiaid sydd heb hawliau cyfartal. Twrci ar fin ymuno gyda'r Undeb Ewropeaidd er eu record hawliau dynol ag diffyg democratiaeth.
Mae Ewrop yn dewis anwybyddu yr hawl o hunnan benderfyniad yn achos Cwrdistan.
owainrhys
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 22
Ymunwyd: Maw 11 Mai 2004 8:59 am

Postiogan Garnet Bowen » Maw 25 Mai 2004 10:28 am

owainrhys a ddywedodd:dim siarad am gadael cenedl gael gwladwriaeth yr ydym? Mae cwrdistan yn genedl penodol - 30m o bobl, y genedl fwyaf yn y byd sydd heb ei wladwriaeth. Mae'r cwestiwn Cwrdiaid yn un rhanbarthol hefyd gan eu bod yn bresenol yn Irac, Syria a Thwrci. Twrci ydi'r drwg mwyaf - 20m o Gwrdiaid sydd heb hawliau cyfartal. Twrci ar fin ymuno gyda'r Undeb Ewropeaidd er eu record hawliau dynol ag diffyg democratiaeth.
Mae Ewrop yn dewis anwybyddu yr hawl o hunnan benderfyniad yn achos Cwrdistan.


Mae gen i beth cydymdeimlad gyda gadael i'r Cwrdiaid gael gwladwriaeth annibynol. Cyfeirio at y syniad o wladwriaethau Shia a Sunni on i yn bennaf.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Mr Gasyth » Maw 25 Mai 2004 10:38 am

Garnet a ddywedodd:Mae gen i beth cydymdeimlad gyda gadael i'r Cwrdiaid gael gwladwriaeth annibynol. Cyfeirio at y syniad o wladwriaethau Shia a Sunni on i yn bennaf.


Mae o fyny iddyn nhw benderfynnu tydi, nid i ni na Bush. Os ydyn nhw isho sticio efo'i gilydd, iawn. Os dyn nhw isho dwy wladwriaeth ar wahan, iawn.
Democratiaeth.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Nesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron