Garnet Bowen a ddywedodd: Heddiw mi yda ni'n ystyried creu gwledydd arwahan i wahanol garfanau o Fwslemiaid. Pam mor bell all y broses yma fynd? Yda ni'n mynd i greu gwledydd unigol i bob teulu gwahanol o fewn y carfannau yma?
dim siarad am gadael cenedl gael gwladwriaeth yr ydym? Mae cwrdistan yn genedl penodol - 30m o bobl, y genedl fwyaf yn y byd sydd heb ei wladwriaeth. Mae'r cwestiwn Cwrdiaid yn un rhanbarthol hefyd gan eu bod yn bresenol yn Irac, Syria a Thwrci. Twrci ydi'r drwg mwyaf - 20m o Gwrdiaid sydd heb hawliau cyfartal. Twrci ar fin ymuno gyda'r Undeb Ewropeaidd er eu record hawliau dynol ag diffyg democratiaeth.
Mae Ewrop yn dewis anwybyddu yr hawl o hunnan benderfyniad yn achos Cwrdistan.