O! Tyn y Gorchudd

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Maw 25 Mai 2004 9:46 am

Leusa a ddywedodd:Rhybudd - Peidiwch a darllen y dudalen olaf cyn gorffen y llyfr i gyd, a do mi nesh i - dam! :(


Pam yn y byd wnest ti hynna? :?
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Gowpi » Maw 25 Mai 2004 11:39 am

O'r un farn a'r rhan fwyaf yma :D Pan ddechreues ei ddarllen gyntaf o'n i'n ei chael yn anodd ac fe wnes inne ei rhoi lawr ar ol y bennod gyntaf a'i gadael am fisoedd. Deall wedyn bod y teulu ma' hi'n son amdano yn deulu i finne (!), ei bigo lan eto a wirioneddol ei fwynhau am resymau llenyddol, ieithyddol, hanesyddol... a theuluol wrth gwrs!!
I'r rheiny nad sy'n credu bod y pethe bach yn neud gwa'niaeth, triwch rannu stafell gyda mosgito.
Rhithffurf defnyddiwr
Gowpi
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 580
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 12:51 pm
Lleoliad: cadw cwmni cwn annwn

Postiogan Madrwyddygryf » Sad 25 Tach 2006 12:53 pm

Newydd gorffen darllen hwn y bore ma'. Nofel 'Self-indulgent' oedd yn or-rhamantu pethau. Sdim byd waeth yn fy marn i. Nes i daflu y llyfr ar draws y stafell ar ol i mi darllen o.

Dyma fath stwff sydd yn troi bobl i ffwrdd o nofelau Cymraeg.
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Dylan » Sad 25 Tach 2006 2:33 pm

am be' ti'n malu?

ym mha ffordd mae o'n lyfr mwy "self-indulgent" nag unrhyw un arall?
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Madrwyddygryf » Sad 25 Tach 2006 10:16 pm

Ym mha ffordd ?

Wel beth am defnyddio aelod o'i theulu fel cymeriad mewn Stori.

I ddeud y gwir, oedd na stori tybed ? Hyd a welai i, dim ond adrodd hanes ei theulu mewn ffordd llenyddol oedd y nofel.
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Dylan » Sul 26 Tach 2006 5:45 am

?

mae hi'n rhyw dair blynedd a mwy ers i mi'i darllen, ond alla' i ddim deall yn fy myw y broblem sydd gen ti â hi.

Mae pob un nofel erioed fwy neu lai yn tynnu oddi ar brofiadau personol.

os 'dw i'n cofio'n iawn, 'roedd 'na uffar o stori
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Jeni Wine » Llun 27 Tach 2006 9:48 am

Madrwyddygryf a ddywedodd:Ym mha ffordd ?

Wel beth am defnyddio aelod o'i theulu fel cymeriad mewn Stori.

I ddeud y gwir, oedd na stori tybed ? Hyd a welai i, dim ond adrodd hanes ei theulu mewn ffordd llenyddol oedd y nofel.


Blydi hel, os na fedri di ddefnyddio aelodau dy deulu fel ysbrydoliaeth, be fedri di ddefnyddio? A be sy o'i le mewn adrodd hanes teulu "mewn ffordd llenyddol"? O'n i'n meddwl bod yna stori gref, llawn difyrrwch a thristwch, hapusrwydd a gwae.

Os na ti'n licio'r arddull, iawn, digon teg, ond dwi ddim yn gweld fod y ddadl uchod yn ^ dal dwr.
Aimable petite conne
Rhithffurf defnyddiwr
Jeni Wine
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1173
Ymunwyd: Sad 30 Awst 2003 3:51 pm
Lleoliad: llanbidinodyn lle mae'r cwn yn cachu menyn

Postiogan Jeni Wine » Llun 27 Tach 2006 9:52 am

dwi'n cofio darllen yn rhywle fod Angharad Price wedi sgwennu'r nofel ar gyfer ei theulu i ddechrau cychwyn, cyn meddwl fasa waeth iddi ei anfon i mewn i gystadleuaeth y Fedal Ryddiaeth ddim, iddi gael beirniadaeth.

Fedra i ddim gweld pam y byddai sgwennu hanes dy gyndeidiau mewn ffordd greadigol yn waeth neu'n well na sgwennu am gymeriadau cwbl ffug. Swn i'n dueddol o ddweud fod creu cymeriadau ffug yn fwy over-indulgent am mai o ben a phastwn yr awdur yn gyfangwbl mae nhw wedi dod. Ac os ti'n meddwl felly ma pob awdur yn "over-indulgent" tydyn?
Aimable petite conne
Rhithffurf defnyddiwr
Jeni Wine
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1173
Ymunwyd: Sad 30 Awst 2003 3:51 pm
Lleoliad: llanbidinodyn lle mae'r cwn yn cachu menyn

Postiogan sian » Llun 27 Tach 2006 10:16 am

Madrwyddygryf a ddywedodd:Dyma fath stwff sydd yn troi bobl i ffwrdd o nofelau Cymraeg.


Dw i'n meddwl dy fod ti'n annheg.
Pe bai rhywun yn ei 20iau neu ei 30au'n agor y llyfr a heb ddarllen nofel Gymraeg ers gadael rysgol, dwi'n deall y byddai'n ormod o gowled iddyn nhw ond mae angen pob math o lenyddiaeth ar genedl.

Dw i'n edrych mlaen am ddarllen am y Trowtyn ond dwi'n siwr mai Prysor fyddai'r cyntaf i gyfaddef y byddai llenyddiaeth sy'n llawn Trowtlyfrau yn ddiflas iawn. (Gyda llaw - ydw i'n iawn i feddwl bod Prysor yn perthyn i Angharad Price a'r teulu sy'n cael ei bortreadu yn O! Tyn y Gorchudd? Ydyn nhw hefyd yn perthyn i Gowpi - ac (o leia) hanner aelodau maes-e?)

O'n i'n meddwl bod darllen O! Tyn y Gorchudd yn brofiad moethus - fel bwyta baryn o siocled Green & Black.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan Ffinc Ffloyd » Maw 28 Tach 2006 11:10 am

"Hunangofiant" oedd testun y Fedal Ryddiaith y flwyddyn honno a'r hyn wnaeth Angharad oedd dyfeisio bywyd, i bob pwrpas - mi fuodd Rebecca Jones (neu be bynnag oedd enw'r prif gymeriad) farw yn ifanc iawn a damcaniaeth o'r hyn allai ei bywyd hi fod wedi bod pe byddai hi wedi byw ydi'r llyfr.

Dwi'n cytuno a Sian a Jeni - does 'na ddim byd yn bod efo defnyddio cymeriadau go-iawn mewn nofel. Be da chi'n neud efo'r deunydd crai sy'n bwysig, a swn i'n deud bod Angharad wedi llwyddo'n burion.
Rhithffurf defnyddiwr
Ffinc Ffloyd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 558
Ymunwyd: Llun 12 Mai 2003 10:48 am
Lleoliad: Dolgellau

NôlNesaf

Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron