Garnet Bowen a ddywedodd:Wel, y rheswm dwi'n deud hyn ydi dy goment di ynglyn a'r gwrthryfel ar ddechrau'r 90au. I ti, mae George Bush - wnaeth annog y gwrthryfel a arweiniodd at lofruddiaeth miloedd o bobl - yn waeth na Saddam Hussein, y dyn a oedd yn uniongyrchol gyfrifol am y lladd. Mae trosedd Hussein yn llawer gwaeth, ond George Bush ydi'r dyn drwg. Pam?
Mae'n eitha boring gorfod esbonio hyn mor drwyadl, ond ni fyddai'r gwrthryfel wedi digwydd pe na bai America wedi dweud wrthyn nhw am wrthryfela gan addo llwyth o arfau iddyn nhw, a'u gosod yno dan ofal eu lluoedd yn barod am y gwrthryfel.
Be fyddet yn disgwyl i Saddam Hussein wneud??! Oce ta, dwi'n mynd?
Roedd helicoptars America tu ol i luoedd Saddam pan oeddent yn gwneud y lladdfa.
Hels bels, mae hyn yn dismal. Nid amddiffyn Saddam Hussein yr ydw i, ond yn nodi fod America yn ddim gwell o ran moesoldeb, ac felly'n llawer mwy peryg oherwydd eu grym.
Dwi'n meddwl fod carchariad y milwr arbenig hwnw yn dangos fod system America yn un amherffaith, ond yn dipyn gwell na'r hyn a oedd yn digwydd o dan Saddam. Mae'r bobl a oedd yn gyfrifol yn mynd i gael eu cosbi, ac mae hi'n debygol y bydd byddin America yn fwy gofalus ynglyn a gadael i'r math yma o beth ddigwydd yn y dyfodol.
Da iawn. Esiampl arall o fethu'n glir a gweld yn bellach na dy drwyn. Mae'r milwyr yma yn cael eu cosbi oherwydd fod y lluniau allan yn dangos i'r byd eu troseddau. Felly mae'n rhaid eu cosbi. Gan byddai peidio eu cosbi yn profi cymaint o folocs yw'r holl ryfel. Nid ydynt yn cael eu cosbi am eu troseddau, neu byddai degau o filoedd o filwyr America yn gwynebu 'cyfiawnder'. Mi gei roi dy frawddeg wlyb 'wel o leia mae gobaith iddyn nhw gael eu cosbi dan drefn ddemocraitaidd' neu gyffelyb ond mae hi'n ffocin amlwg i bawb na chawn nhw ddim.