Zapatro-dewrder

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Sioni Size » Maw 25 Mai 2004 5:57 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:Wel, y rheswm dwi'n deud hyn ydi dy goment di ynglyn a'r gwrthryfel ar ddechrau'r 90au. I ti, mae George Bush - wnaeth annog y gwrthryfel a arweiniodd at lofruddiaeth miloedd o bobl - yn waeth na Saddam Hussein, y dyn a oedd yn uniongyrchol gyfrifol am y lladd. Mae trosedd Hussein yn llawer gwaeth, ond George Bush ydi'r dyn drwg. Pam?


Mae'n eitha boring gorfod esbonio hyn mor drwyadl, ond ni fyddai'r gwrthryfel wedi digwydd pe na bai America wedi dweud wrthyn nhw am wrthryfela gan addo llwyth o arfau iddyn nhw, a'u gosod yno dan ofal eu lluoedd yn barod am y gwrthryfel.
Be fyddet yn disgwyl i Saddam Hussein wneud??! Oce ta, dwi'n mynd?
Roedd helicoptars America tu ol i luoedd Saddam pan oeddent yn gwneud y lladdfa.
Hels bels, mae hyn yn dismal. Nid amddiffyn Saddam Hussein yr ydw i, ond yn nodi fod America yn ddim gwell o ran moesoldeb, ac felly'n llawer mwy peryg oherwydd eu grym.

Dwi'n meddwl fod carchariad y milwr arbenig hwnw yn dangos fod system America yn un amherffaith, ond yn dipyn gwell na'r hyn a oedd yn digwydd o dan Saddam. Mae'r bobl a oedd yn gyfrifol yn mynd i gael eu cosbi, ac mae hi'n debygol y bydd byddin America yn fwy gofalus ynglyn a gadael i'r math yma o beth ddigwydd yn y dyfodol.


Da iawn. Esiampl arall o fethu'n glir a gweld yn bellach na dy drwyn. Mae'r milwyr yma yn cael eu cosbi oherwydd fod y lluniau allan yn dangos i'r byd eu troseddau. Felly mae'n rhaid eu cosbi. Gan byddai peidio eu cosbi yn profi cymaint o folocs yw'r holl ryfel. Nid ydynt yn cael eu cosbi am eu troseddau, neu byddai degau o filoedd o filwyr America yn gwynebu 'cyfiawnder'. Mi gei roi dy frawddeg wlyb 'wel o leia mae gobaith iddyn nhw gael eu cosbi dan drefn ddemocraitaidd' neu gyffelyb ond mae hi'n ffocin amlwg i bawb na chawn nhw ddim.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Garnet Bowen » Mer 26 Mai 2004 8:11 am

Sioni Size a ddywedodd:
Garnet Bowen a ddywedodd:Wel, y rheswm dwi'n deud hyn ydi dy goment di ynglyn a'r gwrthryfel ar ddechrau'r 90au. I ti, mae George Bush - wnaeth annog y gwrthryfel a arweiniodd at lofruddiaeth miloedd o bobl - yn waeth na Saddam Hussein, y dyn a oedd yn uniongyrchol gyfrifol am y lladd. Mae trosedd Hussein yn llawer gwaeth, ond George Bush ydi'r dyn drwg. Pam?


Mae'n eitha boring gorfod esbonio hyn mor drwyadl, ond ni fyddai'r gwrthryfel wedi digwydd pe na bai America wedi dweud wrthyn nhw am wrthryfela gan addo llwyth o arfau iddyn nhw, a'u gosod yno dan ofal eu lluoedd yn barod am y gwrthryfel.
Be fyddet yn disgwyl i Saddam Hussein wneud??! Oce ta, dwi'n mynd?
Roedd helicoptars America tu ol i luoedd Saddam pan oeddent yn gwneud y lladdfa.
Hels bels, mae hyn yn dismal. Nid amddiffyn Saddam Hussein yr ydw i, ond yn nodi fod America yn ddim gwell o ran moesoldeb, ac felly'n llawer mwy peryg oherwydd eu grym.


Ti'n dal i fethu gweld y gagendor anferth rhwng be wnaeth Bush a be wnaeth Hussein? Ti'n gofyn i mi "Be ti'n ddisgwyl i Saddam wneud?" fel tasa ti'n derbyn mai'r unig ymateb i wrthryfel oedd llofruddio miloedd ar filoedd o bobl gyffredin fel "cosb" am gymeryd rhan yn y gwrthryfel hwnw. Pam na fedri di weld fod annogaeth Bush yn beth drwg i'w wneud, ond fod y llofruddiaethau yn llawer, llawer gwaeth?
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Cwlcymro » Mer 26 Mai 2004 9:28 am

Gan fod y pwynt yma yn wirion ac yn cael ei ali adrodd fil o weithia, fedrw chi ddim dau ddim cytuno fod ymyraeth Bush 1st wedi gwaethygu pethau yn arw ac yn anfoesol uffernol, ond fod troseddau Saddam yn gan gwaith gaweth?
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Sioni Size » Mer 26 Mai 2004 9:55 am

Oeddan nhw'n bobl gyffredin? Onid y gwrthryfelwyr oeddan nhw oll? Lle darganfuwyd y beddi eto, ychydig i'r de o Baghdad os dwi'n iawn?
Nacdi. Dydi'r bai ddim mor anghytbwys. Os dwi'n mynd a ci i gwffio ac yn tynnu ei ddannedd o i gyd, pwy sydd fwyaf cyfrifol am farwolaeth y ci.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Cwlcymro » Mer 26 Mai 2004 9:57 am

Sioni Size a ddywedodd:Nacdi. Dydi'r bai ddim mor anghytbwys. Os dwi'n mynd a ci i gwffio ac yn tynnu ei ddannedd o i gyd, pwy sydd fwyaf cyfrifol am farwolaeth y ci.


Y boi efo gwn nath ei saethu fo.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Garnet Bowen » Mer 26 Mai 2004 10:07 am

Cwlcymro a ddywedodd:Gan fod y pwynt yma yn wirion ac yn cael ei ali adrodd fil o weithia, fedrw chi ddim dau ddim cytuno fod ymyraeth Bush 1st wedi gwaethygu pethau yn arw ac yn anfoesol uffernol, ond fod troseddau Saddam yn gan gwaith gaweth?


Medraf tad. Er mwyn trio achub pwyll pawb. Gan gynnwys fi fy hun.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Sioni Size » Mer 26 Mai 2004 10:26 am

"Mae'r bobl oedd yn gyfrifol yn mynd i gael eu cosbi" - Garnet Blair, bullshitter extrordinaire.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Cwlcymro » Mer 26 Mai 2004 10:30 am

Sioni, paid a troi'r pwnc bob ffordd nei di!
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan GT » Mer 26 Mai 2004 2:50 pm

Garnet a Sioni.

Welais i erioed ddadl ryfeddach yn fy mywyd. Y ddau ohonoch yn cydnabod ei bod yn 'ddrwg' i Bush annog y Shia i wrthryfel ac yna peidio a chodi bys i'w helpu pan aeth y cach trwy'r ffan. Y ddau ohonoch yn cytuno nad oedd Saddam yn gwneud peth ffeind iawn yn lladd miloedd o bobl Shia. a'r ddau ohonoch wedyn yn mynd ati i ddadlau pa un ydi'r 'mwya drwg'. Beth ydi'r gwaetha, cachu ci ta cachu cath?

Ydi hi'n bosibl bod y ddau ohonoch yn gyd fyfyrwyr mewn rhyw goleg diwinyddol yn rhywle?
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Sioni Size » Iau 27 Mai 2004 3:58 pm

GT a ddywedodd:Garnet a Sioni.

Welais i erioed ddadl ryfeddach yn fy mywyd. Y ddau ohonoch yn cydnabod ei bod yn 'ddrwg' i Bush annog y Shia i wrthryfel ac yna peidio a chodi bys i'w helpu pan aeth y cach trwy'r ffan. Y ddau ohonoch yn cytuno nad oedd Saddam yn gwneud peth ffeind iawn yn lladd miloedd o bobl Shia. a'r ddau ohonoch wedyn yn mynd ati i ddadlau pa un ydi'r 'mwya drwg'. Beth ydi'r gwaetha, cachu ci ta cachu cath?

Ydi hi'n bosibl bod y ddau ohonoch yn gyd fyfyrwyr mewn rhyw goleg diwinyddol yn rhywle?


Yn ymddangos yn hynod ryfedd o bosib, ond y pwynt hanfodol ydi ei bod hi'n ragrith llwyr i ddefnyddio'r gwrthryfel yma fel cyfianwhad dros fynd i ryfel - 'yr holl bobl ma laddwyud gan Saddam ddrwg' - tra mai America arweiniodd nhw i ymladd gan dynnu eu cefnogaeth yn ol pan oedd yn dechrau. Mae Garnet yn defnyddio'r ffigyrau er cyfiawnhad am ddisodli SH rwan. Sy'n ddigywilydd.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

NôlNesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai

cron