webwobarwla
A dyna'n union pam yr wyf yn anghytuno a'th safbwynt. Os ti'n meddwl fy mod i o blaid y rhyfel yma, yna mi fyddet tithau hefyd yn anghywir. Ond mae'n gas gen i glywed am bob un marwolaeth dibwys, tra mae'n eithaf amlwg dy fod yn llawenhau o glywed am Brydeinwyr / Americanwyr / pwy bynnag ond Iraciaid yn cael ei lladd. Nag wyt ti'n meddwl fod hynny braidd yn chwithig? Siawns os wyt ti gymaint yn erbyn y rhyfel, nad wyt am weld neb yn marw yn ddi-angen?
Cristnogol iawn. Rho'r un tosturi i'r llofrudd a rwyt yn roi i'r rhai sy'n cael eu llofruddio.
Efallai fedri di gael yr union run faint o dosturi i'r bobl sy'n gwneud y goresgyn a'r lladd a'r rhain
http://www.guardian.co.uk/Iraq/Story/0, ... 58,00.html
'US soldiers started to shoot us, one by one' -Survivors describe wedding massacre'
ond fedra i ddim. Dwi'm digon o gristion ne rwbath mae'n rhaid.
Y dienyddiad. Welodd rywun geg Nick Berg, neu rwbath, yn symud pam oedd o yn 'siarad'? Welis i ddim. A mae'r tystiolaeth yn y linc uchod yn hynod arwyddocaol. Mi fyddai rhywun hefyd yn disgwyl rhyw fath o sgrechian neu unrhyw beth, siawns.