Abu Hamza

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Abu Hamza

Postiogan Wil wal waliog » Iau 27 Mai 2004 5:50 pm

Wel ma' fe wedi cal i aresto, a ma' fe off am drip i'r Amerig. Beth chi'n feddwl am hyn? Sefyllfa fach ddiddorol!
"he didn't mean to hit me officer. he's a good man. don't take him away. i fell asleep in the driveway and he run over my head with the truck."

http://www.flickr.com/photos/92984618@N00/
Rhithffurf defnyddiwr
Wil wal waliog
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 310
Ymunwyd: Sul 18 Ion 2004 9:37 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Panom Yeerum » Iau 27 Mai 2004 7:36 pm

america=gwlad y gont
Panom Yeerum
 

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Iau 27 Mai 2004 7:46 pm

Panom Yeerum a ddywedodd:america=gwlad y gont


Sai'n credu bod pethau mor ddu a gwyn â hynna. Mae'r boi 'ma Abu Hamza yr un mor gaeedig ei feddwl â'r asgell dde yn America, yn gwneud dim ond traethu am ddechrau rhyfel yn erbyn y Byd Gorllewinol. Mae e'n gweld pob person gwyn fel y gelyn yn yr un ffordd ag y mae George Bush yn gweld pob person du fel y gelyn (wel, heblaw Colin a Condoleeeeeeeeeeeeeeeeeeeeeeza...)
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Wil wal waliog » Iau 27 Mai 2004 11:48 pm

Aye, dyw 'rhen Abu ddim yn foi fydden 'i yn cydymdeimlo a fe. Ond wedyn allai ddim cydymdeimlo gymaint a hynny gyda'r rheini sy'n ei erlyd. A yw ei arestio yn symydiad gwleidyddol da yn beth arall. Ond wedyn ma'r galwad i gael y boi wei ei arestio, os yw'n euog o'r cyhiddiadau, yn fwy na dilys.
"he didn't mean to hit me officer. he's a good man. don't take him away. i fell asleep in the driveway and he run over my head with the truck."

http://www.flickr.com/photos/92984618@N00/
Rhithffurf defnyddiwr
Wil wal waliog
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 310
Ymunwyd: Sul 18 Ion 2004 9:37 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Dielw » Gwe 28 Mai 2004 7:57 am

Mae'n dangos faint mor soft ydi'r wlad pan mae rywun felna'n cal dod yma, byw ar fudd-daliadau g, wedyn pregethu bod o isio ffwcio fyny'r gorllewin - a ma pobl dal yn dadlau am "hawliau dynol" a ryw gachu felna.

Geith America neud be ffwc ma nhw isio fo'r twat gwirion. Beth am arestio'r cocs sy'n dilyn y boi hefyd? Os dydyn nhw ddim yn licio'r gorllewin, allan a nhw! Mae'r bobl hyn yr un mor ddrwg a rhannau mwyaf eithafol y BNP.
One day this chalk outline will circle this city

Survival... Recovery... Prevention la la la
Rhithffurf defnyddiwr
Dielw
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 960
Ymunwyd: Iau 30 Hyd 2003 4:08 pm
Lleoliad: heheheee... urgh

Postiogan S.W. » Gwe 28 Mai 2004 8:29 am

Dielw,

Dydy Abu Hamza ddim ar fudd daliadau! Os wyt ti'n edrych ar be mae o wedi'w wneud mae o wedi bod a gwaith cyflogedig yma. Dwi ddim yn hoff o'r person gan ei fod yn dod a enw drwg i'r mwyafrif helaeth o Fwslemiaid a mewnfudwyr sydd yn bobl heddychlon ac yn ddiolchgar o fod yn byw yma ac am gyfrannu i'r gymdeithas maent yn byw ynddi. (Maen ran mawr o grefydd Mwslemaidd eu bod yn cynorthwyo'r gymuned gyfan ermwyn iddynt gael bywyd da). Ond paid a just cymryd ei fod ar fudd daliadau - dyma mae'r BNP eisiau i ti feddwl!
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 28 Mai 2004 8:37 am

Dielw a ddywedodd:Geith America neud be ffwc ma nhw isio fo'r twat gwirion.


Gret, ffwcia ei hawlie dynol e, a phawb arall y gellid ensynnu eu bod nhw'n ymwneud ag unrhyw fath o derfysgaeth, fel... Cymdeithas yr Iaith efallai... Dielw, shwt yffach alli di weud ar yr un llaw 'ooo, roedd hi'n gyfiawn mynd mewn i Irac achos yr Iraciaid druan', ac yna dweud 'ffwco'r diawl 'ma, towlwch e i'r cwn'. Fi 'di cael hen ddigon â dy 'selective morality' di.

(Gol. Sai'n awgrymu bod CYI yn ymwneud â therfysgaeth, jyst yn dangos y ffordd y mae'n cyfreithiau newydd yn erbyn 'terfysgwyr' yn lladd ar ein hawliau i driniaeth deg gan yr awdurdodau, ac yn cyfrif unrhyw weithred yn erbyn yr awdurdodau fel terfysgaeth.)
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Dielw » Gwe 28 Mai 2004 8:55 am

Ond paid a just cymryd ei fod ar fudd daliadau
Nath fo ddeud ar y news neithiwr. Ydi'r BBC yn cyfri fatha gwasg asgell dde hefyd erbyn hyn? :winc:

Deud ydw i os fasa arweinydd y BNP neu rywun jyst mor eithafol yn pregethu casineb yng nghanol Llundain, sa'r heddlu wedi ei arestio blynyddoedd yn ôl, neu sa fo di cael ei ladd.

Ti'n byw mewn breuddwyd eideolegol ma gen i ofn. Dim ond yn ddiweddar ma'r ieithoedd mwslemaidd di creu geiriau ar gyfer "democratiaeth" a "cydraddoldeb", felly dwi ddim gyda dy ffydd di yn anffodus.
One day this chalk outline will circle this city

Survival... Recovery... Prevention la la la
Rhithffurf defnyddiwr
Dielw
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 960
Ymunwyd: Iau 30 Hyd 2003 4:08 pm
Lleoliad: heheheee... urgh

Postiogan Dielw » Gwe 28 Mai 2004 8:59 am

GDG a ddywedodd:Fi 'di cael hen ddigon â dy 'selective morality' di.

:lol:

Ti'n cymharu Abu Hamza i'r Iraci cyffredin?! Dwyt ti ddim yn gweld bod y dyn ma yn beryg, yn cefnogi terfysgaeth yn erbyn gwlad ni, yn byw ar gefn y wladwriaeth....ayb.

Ar y llaw arall, dydi'r Iraci cyffredin yn dim o'r pethau hyn.

Be sy'n selective? :rolio:
One day this chalk outline will circle this city

Survival... Recovery... Prevention la la la
Rhithffurf defnyddiwr
Dielw
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 960
Ymunwyd: Iau 30 Hyd 2003 4:08 pm
Lleoliad: heheheee... urgh

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 28 Mai 2004 9:08 am

Rwyt ti, gyfaill, yn dweud y caiff yr Americanwyr wneud 'be ffwc ma nhw isho i'r twat gwirion'. Rwyt ti felly yn dweud fod hawliau dynol Iraciaid yn bwysicach na hawliau dynol y dyn yma. Dyna yw dy 'selective morality' di. Alli di ddim dweud 'Achubwch yr Iraciaid, rhowch stop ar yr arteithio' ar yr un llaw, tra ar y llaw arall yn dweud 'Croeso i America arteithio a lladd pwy fynnan nhw'.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Nesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron