Zapatro-dewrder

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Garnet Bowen » Gwe 28 Mai 2004 3:25 pm

Sioni Size a ddywedodd:Yndi, 6000 yn ormod, Garnet, ond siawns, siawns, fod y rhesymeg o gyfiawnhau'r siambls llwyr yma a'r holl bobl sydd wedi dioddef oherwydd y ffigwr hwnnw dros 11 mlynedd, yn idiotic. Yn ol Garnet, mae Saddam yn waeth nac America, sydd wedi achosi oddeutu miliwn a hanner o farwolaethau dros yr un cyfnod gyda'r sancsiynau a'r rhyfela yn Irac yn unig, heb son am eu hanturiethau eraill dros y byd i gyd yn grwn.


Mi oedd Saddam yn cynnig dau ddewis i'r byd. Gadael iddo fel arweinydd Irac, gan adael iddo gario ymlaen i lofruddio (peidied ac anghofio'r 250,000+ a oedd wedi eu lladd ganddo yn y 30 mlynedd blaenorol), neu penderfynnu mynd i ryfel a fyddai'n lladd, ac yn brifio, am gyfnod byr, er mwyn sicrhau sefydlogrwydd yn y tymor hir.

Sioni Size a ddywedodd:Aha - mae Cosofo ddigon doji, ond dwi di cael llond bol ar fwy nac un yma yn rhoi Somalia fel enghraifft o ddaioni America. Felly dwi'n dechrau edefyn arall am hwnnw.


Gai sbec ar yr edefyn arall mewn eiliad ("Oedd na olew yn Somalia etc."), ond gai ofyn, ym mha ffordd oedd Cosofo yn "doji"?

Sioni Size a ddywedodd:
Ia, efallai dylid stopio meddwl mor 'orientalist' am y pethau yma. 6000 o bobl = bomiwch Saddam!


Eto, mae grym dy feddwl di'n frawychus.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Cwlcymro » Gwe 28 Mai 2004 3:46 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:Mi oedd Saddam yn cynnig dau ddewis i'r byd. Gadael iddo fel arweinydd Irac, gan adael iddo gario ymlaen i lofruddio (peidied ac anghofio'r 250,000+ a oedd wedi eu lladd ganddo yn y 30 mlynedd blaenorol), neu penderfynnu mynd i ryfel a fyddai'n lladd, ac yn brifio, am gyfnod byr, er mwyn sicrhau sefydlogrwydd yn y tymor hir.


Unwaith eto Garnet mi fyswn i wrth fy modd yn fod berchen ar dy ffydd di yn nyfodol Irac.
Lladd a brifo am gyfnod byr A dyfodol sefydlog, sa well i ni ddisgwyl cyn gwneud sweeping statements fela ella?
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Garnet Bowen » Gwe 28 Mai 2004 3:51 pm

Cwlcymro a ddywedodd:Unwaith eto Garnet mi fyswn i wrth fy modd yn fod berchen ar dy ffydd di yn nyfodol Irac.
Lladd a brifo am gyfnod byr A dyfodol sefydlog, sa well i ni ddisgwyl cyn gwneud sweeping statements fela ella?


Dwi'n cyfaddae fod 'na ddos o ffydd yn perthyn i'n nadl i, ond nid ffydd dall. Mae 'na gysylltiad pendant rhwng sefydlu cyfundrefn ddemocrataidd a pethau fel heddwch, twf economaidd, parch at hawliau dynol etc. Dwi'n selio fy ffydd ar yr hyn dwi'n ei weld o'n nghwmpas yn y byd heddiw.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Cwlcymro » Gwe 28 Mai 2004 3:53 pm

Ond eto da ni'n gweld Afganhistan, lle ddigwyddodd union rhyn peth (cael gwared o lywodraeth anemocrataidd, heb feddwl be i wneud wedyn) yn disgyn yn nol yn ddarna.
Ac o olwg y misoedd diwetha ma Irac yn mynd i fod yn hyd yn oed annoddach i'w droi'n ddemocrataidd.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Sioni Size » Gwe 28 Mai 2004 4:00 pm

Cwlcymro a ddywedodd:
Garnet Bowen a ddywedodd:Mi oedd Saddam yn cynnig dau ddewis i'r byd. Gadael iddo fel arweinydd Irac, gan adael iddo gario ymlaen i lofruddio (peidied ac anghofio'r 250,000+ a oedd wedi eu lladd ganddo yn y 30 mlynedd blaenorol), neu penderfynnu mynd i ryfel a fyddai'n lladd, ac yn brifio, am gyfnod byr, er mwyn sicrhau sefydlogrwydd yn y tymor hir.


Unwaith eto Garnet mi fyswn i wrth fy modd yn fod berchen ar dy ffydd di yn nyfodol Irac.
Lladd a brifo am gyfnod byr A dyfodol sefydlog, sa well i ni ddisgwyl cyn gwneud sweeping statements fela ella?


"Does na neb yn medru darogan y dyfodol". Un o hoff linellau Garnet. Sy'n briodol i bob dim heblaw fod Irac goleuedig a llewyrchus ar ei ffordd yn fuan kidz - god bless america.
Yn wriglo bob ffordd dwyt Garnet. Newydd esbonio pa mor amherthnasol a throedig yw cyfiawnhau ymosod ar Irac oherwydd "250,000" cyn 1993. Yn amlwg ddim digon da.
America wedi lladd 70,000+ mewn blwyddyn o ryfel. Saddam wedi lladd "6000" yn ol yr americans mewn 10 mlynedd +. $18 biliwn wedi ei gymryd o olew Irac, $9biliwn yn eistedd yn yr american federal reserve, $9 biliwn wedi ei roi i gwmniau tew fel contractau. O Ryfel Gyfiawn, O Ryfel Wych.
Mae America'n rhedeg allan o fwledi, blant. 2 biliwn bwled mae nhw wedi danio y flwyddyn hon. Mae cwmniau rwan yn cael cytundebau tew i wneud mwy o fwledi. Lot mwy o fwledi.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Garnet Bowen » Gwe 28 Mai 2004 4:02 pm

Cwlcymro a ddywedodd:Ond eto da ni'n gweld Afganhistan, lle ddigwyddodd union rhyn peth (cael gwared o lywodraeth anemocrataidd, heb feddwl be i wneud wedyn) yn disgyn yn nol yn ddarna.
Ac o olwg y misoedd diwetha ma Irac yn mynd i fod yn hyd yn oed annoddach i'w droi'n ddemocrataidd.


Mae 'na wahaniaeth sylfaenol rhwng Irac ac Affganistan. Er fod Irac wedi ei rhedeg gan unben ers 40 mlynedd, o leiaf mae hi'n wladwriaeth fodern, efo sefydliadau cenedlaethol cyfoes. Tydi Affganistan erioed wedi bod yn un wlad yn yr ystyr modern, ac mae problemau Affganistan yn rhai llawer iawn anoddach i ddelio a nhw na phroblemau Irac.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Cwlcymro » Sul 30 Mai 2004 12:46 pm

Felly ti'n optimistaidd am ddyfodol Irac achos fod
sefydlu cyfundrefn ddemocrataidd a pethau
yn creu
heddwch, twf economaidd, parch at hawliau dynol etc.

ond eto y gymhariaeth ora sydd ganddo ni am hynny, sef y tro dwytha iddo fo ddigwydd, dim ond dwy flynadd yn ol, ydi Afganhistan.

Ond os nad ydi Afganhistan yn gymharioaeth ddigon da i chdi, pa wlad wti yn ei weld fel esiampl o be ddigwyddith pan mae llywodraeth milain an-nemocrataidd yn cael ei ddisodli gan fyddin o dramor sydd wedyn yn trio fforsio democratiaeth sy'n ei siwtio nhw?
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Mwnci Banana Brown » Llun 31 Mai 2004 12:06 pm

Wedd ishe Saddam Hussain cal cic yn tin ddo!! :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
Mwnci Banana Brown
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1700
Ymunwyd: Sad 17 Ebr 2004 4:45 pm

Postiogan Sioni Size » Llun 31 Mai 2004 2:39 pm

http://www.guardian.co.uk/Columnists/Co ... 68,00.html

Dyma erthygl arbennig gan Gary Younge sy'n esbonio'n drylwyr cymaint o faw ceffyl yw'r honiadau am "ddemocratiaeth" yn dod i Irac.
Ar ben hynny mae'n dehongli Tony Blair a'i nonsens celwyddog yn berffaith, ac yn nodi cymaint o idiots yw'r rhai sy'n cefnogi'r holl oresgyn yma. Y rhai sy'n smalio'u bod yn poeni am Iraciaid.

Mae'n dinistrio unrhyw rybish am drosglwyddo pwer i bobl Irac sy'n dod iddyn nhw ar Fehefin 30. Fel dywed Blair a chlwyddwyr eraill.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan ffwrchamotobeics » Iau 29 Gor 2004 2:18 am

Zaparto=Dewrder

Nid mater o gelu a dianc sy' wedi'i brofi, 'mond prawf o amgyffred y byd o'r anniwirdeb gwleidyddol anghyfreithlon a fu/sydd yn Irac. Dim arall. Bechod na nath Blair/lleill . Cont

hEDDWCH

..dadler... :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
ffwrchamotobeics
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 912
Ymunwyd: Mer 27 Awst 2003 9:06 am
Lleoliad: llanbibo

Nôl

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron