YMPRYD GENEDLAETHOL DROS HEDDWCH - DYDD LLUN MAWRTH 24
Bellach, mae Bush a Blair wedi cychwyn ar eu cyflafan yn Irac. OND, nid oes unrhyw gyfiawnhad dros gymryd cam o’r fath a fydd yn arwain at ladd miloedd o bobl ddiniwed. Rhaid i ni godi llais dros heddwch!
Un ffordd syml o wneud hynny yw trwy ymuno mewn ympryd 24 awr a gynhelir ddydd Llun yma, Mawrth 24.
Trwy ymrwymo i fynd heb fwyd o 8.30am ar fore dydd Llun hyd at 8.30am y bore canlynol, gallwn bwysleisio, mewn modd tawel a di-drais, ddifrifoldeb ein gwrthwynebiad i’r rhyfel anghyfiawn hwn. Ar yr un pryd, bydd yn fodd i ni uniaethu gyda phobl Irac wrth iddynt wynebu cyfnod argyfyngus.
Os ydych yn dymuno cymryd rhan, rhowch wybod trwy ddanfon ebost i hedd@cymdeithas.com neu trwy ffonio (01970) 624501. Bydd eich enw yn cael ei ychwanegu at restr genedlaethol ac yn cael ei ddanfon ymlaen i Tony Blair yn 10 Downing Street ac hefyd at Rhodri Morgan yn y Cynulliad Cenedlaethol. Wrth gysylltu, dylech nodi eich enw llawn a'ch cyfeiriad.
Yn ogystal, os ydych yn cymryd rhan, dylech ddanfon neges at eich A.S. ac A.C. lleol, gan nodi eich bod wedi ymprydio ac eich bod yn disgwyl iddynt hwythau hefyd i godi llais dros heddwch.
Noder - trwy ymuno yn yr ympryd, rydych yn ymrwymo i beidio bwyta unrhyw fwyd nac yfed diodydd melys am gyfnod o 24 awr. Byddwch ond yn medru yfed dwr.