Cwlcymro :
Plaid Cymru oedd y blaid gynta yn Brydain i ddweud ei bod nhw'n erbyn rhyfal Irac, mi wnaetho nhw dalu yn hallt am hynnu yn etholiada'r Cynulliad (ddoth reit ar "ddiwadd" y rhyfal)
Newt
Felly wir. Dim oll i'w wned ac arweinyddiaeth anhygoel IWJ?
Ac o ran diddordeb, os yw mwyafrif pobl Prydain (a Cymru) wedi bod yn gwrthwynebu y rhyfel pam fod PC wedi dioddef am wneud yr un peth?
Diffyg meddwl fan hyn Mr Cwl?
Dydy Plaid Cymru heb ddioddef am wrthwynebu'r rhyfel yn Irac, nid dyna oedd y rheswm pan gollodd Plaid Cymru seddi yn etholiadau'r Cynulliad. Y rheswm pam gollodd Plaid Cymru eu seddi oedd gan fod Llafur wedi ymgyrchu'n hynod galed yn yr etholaethau hynny ers y diwrnod gollodd nhw y seddi. Pob chwarae teg iddynt nhw am hynny, tra fod Plaid wedi methu i gadw'r momentwm oherwydd ei bod hi'n blaid cymaint llai a tlotach.
Mae Plaid wedi bod yn hollol gadarn eu barn am y rhyfel yn Irac, a wedi cael eu canmol gan rannau mawr o'r cyhoedd am hynny, maen amlwg bod pobl yn dal i bryderu am y rhyfel. Digon teg gwneud dy 'Plaid bashing' arferol Newt, ond gwna hynny mewn modd synhwyrol yn lle trio cwyno am bopeth am y Blaid.