Plaid a'r Milwyr

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Plaid a'r Milwyr

Postiogan Cwlcymro » Maw 08 Meh 2004 1:55 pm

Plaid Cymru wedi dweud ei bod nhw eisiau i filwyr Prydain a America adael Irac a gwneud lle i filwyr o wledydd Mwslemaidd.

http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_3780000/newsid_3782500/3782535.stm

BBC a ddywedodd:Ond mae Llafur wedi cyhuddo Plaid Cymru o ddefnyddio'r milwyr i "chwarae gêm wleidyddol" cyn etholiad Ewrop a'r etholiadau lleol ddydd Iau


Sut uffar fedrith Llafur alw Plaid yn 'opportunists' am hyn? Plaid Cymru oedd y blaid gynta yn Brydain i ddweud ei bod nhw'n erbyn rhyfal Irac, mi wnaetho nhw dalu yn hallt am hynnu yn etholiada'r Cynulliad (ddoth reit ar "ddiwadd" y rhyfal)
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Re: Plaid a'r Milwyr

Postiogan Chwadan » Maw 08 Meh 2004 4:15 pm

Cwlcymro a ddywedodd:Sut uffar fedrith Llafur alw Plaid yn 'opportunists' am hyn? Plaid Cymru oedd y blaid gynta yn Brydain i ddweud ei bod nhw'n erbyn rhyfal Irac, mi wnaetho nhw dalu yn hallt am hynnu yn etholiada'r Cynulliad (ddoth reit ar "ddiwadd" y rhyfal)

Hehe, ma nhw'n gneud hyn achos dyna'r unig beth fedran nhw gyhuddo PC o'i neud yn anghywir yn y sefyllfa yma. Ma nhw'n gwbod yn iawn fod PC di bod yn erbyn y rhyfel o'r dechra ond gyda'r etholiada mor agos a nifer o bobl gyffredin yn awyddus i dynnu'r milwyr o Irac, does gan Llafur ddim amddiffyniad o gwbl blaw cyhuddo PC o chwara'n fudur :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Re: Plaid a'r Milwyr

Postiogan Newt Gingrich » Maw 08 Meh 2004 10:58 pm

Cwlcymro a ddywedodd:Plaid Cymru oedd y blaid gynta yn Brydain i ddweud ei bod nhw'n erbyn rhyfal Irac, mi wnaetho nhw dalu yn hallt am hynnu yn etholiada'r Cynulliad (ddoth reit ar "ddiwadd" y rhyfal)


Felly wir. Dim oll i'w wned ac arweinyddiaeth anhygoel IWJ?

Ac o ran diddordeb, os yw mwyafrif pobl Prydain (a Cymru) wedi bod yn gwrthwynebu y rhyfel pam fod PC wedi dioddef am wneud yr un peth?

Diffyg meddwl fan hyn Mr Cwl?
Rhithffurf defnyddiwr
Newt Gingrich
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 384
Ymunwyd: Llun 20 Hyd 2003 9:24 pm
Lleoliad: Pell, pell i ffwrdd

Postiogan S.W. » Mer 09 Meh 2004 10:33 am

Cwlcymro :

Plaid Cymru oedd y blaid gynta yn Brydain i ddweud ei bod nhw'n erbyn rhyfal Irac, mi wnaetho nhw dalu yn hallt am hynnu yn etholiada'r Cynulliad (ddoth reit ar "ddiwadd" y rhyfal)

Newt

Felly wir. Dim oll i'w wned ac arweinyddiaeth anhygoel IWJ?

Ac o ran diddordeb, os yw mwyafrif pobl Prydain (a Cymru) wedi bod yn gwrthwynebu y rhyfel pam fod PC wedi dioddef am wneud yr un peth?

Diffyg meddwl fan hyn Mr Cwl?


Dydy Plaid Cymru heb ddioddef am wrthwynebu'r rhyfel yn Irac, nid dyna oedd y rheswm pan gollodd Plaid Cymru seddi yn etholiadau'r Cynulliad. Y rheswm pam gollodd Plaid Cymru eu seddi oedd gan fod Llafur wedi ymgyrchu'n hynod galed yn yr etholaethau hynny ers y diwrnod gollodd nhw y seddi. Pob chwarae teg iddynt nhw am hynny, tra fod Plaid wedi methu i gadw'r momentwm oherwydd ei bod hi'n blaid cymaint llai a tlotach.

Mae Plaid wedi bod yn hollol gadarn eu barn am y rhyfel yn Irac, a wedi cael eu canmol gan rannau mawr o'r cyhoedd am hynny, maen amlwg bod pobl yn dal i bryderu am y rhyfel. Digon teg gwneud dy 'Plaid bashing' arferol Newt, ond gwna hynny mewn modd synhwyrol yn lle trio cwyno am bopeth am y Blaid.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Cwlcymro » Gwe 11 Meh 2004 11:19 am

Y rheswm am wneud mor wael oedd fel ddudodd S.W.

Ond os fysa yr etholiaf flwyddyn yn gynt neu flwyddyn yn hwyrach mi fysa petha'n dra wahanol. Mi ddoth yr etholiad ar yr unig adeg yn ystod y rhyfel pan nad oedd na gwyno. Mi oed y rhyfel wedi mynd yn lot gwell (ar y pryd) na oedd neb wedi ei ddisgwyl, a mi oedd hi'n edrych fatha bod yr ochr gwrth-ryfal wedi bod yn anghywir.
Erbyn hyn da ni'n gwybod yn well!
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon


Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron