Gan fod cyfraniad Newt fel arfer yn bersonol, ac yn ei gwneud yn amlwg pwy ydw i, efallai y byddi cystal a rhoi cyfle i mi ymateb. 'Dwi'n meddwl bod hynny yn deg. Gadawaf yr edefyn wedyn, a chaiff y sawl sydd am wneud hynny wneud defnydd priodol ohoni.
Newt a ddywedodd:GT bach, pam wnaethpwyd y sylw uchod doedd gan Newt ddim syniad o dy berthynas efo'r Larseniaid.
Mae dy gyfraniad sydd yn cychwyn 'Gwranda gwd boi' wedi ei ddyddio Sul Mai 16, 2004 11:52 pm
Anfonaist neges bersonol sarhaus (ond digon digri chware teg) ataf ar
Mer Ebr 07, 2004 11:52 pm.. Roedd y neges hon yn ei gwneud yn gwbl glir dy fod yn gwybod am fy mherthynas efo'r plant rwyt mor hoff o ffraeo efo nhw. Rwyt wedi ei gwneud yn gwbl glir dy fod yn gwybod pwy ydw i ar sawl achlysur ers hynny - a gwneud hynny yn glir i unrhyw un fyddai a'r gwybodaeth lleiaf amdanof. Nid oes angen gradd mewn mecaneg cwantwm i ddirnad bod Sul Mai 16, 2004 11:52 pm
ar ol Mer Ebr 07, 2004 11:52 pm..
Mae dau bosibilrwydd yma. Efallai bod dy gof yn dechrau cilio efo'r blynyddoedd (sydd yn ddigon naturiol am wn i), neu dy fod, a defnyddio'r term gwleidyddol cwrtais, yn bod yn gynnil efo'r gwirionedd.
Newt a ddywedodd:"I've done my 37 hours and that is it". Dyna sut mae pethau gyda ti?
Mae'n peri mymryn o syndod i mi bod rhywun efo'r diddordeb ysol sydd gennyt yn fy mywyd personol, ddim yn gwybod fy mod yn fy man gwaith o 8 tan 5.
Mae hyn oll yn 'spooky' braidd a dweud y gwir. Nid ti oedd y person yna oedd yn stelcian o gwmpas yr ardd gefn y noson o'r blaen. naci?