gan Martin Llewelyn Williams » Llun 14 Meh 2004 1:59 pm
Aled-dwi'n meddwl fod Rhagair Geiriadur yr Academi yn cynnwys sylwadau craff a threiddgar. Dim lol ramantaidd ynglyn a'r iaith Gymraeg-dim malu awyr-y gwir moel. Mae'n realistaidd iawn hefyd!
Efallai mai prif neges y Rhagair yw hyn: Ni all unrhyw iaith yn y byd modern anwybyddu'r ffaith mai Saesneg yw iaith mwya pwerus y byd (diolch i nifer o ffactorau megis yr hen Ymerodraeth Brydeinig, Yr Unol Daliaethau fel gwlad cyfoethoca a mwya dylanwadol y byd a.y.y.b.)
Mae yna wahaniaeth bwysig rhwng defnyddio geiriau Saesneg tra'n cyfathrebu yn y Gymraeg mewn ffordd ddiddorol a chlyfar ac yna defnyddio termau Saesneg mewn ffordd ddiflas a diog...Gor-ddweud?Na.
Mae Geiriadur yr Academi yn un cam positif yn y cyfeiriad iawn i alluogi ni i gyd i sylweddoli gwir gyfoeth yr heniaith. Wrth gwrs, byddai lawnsio Y Byd + cael sianel deledu analog Gymraeg go iawn(yn hytrach na slot ar Channel 4) yn gamau breision eraill...
Mae'r Rhagair yn cydnabod y ffaith fod y diwylliant Cymraeg yn uffernnol o fregus-ond bod yna obaith. Cyfoeth y Gymraeg-ehangu geirfa bersonnol...Dyna fy nehongliad i o'r Rhagair!