Yn bersonol byddain gas gen i weld Esperanto'n dechrau eto. Ges i tafodaeth difyrish tra'n feddwl gyda ffrind yn ddiweddar a roedd o o'r farn byddai'n well ganddo weld Esperanto'n cael ei ddefnyddio'n swyddogol fel iaith yr Undeb Ewropeaidd nag Saesneg. Dwin bersonol yn meddwl byddai Esperanto yr un mor ddrwg a Seasneg, Ffrangeg neu unrhyw iaith arall yn cael mwy o bwysigrwydd nag ieithoedd eraill - byddain well gen i just dalu i gael popeth wedi eu cyfieuthu yn syth.
Yn yr UDA go brin fod gan Sbaeneg statws cydradd i'r Saesneg ar hyn o bryd, ond yn amlwg tra fydd y niferoedd yn cynyddu bydd mwy a mwy o bwysau i'r iaith gael mwy o statws. Mewn ardaloedd o'r 'deep south' does dim rheswm dros beidio cael Sbaeneg fel iaith Swyddogol o feddwl bod rhannau o'r wlad i fod yn Mexico beth bynag.