Calfiniaeth v Wesleiaeth

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Calfiniaeth v Wesleiaeth

Postiogan Josgin » Llun 11 Ion 2010 10:57 pm

Dwi di mynychu capel Presbyteraidd 'rioed , a mae un ochr o fy nheulu yn llawn Presbyteriaid o arddeliad. Mae'r ochr arall yn orlawn o Wesleiaid ffyrnig, gyda hanes am un yn hen-hen-daid yn fflamio Calfiniaeth ymhob pregeth, bron . Eto, cyfeirir at y ddwy garfan fel 'Methodistiaid ' ac arferai'r hen lyfr emynau fod ar y cyd .
Un tro,tra'n gweithio oddi cartref, fe es mewn i gapel Wesla am 6 mis heb sylweddoli'r gwahaniaeth .

Beth oedd y gwahaniaeth diwinyddol rhyngddynt ?

Pam ar wyneb ddaear fod yna ddwy enwad arwahan o hyd ?

A oedd y Wesleaid yn fwy Seisnig na'r Presbyteriaid, neu argraff fy hun o fy nheulu ydi hynny ?
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: Calfiniaeth v Wesleiaeth

Postiogan sian » Llun 11 Ion 2010 11:17 pm

Ar ei symlaf - dw i'n meddwl bod y Calfiniaid yn credu, unwaith roeddet ti wedi dod yn Gristion, roeddet ti'n Gristion am byth, beth bynnag fyddai'n digwydd i ti wedyn ond bod y Wesleaid yn credu dy fod ti'n gallu "syrthio oddi wrth ras".

Falle daw'r Hen Rech Flin i'n goleuo ni!
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Calfiniaeth v Wesleiaeth

Postiogan dawncyfarwydd » Maw 12 Ion 2010 1:09 am

Dyma geisio ateb y cwestiwn diwinyddol yn fyr...

Calfiniaeth in a nutshell: Mae dyn wedi ei effeithio gan bechod nes na all gael perthynas â Duw o'i ewyllys na'i weithredoedd ei hun; byddai hynny'n golygu bod pawb yn mynd i uffern. Ond mae Duw yn ethol rhai pobl i fod yn Gristnogion a mynd i'r nefoedd - ac yn rhoi troedigaeth iddyn nhw na ellir ei gwrthod. Mae Duw wedi anfon Iesu Grist i'r byd i farw er mwyn talu Iawn am eu pechodau.

Mae Wesleaeth (neu Arminiaeth) yn credu bod Iesu wedi marw dros bawb, ac er bod Duw yn ei gwneud yn bosib i bawb gredu, mae hi fyny i'r unigolyn benderfynu os ydi o am gael ei achub neu beidio. Y rhai sy'n dewis credu ydi'r rhai etholedig (dwi'n cymryd bod hyn yn bosib oherwydd bod Duw wedi gwybod erioed pwy fyddai'n defnyddio'i ewyllys rydd i gredu). Mae Wesleyaid yn credu bod modd syrthio oddi wrth ras ac yn rhoi mwy o bwyslais ar weithredoedd.

Mae hon yn erthygl sy'n gwneud job reit dda o egluro'r gwahaniaethau.

(Rhag ofn bod ots gan rywun...fy hun, dwi'n cytuno efo Lorraine Boettner: "there is no consistent stopping place between Calvinism and atheism." Ond yn wahanol i Boettner mae gen i ofn mai yn yr ail stopping place ydw i!)
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Re: Calfiniaeth v Wesleiaeth

Postiogan Hazel » Maw 12 Ion 2010 11:39 am

Am braid mwy o'r hanes, gwêl "Lloffion Llyn" gan W. Arfon Roberts, tudalen 73 - 78.
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Re: Calfiniaeth v Wesleiaeth

Postiogan Rhys Llwyd » Maw 12 Ion 2010 11:58 pm

Ychydig o wers hanes i chi.

Methodistiaid oedd criw o Gristnogion gafodd eu galw'n Fethodistiaid oherwydd eu dull methodolegol o ymarfer eu crefydd ac yna magu pobl yn y ffydd. O fewn Methodistiaid y mae dau draddodiad sef y Methodistiaid Calfinaidd a Methodistiaid Wesleaidd. Newidiodd y Methodistiaid Calfinaidd eu henw i Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn 1920 (dwi'n meddwl) oherwydd erbyn hynny doedd y mwyafrif o'r gweinidogion ddim actually yn Galfinwyr. Ac felly o ganlyniad fe ddechreuwyd galw'r Methodistiaid Wesleaidd jest yn Yr Eglwys Fethodistaidd. Mae Presbyteriaeth yn cyfeirio at drefn eglwys mwy na safbwynt diwinyddol, presbyteriaeth ydy trefn eglwysig ganolog lle gwelir yr eglwys fel endyd ar lefel genedlaethol gyda phob eglwys unigol yn ganghenau. Mae hyn i'r gwrthwyneb i'r Annibynwyr a'r Bedyddwyr sy'n gweld yr Eglwys yn lleol.

O ran y gwahaniaeth rhwng Calfiniaeth a Wesleaeth (Arminiaeth) - y mae'r cyfraniadau blaenorol yn crynhoi y cyfan yn weddol dda. Ond carw ni ychwanegu fod y gwahaniaeth, yn ei hanfod, yn ymwneud a'rr tensiwn rhwng rôl dyn a rôl Duw. Fe rydd y Wesleaid lawer mwy o le i rôl dyn yn ei achubiaeth - ond fe fyn y Calfinydd mae Duw yw awdur y cyfan a fod dim i ddyn wneud ond ymateb - ac mae Duw sydd hyn yn oed yn peri i ddyn ymateb.

Wrth gwrs dydy Calfiniaeth nag Wesleaeth i'w weld yn y Beibl ac mae'r ffaith fod y ddwy garfan yn medru estyn a chyfeirio at lond dwrn o adnodau i gyfiawnhau eu safbwynt yn dangos fod yr ateb i'w chanfod yn y dynamism o ras Duw atom ni a'r her wedyn i ni ymateb iddo. O orfod dewis dwi'n cydymdeimlo fwy a'r safbwynt Calfinaidd oherwydd ei fod yn rhoi Duw yn hytrach dyn yn y canol.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Calfiniaeth v Wesleiaeth

Postiogan Rhys Llwyd » Mer 13 Ion 2010 12:29 am

Josgin a ddywedodd:A oedd y Wesleaid yn fwy Seisnig na'r Presbyteriaid, neu argraff fy hun o fy nheulu ydi hynny ?


Dwi ddim yn siwr os ydy hi'n deg i ddweud fod y Wesleaid yn fwy Seisnig ond mae yna sawl ffactor fyddai'n peri i bobl feddwl hyn:

- Yn Lloegr y pennaf ddylanwadau yn ystod y Diwygiad Methodistaidd (1700-1800 ish) oedd y brodyr Wesleaidd, ond yng Nghymru ac yn yr Alban roedd y Calfinwyr yn fwy blaenllaw gyda'r gwaith ac yn naturiol felly y dystiolaeth Galfinaidd oedd gryfaf ar y pryd yng Nghymru ac mae'r dylanwad yna yn parhau heddiw. Roedd y Sais George Whitfield yn Galfinydd dylanwadol yn Lloegr, ond yn Lloegr ei hun cawsai ddim gymaint o ddylanwad a gafodd y Wesleaid. Mae gan Martyn Lloyd-Jones erthygl wych yn y llyfr Llais y Doctor sy'n trafod y gwahaniaeth rhwng Arminiaeth Lloegr a Chalfiniaeth Cymru ac mae e'n esbonio sut mae'r gwahaniaeth wedi effeithio ar seici y ddwy genedl byth ers hynny.

- Yng Nghymru, yn hanesyddol, roedd yr Annibynnwyr a'r Bedyddwyr hefyd yn Galfinaidd - felly roedd y tri prif enwad (Methodistiaid Calfinaidd, Annibyns a Bedyddwyr) yn rhwyfo'r un ffordd oedd yn gadael y Wesleaid ar y tu allan fel petae. Nid fod hynny yn eu gwneud yn ang-Nghymreig, ond yn naturiol roedd e'n gwneud iddyn nhw deimlo'n left out yng Nghymru ac yn gorfodi eu harweinwyr i edrych dros y ffin i Lloegr am gefnogaeth ac ysbrydoliaeth. Roedd Calfinwyr fel Hywel Harries, Williams Williams Pantycelyn a Daniel Rowlands hefyd yn teithio'n aml dros y ffin i gyfarfod a mwynhau cymdeithas gyda pobl fel Whitfield OND fe ddatblygodd y Calfiniaid Cymreig draddodiad Calfinaidd oedd yn gynhenid Gymreig.

- Hefyd, erbyn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg roedd Diwinwyr yn cyffelybu dylanwad weslaidd=dylanwad seisnig. Wesleaeth=Seisnigeiddio. Unwaith eto doedd hyn ddim yn hollol wir, ond eto roedd y canfyddiad yma yn cyfrannu i bobl feddwl fod y Wesleaid yn fwy seisnig.

- Fe welsai llawer o Gymru fod Arminiaeth/Wesleaeth yn gam cyntaf tuag at Undodiaeth ac roedd Undodiaeth yn agos iawn i Secwleriaeth pur. Ac felly roedd unrhywbeth odd yn symyd y Cymry tuag at secwleriaeth ac i ffwrdd o Grist yn amlwg yn cael ei weld fel dylanwad anffodus i Gymru.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Calfiniaeth v Wesleiaeth

Postiogan Cilan » Mer 13 Ion 2010 4:26 pm

Yng Nghymru, yn hanesyddol, roedd yr Annibynnwyr a'r Bedyddwyr hefyd yn Galfinaidd - felly roedd y tri prif enwad (Methodistiaid Calfinaidd, Annibyns a Bedyddwyr) yn rhwyfo'r un ffordd oedd yn gadael y Wesleaid ar y tu allan fel petae.


Mae hyn i gyd yn ddiddorol iawn. I ba gyfeiriad mae enwadau heddiw'n rhwyfo? Beth am yr Eglwys Efengylaidd?
Cilan
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 20
Ymunwyd: Sul 03 Meh 2007 4:33 pm

Re: Calfiniaeth v Wesleiaeth

Postiogan sian » Mer 13 Ion 2010 5:22 pm

Dw i'n meddwl, yn Lloegr, pan fydd pobl yn sôn am y Methodist Church, maen nhw'n golygu Wesleaid, ond pan rŷn ni'n sôn am y Methodistiaid, rŷn ni'n sôn am y Presbyteriaid (yr hen Fethodistiaid Calfinaidd).

Dw i'n meddwl mai'r Methodistiaid Calfinaidd oedd y "Methodistiaid creulon cas, Mynd i'r capel heb ddim gras"!

Mae'r Eglwys Fethodistaidd yng Nghymru (y Wesleaid) yn aelodau o The Methodist Church of Great Britain. Dyma dipyn am beth maen nhw'n gredu.

Dydi Eglwys Bresbyteraidd Cymru ddim yn rhan o gyfundrefn Brydeinig. Mae'n eglwys ddwyieithog. Dyma'r Gyffes Fer o'u Ffydd.

Mae'r Eglwys Fethodistaidd a'r Eglwys Bresbyteraidd yn rhan o gyfundrefnau mawr.

Gyda'r Annibynwyr a'r Bedyddwyr, y gynulleidfa leol yw'r 'eglwys' ond maen nhw'n rhan o undebau - sy'n eu gwarchod ond nid yn eu rheoli
Mae eglwysi'r Annibynwyr yn perthyn i Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac mae gan eglwysi'r Bedyddwyr drefniant tebyg gydag Undeb Bedyddwyr Cymru.

Mae eglwysi Efengylaidd Cymraeg fel rheol yn annibynnol dw i'n meddwl. Mae eu diwinyddiaeth nhw'n Galfinaidd - i gyd, am wn i! Dw i ddim yn siwr beth yw'r berthynas rhwng yr eglwysi efengylaidd a Mudiad Efengylaidd Cymru - "Cymdeithas o unigolion ac eglwysi yw Mudiad Efengylaidd Cymru (MEC), sy’n derbyn y Beibl fel Gair Duw, ac yn ei dderbyn fel sylfaen i holl faterion ffydd a bywyd; ac yn dibynnu’n llwyr ar yr Arglwydd Iesu Grist, ei fywyd, ei farwolaeth a’i atgyfodiad."

O ran diwinyddiaeth yr enwadau traddodiadol - mae'n dipyn o hotsh-potsh - gewch chi bobl sy'n credu'r stori am y creu yn Genesis fel y mae'n cael eu hadrodd ochr yn ochr â phobl sy'n credu mai dyn da oedd Iesu, nid Mab Duw.

Erbyn meddwl, mae'n dipyn o syndod bod y cyfundrefnau wedi dal gyda'i gilydd mor hir!
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Calfiniaeth v Wesleiaeth

Postiogan Dyfed » Mer 13 Ion 2010 5:40 pm

Dechreuodd y Wesleaid eu gwaith ffurfiol cyntaf yng Nghymru yn 1800 gan benderfynu plannu eglwysi newydd Wesleaidd yma. Am gyfnod roedd y MC yn ddigon bodlon ar hyn. Nid oedd fawr o wahaniaeth yn eu diwinyddiaeth - gan mai calfiniaeth digon cymhedrol oedd Calfiniaeth y MC. Ond pan aeth yr eglwysi Wesleaidd yn llwyddiannus - ac wrth i ambell eglwys MC golli aelodau iddynt, fe deimlodd rhai o arweinwyr y MC fod rhai rhoi stop ar y peth.

Un ymateb oedd yr ymateb diwinyddol - ac i rai fe arweiniodd hynny at arddel math 'uwch' o Galfiniaeth. Aeth yr uchel Galfiniaeth hon i bwyso mwy ar reswm dynol yn hytrach na'r Beibl - i'r graddau nes fod rhai'n credu mai dros yr etholedig YN UNIG y bu Iesu farw, a phetai wedi marw dros y byd i gyd ac y byddai rhai heb eu hachub, y byddai peth o waed Iesu wedi ei wastraffu. Od iawn a chwbl anysgrythurol.

Fel gwrthymateb i hyn daeth eraill o arweinwyr Calfinaidd i goleddu syniadau'r Sais Bedyddiedig, Andrew Fuller, a chymedroli Calfiniaeth i gryn raddau. Yn wir, daeth Calfiniaeth y mwyafrif mor gymedrol erbyn 1830au nes fod syniadau Arminaidd Charles Finney yn ddigon derbynniol. Cyhoedd ei gyfrol Lectures on Revival yn Gymraeg yn 1838 ac wrth i eglwysi ardeel ei syniadau cafwyd diwygiad eithaf grymus rhwng 1838-1842. Roedd yr Annibynnwyr yn arbennig hoff o'i syniadau - ond cafodd groeso bwrd trwy'r enwadau Calfinnaidd.

Yn ystod diwygiad 1858-60 roedd ei dechnegau diwygiadol yn rhan o fywyd cyffredin yr eglwysi. Felly hefyd yn Niwygiad Richard Owen (1880au). Prin y gellid dadlau mai Calfiniaeth oedd y brif ffrwd yng Nghymru erbyn Diwygiad 1904-05 a bod Evan Roberts - er ei fod yn aelod efo'r MC - yn bell o fod yn Galfinnaidd ei hun.

Erbyn heddiw prin iawn mi dybiwn yw'r Calfiniaid yn y pedwar enwad anghydffurfiol. Calfinaidd yw'r Mudiad Efengylaidd - er bod yna gymysgedd o rai isel ac uchel yn eu plith.

Yn aml, cyfeirir at Gymru fel gwlad lle roedd ei chrefydd yn Galfiniaeth ronc. Ond prin fod hynny'n gywir - yn sicr o ganol y 19 ganrif ymlaen.

Gwerth nodi hefyd fod gwledydd eraill wedi dilyn yr hyn llwybr diwinyddol yn yr un cyfnod a ninnau - gyda dylaanwad diwiyddiaeth New Haven, er engraifft, yn bwyisg yn y Merica. Ac wrth gwrs yn Lloegr yr oedd Fuller ei hun yn gweinidogaethu.
Dyfed
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 2
Ymunwyd: Llun 21 Ion 2008 6:54 pm
Lleoliad: Bangor, Gwynedd.

Re: Calfiniaeth v Wesleiaeth

Postiogan Josgin » Llun 18 Ion 2010 8:07 pm

Cawsom bregeth ardderchog ddoe gan ein gwenidog am wythnos undod Cristnogol - yr oedd yn nodi llwyddiannau ac, yn anffodus, y methiannau yn yr ardal .
Mae'n amlwg fod undod Cristnogol mor bell i ffwrdd , os nad yn bellach , nac yr oedd ddegawd yn ol, pan oedd gobeithion Cytun mor uchel. Enwyd un tref arbennig yng Nghymru lle mae pob gweithgaredd Cytun wedi mynd i'r gwellt, a synnodd fi braidd . Ai trefniadaeth yn unig a fu'r rhwystr , neu a oedd yna
anghydfod dyfnach ? (yr wyf yn gweld pam y buasai cymhathu'r Undodwyr yn broblem) . Beth yw eich barn ?
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Nesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Bing [Bot] a 0 gwestai

cron