Tafodiaith, bratiaith, neu ddiogi ?

Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol
Rheolau’r seiat
Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Tafodiaith, bratiaith, neu ddiogi ?

Postiogan Ben Alun » Maw 24 Mai 2011 1:40 am

Mae gan y Gymraeg eirfa hynod o gyfoethog. Mae'r geiriadur yn llawn geiriau diddorol a gwerth eu gwybod. Mae addasu geirfa i weddu i'r byd modern yn un peth, a mae defnyddio rhai Saesneg yn anochel , nid o achos ein bod yn byw ddrwys nesa iddyn nhw ond fel canlyniad o globaleiddio ond pam oes rhaid i bobol ddefnyddio gymaint o saesneg ? Wrth siarad yn naturiol mae un gair di-gymraeg yn codi'i ben salw o dro i dro wrth gwrs ond rwyf wedi clywed 'fi afo ' yn lle 'mae gyda fi' a 'tax payers money' yn lle 'arian trethdalwyr' sef brawddeg lawn. Mae hyn yn bychanu'r Gymraeg. Mae pob iaith yn datblygu, nid adwaenir y Gymraeg a siaredid yn yr oesoedd canol heddiw oni bai eich bod yn arbenigwr, ond mae brithio brawddegau Cymraeg gyda geirfa Saesneg ac hefyd newid cystrawen Gymraeg i weddu i batrymau ieithyddol Saesneg yn mynd i gael effaith dragwyddol a negyddol ar yr iaith, a fydd yn arwain at y diflaniad o eirfa a chystrawen wreiddiol. Siaradwch yn Gymraeg, nid yn wenglish, gogish neu beth bynnag mae rhai yn siarad sydd yn swnio'n debyg i'r Gymraeg.
Ben Alun
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 11
Ymunwyd: Maw 24 Mai 2011 1:25 am
Lleoliad: Abertyleri, Blaenau Gwent

Re: Tafodiaith, bratiaith, neu ddiogi ?

Postiogan Ramirez » Maw 24 Mai 2011 7:39 am

rwyf wedi clywed 'fi afo ' yn lle 'mae gyda fi'

Dwi'n siwr fod "mae gyda fi" yr un mor anghywir a "fi efo". "Mae gen i" ddylai o fod.

Mae mater y gystrawen yn un sydd yn fy mhigo i'n eithaf amal, ma'n rhaid deud. Dwi'n derbyn y dadleuon fod yr iaith yn datblygu a fod dylanwadau o'r Saesneg yn anochel, ond pam mae cystrawen y Saesneg yn cael ei ddefnyddio mewn brawddegau Cymraeg i'r fath raddau fel bod ystyr y frawddeg yn newid yn gyfangwbl, yna dwi'n credu ei fod yn broblem. Fel engrhaifft, ar fwy na un achlysur dwi wedi clywed rhywun yn dweud (neu ganu) "troi yn ol y cloc", sydd (os dwi'n iawn ynglyn a be dwi'n feddwl ydi ystyr y frawddeg i fod) yn dilyn cystrawen y frawddeg gyfatebol Saesneg, sef "turn back the clock". Ond be mae "troi yn ol y cloc" wir yn ei olygu yn y Gymraeg, wrth gwrs, ydi "turn according to the clock". Os am ddefnyddio'r idiom o gwbl, yna "troi y cloc yn ol" fysa fo, am wn i.
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Re: Tafodiaith, bratiaith, neu ddiogi ?

Postiogan Ben Alun » Maw 24 Mai 2011 2:05 pm

Mae strwythur y frawddeg 'mae gyda fi' yr un mor gywir ag ydy 'mae gen i'. Nid ydy'n anghywir newid trefn arferol y frawddeg Gymraeg, sef Berf+ Goddrych ond os ydych chi'n ei newid, fe geir treiglad meddal. E.e 'Mae ceffyl yma' (Berf+ Goddrych+Arddodiad) a 'Mae yma geffyl' ( Berf+ Arddodiad+Goddrych). Ceir nifer o enghreifftiau o hynny yn llenyddiaeth Gymraeg, hen a chyfoes. Yn yr iaith gyfoes, tueddir i ddefnyddio'r drefn draddodiadol sef 'berf+goddrych' o achos dylanwad y Saesneg ar yr iaith, h.y nid ydy 'mae yna gar' yn swnio'n naturiol o achos yn Saesneg, defnyddir yr un patrwm hefyd berf + goddrych ( There's a car).

Mae rhai pobl sydd yn darllen fy ymatebiadau yn meddwl fy mod i'n siarad Cymraeg fel hyn, ond dydw i ddim. Rwyf yn ysgrifennu fel hyn er mwyn i bawb yng Nghymru fy neall, pe bawn i'n ysgrifennu yn fy nhafodiaith leol fy hun sef y Wenhwyseg, sut alla i ddisgwyl i bobol o bob rhan o Gymru ddeall yr hyn yr ysgrifennais i ? Ffurf safonol yr iaith ydy hyn, mae'n digwydd ym mhob iaith fyw. Dyna pam mae'n pigo pan fydd pobl yn fy edliwio fi am ddefnyddio Cymraeg fel hyn, gan fy mod i'n fyfyriwr yn y brifysgol yn astudio Cymraeg mae'n gwylltio fi pan fydd pobl yn defnyddio iaith wael hyd yn oed pan fydd yna air Cymraeg da yn lle.

Os ydych chi'n ddifater ynglyn a'r defnydd cynyddol o eirfa Saesneg yn ein hiaith unigryw ni ond dyna'ch dewis chi, ond ble fydd y Gymraeg ymhen can mlynedd gydag agwedd fel 'na?
Ben Alun
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 11
Ymunwyd: Maw 24 Mai 2011 1:25 am
Lleoliad: Abertyleri, Blaenau Gwent

Re: Tafodiaith, bratiaith, neu ddiogi ?

Postiogan Hogyn o Rachub » Maw 24 Mai 2011 2:49 pm

Dwi byth wedi clywed "fi efo" ond wrth gwrs mae "dwi efo" yn gyffredin yn y Gogledd, ac "mae gyda fi" yn y De. Mae ysgolion Cymraeg yn y De yn dysgu'r plant i ddweud "mae gyda fi" ... dwi'n meddwl y gallwch chi ddadlau bod y ddwy enghraifft hynny'n dafodiaeth yn hytrach na bratiaith i raddau, erbyn hyn o leiaf ... os maen nhw'n enghreifftiau o fratiaith maen nhw'n hen enghreifftiau erbyn hyn sydd wedi'u defnyddio ers ambell genhedlaeth.

Un peth ro'n i'n rhyfeddu ei glywed ymhlith ysgolion y De oedd "fi'n cael gwaith cartref" i olygu I have homework. Mae cystrawen y Saesneg mor gryf yn y plant mae'n anodd iawn cael pobl i siarad Cymraeg cywir, ac yn dangos pa mor anodd ydi hi mewn gwirionedd i "greu" siaradwyr Cymraeg mewn cymunedau Saesneg. O ran Cymraeg cywir dwi'n golygu gyda chystrawen y Gymraeg. Buasai rhai yn dadlau bod Cymraeg sâl yn well na Saesneg ... ond dwi'n meddwl bod hynny'n fwy o siarad Saesneg drwy gyfrwng y Gymraeg na siarad Cymraeg.

Mae 'na un peth y mae'r rhan fwyaf o'r Cymry Cymraeg yn eithriadol, eithriadol o ddiog amdano pan mae'n dod i siarad Cymraeg sef dweud yr amser a dyddiadau (a rhai misoedd) yn Saesneg. Dwnim pam bod hyn yn digwydd, ond os ydi siaradwyr iaith yn dweud pethau mor sylfaenol â'r amser a'r dyddiad mewn iaith arall dydi pethau ddim yn argoeli'n dda iawn de.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Tafodiaith, bratiaith, neu ddiogi ?

Postiogan Ben Alun » Mer 25 Mai 2011 12:19 am

Hogyn o Rachub, rydych chi'n llygaid eich lle. Pan oeddwn i yn yr ysgol roedd yr athrawon yn ein dysgu ni 'mae...gyda ni' , a phan roeddwn yn astudio am fy TGAU Cymraeg dechreuon nhw siarad am y gwahaniaeth rhwng y gogledd a'r de, a helpwyd gan y ffaith yr oedd yna ddwy athrawes ac un athro, un a ddysgodd yr iaith , un ohonyn nhw o Ynys Mon ac un o'r de.
Mae'r ffrindie Cymraeg sy 'da fi naill ai'n ddysgwyr neu'n hen ddysgyblion o ysgol Gymraeg a mae'u Cymraeg nhw'n gallu bod yn wael weithiau. Maen nhw wastad yn defnyddio Saesneg wrth siarad am ddyddiadau , fel y dywedoch chi, a mae yna ambell i air Saesneg yn codi'i ben yn eu brawddegau nhw weithiau. Wedi dweud hynny, mae dweud y dyddiad yn Gymraeg yn gallu bod yn hynod o gymhleth i bobl sydd ddim yn deall nac yn defnyddio'r ffordd ugeiniol o gyfri. Er enghraifft, sut ydyn nhw'n mynd i allu dweud y dyddiad yn Gymraeg os nad ydynt yn gwybod beth yw'r unfed ar hugain mewn rhifau?
Fel rhywun sydd am ddod yn athro fy hun , rwy'n credu bod angen gwneud mwy i hyrwyddo'r defnydd o Gymraeg ymhlith disgyblion ysgolion Cymraeg y de, mae diffyg o ddefnydd yr iaith wedi iddynt fynd trw'r giat ysgol yn golygu bod nhw'n colli'r iaith wedi iddynt adael. Rwy'n gwybod hynny o brofiad, mae gyda fi gyfeillion a aeth i ysgol Gymraeg sydd bellach yn methu ynganu gair yn yr iaith. Serch hynny, mae'r defnydd o Gymraeg yn gwella , a galla i ddweud hynny trwy brofiad hefyd. Wrth gerdded trwy Gaerdydd, Casnewydd, Morgannwg e.e rwyf wedi clywed Cymraeg, sydd yn ardderchog.
Cododd fy nghalon heddi wedi clywed am chwaer fy ffrind sydd yn mynd i ysgol Saesneg, dim ond 11 oed yw hi ond mae'n dysgu Cymraeg ac erbyn hyn mae ar ei ffordd i ruglder. Bydd y cyfrifiad yn dangos cynydd rwy'n siwr a gyda'r ffaith bod yr iaith bellach ymhobman a'r gallu i ddefnyddio Cymraeg yn gwella , efallai ei fod e yn argoeli'n dda wedi'r cwbl :D
Ben Alun
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 11
Ymunwyd: Maw 24 Mai 2011 1:25 am
Lleoliad: Abertyleri, Blaenau Gwent

Re: Tafodiaith, bratiaith, neu ddiogi ?

Postiogan Ramirez » Mer 25 Mai 2011 3:39 pm

Ben Alun a ddywedodd:Mae strwythur y frawddeg 'mae gyda fi' yr un mor gywir ag ydy 'mae gen i'.

Ydi, mae hi'n gywir o ran strwythur, ond tydi "gyda" ddim yn gwneud synnwyr yn y frawddeg i mi, er ei bod yn cael ei ddefnyddio'n aml bellach. Ella 'mod i'n anghywir, ond dwi'n siwr nad ydi "mae gyda fi" yn gywir. "Mae gen i" neu "Mae genyf i" ddylai o fod - tydi'r gair "gyda" ddim yn golygu'r un peth nac yn cyflawni'r un peth o fewn y frawddeg. All rhywun fy rhoi yn fy lle ar hyn plis?!

Hogyn o Rachub a ddywedodd:Dwi byth wedi clywed

Aha! Mae hwn yn un dwi 'di bod yn pendroni amdano hefyd!
Be wyt ti'n olygu efo "byth wedi clywed" - "never heard", ynteu "still haven't heard" ?

"Dwi erioed wedi clywed" fyswni'n ei ddeud, ond dwi 'di sylwi fod "byth wedi clywed" yn dechrau cael ei ddefnyddio'n aml, yn enwedig yn y de. Mae o fel cyfieithiad od o'r Saesneg (byth=ever, ond ei fod yn cael ei ddefnyddio yn lle "never".)

Os fysa rhywun yn deud "Dwi byth wedi bod dramor", mi fyswni'n cymryd hynny i olygu "Dwi DAL heb fod dramor, mae'n bryd i mi fynd!" yn hytrach na "Dwi erioed wedi bod dramor." Neu enghraifft arall, os fysa genti rywbeth angen ei wneud a dy fod di dal heb ei wneud o: "Dwi byth wedi clirio'r ardd 'na, mi oni wedi meddwl gwneud ddoe", yn hytrach nag i olygu dy fod ti erioed wedi clirio'r ardd yn dy fywyd.

Opiniyns?
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Re: Tafodiaith, bratiaith, neu ddiogi ?

Postiogan osian » Mer 25 Mai 2011 4:17 pm

Ramirez a ddywedodd:

I fi, mae gyda yn golygu efo. Lle mae Osian? Mae o gyda fi.

Mae deud 'dwi byth wedi' yn bendant yn awgrymu 'I still haven't'. Os ti heb wrando ar albym newydd Jarman, ac wedi bod yn meddwl neud hynny ers tro, 'dwi byth wedi gwrando ar albym Jarman'. Os ti heb wrando arni, a ddim wedi bwriadu un ffordd neu llall, 'dwi heb wrando...'. Dydi 'erioed' ddim yn angenrheidiol.
"I'm hugely confused Ted!"
Rhithffurf defnyddiwr
osian
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 627
Ymunwyd: Mer 20 Meh 2007 2:40 pm
Lleoliad: o flaen sgrin

Re: Tafodiaith, bratiaith, neu ddiogi ?

Postiogan osian » Mer 25 Mai 2011 4:17 pm

I osgoi'r dryswch yma, wrth gwrs, y peth gora i neud ydi gwrando ar albym newydd Jarman
"I'm hugely confused Ted!"
Rhithffurf defnyddiwr
osian
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 627
Ymunwyd: Mer 20 Meh 2007 2:40 pm
Lleoliad: o flaen sgrin

Re: Tafodiaith, bratiaith, neu ddiogi ?

Postiogan Ramirez » Mer 25 Mai 2011 4:28 pm

osian a ddywedodd:
Ramirez a ddywedodd:
Ben Alun a ddywedodd:Mae strwythur y frawddeg 'mae gyda fi' yr un mor gywir ag ydy 'mae gen i'.

Ydi, mae hi'n gywir o ran strwythur, ond tydi "gyda" ddim yn gwneud synnwyr yn y frawddeg i mi, er ei bod yn cael ei ddefnyddio'n aml bellach. Ella 'mod i'n anghywir, ond dwi'n siwr nad ydi "mae gyda fi" yn gywir. "Mae gen i" neu "Mae genyf i" ddylai o fod - tydi'r gair "gyda" ddim yn golygu'r un peth nac yn cyflawni'r un peth o fewn y frawddeg. All rhywun fy rhoi yn fy lle ar hyn plis?!

Hogyn o Rachub a ddywedodd:Dwi byth wedi clywed

Aha! Mae hwn yn un dwi 'di bod yn pendroni amdano hefyd!
Be wyt ti'n olygu efo "byth wedi clywed" - "never heard", ynteu "still haven't heard" ?

"Dwi erioed wedi clywed" fyswni'n ei ddeud, ond dwi 'di sylwi fod "byth wedi clywed" yn dechrau cael ei ddefnyddio'n aml, yn enwedig yn y de. Mae o fel cyfieithiad od o'r Saesneg (byth=ever, ond ei fod yn cael ei ddefnyddio yn lle "never".)

Os fysa rhywun yn deud "Dwi byth wedi bod dramor", mi fyswni'n cymryd hynny i olygu "Dwi DAL heb fod dramor, mae'n bryd i mi fynd!" yn hytrach na "Dwi erioed wedi bod dramor." Neu enghraifft arall, os fysa genti rywbeth angen ei wneud a dy fod di dal heb ei wneud o: "Dwi byth wedi clirio'r ardd 'na, mi oni wedi meddwl gwneud ddoe", yn hytrach nag i olygu dy fod ti erioed wedi clirio'r ardd yn dy fywyd.

Opiniyns?

I fi, mae gyda yn golygu efo. Lle mae Osian? Mae o gyda fi.

Mae deud 'dwi byth wedi' yn bendant yn awgrymu 'I still haven't'. Os ti heb wrando ar albym newydd Jarman, ac wedi bod yn meddwl neud hynny ers tro, 'dwi byth wedi gwrando ar albym Jarman'. Os ti heb wrando arni, a ddim wedi bwriadu un ffordd neu llall, 'dwi heb wrando...'. Dydi 'erioed' ddim yn angenrheidiol.

Ia, priseisli.

Ond mae'r 'erioed' yn dod iddi - ffor'gsampl, os fysa rhywun yn gofyn "Wyt ti'n lecio Awstralia", ma'n debyg y byswni'n ateb "Dwi erioed wedi bod".

I mi beth bynnag, yn fras, fel hyn mae hi:

"Dwi erioed wedi" = "I have never"
"Dwi byth wedi" = I still haven't
"Dwi heb" = I haven't

Mae'r "gyda" yn fy nharo i'n hollol od, ac yr un mor anghywir a "fi efo".
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Re: Tafodiaith, bratiaith, neu ddiogi ?

Postiogan Hogyn o Rachub » Mer 25 Mai 2011 4:43 pm

O'n i'n trafod y byth/erioed yn gwaith ychydig wythnosau'n ôl a dwi'n meddwl mai chdi sy'n gywir deud y gwir! Serch hynny, be o'n i'n ei olygu oedd "I have never" sef wrth gwrs fy mod i erioed wedi'i (beryg fy mod i wedi byw yn y de lot hirach nag sy'n iach). Taswn isho dweud "I still haven't" mi fuaswn i'n dweud "dwi dal heb..." yn hytrach na defnyddio 'byth' - dydi o ddim yn awgrymu "I still haven't" i mi.

Ond dwi'm yn licio pobl yn defnyddio 'erioed' yn y lle anghywir. Yn ôl i albwm Jarman...

Dwi erioed wedi'i glywed (I have never heard it)
Dwi wedi'i glywed erioed (I've always heard it)
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Nesaf

Dychwelyd i Defnyddio maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 0 gwestai

cron