Bywgraffiad o Reu
gan P. Afanc
Dechreuodd Reu ei yrfa fel gair poblogaidd ar ddechrau'r 90au mewn ardal wledig yn Arfon o'r enw Penygroes. Peth bach oedd o i ddechra cofiwch, efo dim ond llond llaw o bobol yn gyfarwydd ag o. Defnyddid ef yn fynych gan rafins, rapsgaliwns, shipshwn a pharchusion yr ardal i olygu'r hyn a elwir hefyd yn 'dope', 'draw', 'hash', 'gwair', 'wacibaci'.
Lledaenodd yr arfer o ddweud 'REU' fel tân gwyllt drwy Gymru benbaladr gan fagu coesau mawr a llond mop o wallt cyrliog. Erbyn i'r band 'Ty Gwydr' ffrwydro i mewn i'n bywydau fel slebjan oer, roedd pawb yn gyfarwydd â Reu.
Cynhaliwyd gig anferthol i ddweud tatagwynteg i Ty Gwydr a Reu ym Mhontrhydfendigaid yn ystod Steddfod Aber 1992 o'r enw 'NOSON CLADDU REU'.
Ond ymhell o fod yn gelain, profodd Reu i'r byd a'r betws bod bywyd ynddo o hyd
(sylwch fod Ty Gwydr wedi penderfynu dilyn y lli ac wedi penderfynu atgyfodi. Ma nhw'n perfformio ym mharti Dockrad ar y 18 o Ragfyr) ac mae o'n dal i fynd o nerth i nerth gan wneud ymddangosiadau mewn dywediadau enwog megis 'Reu dy Fam', 'Reu Cont', 'RibidiREUdus' (diolch i Ifan Saer am honna), 'REEEEEEEEEUUUUGH' a 'Ffocoffcocwancar. Reu' a'r ddeialog fyd enwog
A:Ffansi peint?
B:Reu
Ydi - mae Reu yn fyw ac yn iach yng Nghymru o hyd, o gopa'r wyddfa i lawr i'w thraethau, o'r de i'r gogledd o fon i fynwy...
OND (dy dy dy dyyyyyy)
Mae ymgeisydd arall yn y ras. Ffrwydrodd TEW yn ein gwynebau fel tunall o lard a mynnu ein sylw. Ers hynny, 'TEW' yw'r gair a weiddir mewn gigs, 'TEW, MYDDARFFYCARS' yw'r hyn a weiddir mewn steak houses gefn nos wrth weinyddion gwymab sugno lemon sy cau serfio lager mond gwin neu fodcas (iawn, oce ond cachurwtsh i ogan sgint fel fi

)
Tew dy Nain, Tew Dy Flew
Tew dy Reu, Tew dy Js (naishwon)
TEW (ond lle ma Reu??

)