am edefyn diddorol. . .
Rwy'n newydd ddyfodiad i Gwmtawe (Ynyswen sy'n agos iawn i Abercraf). A hefyd rwy'n "ail-ddyfodiad" (i gam-ddefnyddio gair) i'r Gymraeg. O'n i'n siarad Cymraeg pan o'n i'n ifanc iawn yn ardal Penclawdd ond collais i lawer a dim wedi dod yn ol ati hi nes o'n i'n oedolyn. Felly mae pobol lleol yn mynnu nag ydw i'n siarad "iaith Cwmtawe"
Ta beth. Mae ddiddorol nodi nawr mod i'n defnyddio mwy o eiriau "lleol" (boed yn Wenhwyseg neu'n Ddyfedeg!) na'm mab 5 mlwydd oed i. Mae ei iaith e'n eithaf "safonol". Mae'n dweud "fi eisha diod" neu "ma' rhaid i fi tacluso fy stafell" lle bydda i (ie fi, hyd yn oed) yn dweud "wy'n mo'yn peth i ifed" neu "mae eisha i ti gymwyni".
Dyw fy ngwraig i ddim yn siarad y Gymraeg o gwbl felly dim ond tri dylanwad sy dros ei Gymraeg e
- iaith ei gyfoedion yn yr ysgol (yn Saesneg mae'n siarad a phlant y pentref)
- fy iaith i
- iaith ei athrawon, "iaith ysgol" (mae'n mynd i'r ysgol Gymraeg yn Ystradgynlais)
Byddwn i'n erfyn y byddai'r dynlanwad yn disgyn fel bod chi'm mynd lawr y rhestr. Mae digon o blant o deuleuoedd Cymraeg yn ei ddosbarth e ond mae'n dal i ddod ma's gyda phethau nag yw fy Mam-yng-nghyfraith (sy'n dod o Ystalyfera yn wreiddiol ond sy wedi byw yng Nghastell Nedd ers blynyddoedd) yn cydnabod fel geiriau priodol "South Wales Welsh" o gwbl.
Fy nghasgliad i yw bod y tafodiaeth lleol ym mhen uchaf Cwmtawe wedi stopio bod yn gynhyrchiol a Chymraeg "ysgol Gymraeg ail-iaith" gawn ni o hyn ymlaen, yn union fel Cymraeg plant Ysgolion Cymraeg o Abertawe neu Gaerdydd neu ble bynnag. Sy'n beth trist ofnadwy. Dim o achos unrhyw ffaeleddu yn iaith y rhai sy wedi bod yn yr Ysgolion Cymraeg ond o achos diflaniad iaith naturiol yr ardal hon.